Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 6 Mehefin 2023
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 6 Mehefin 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Present
Cyd-gadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Aelodau'r Comisiwn
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Panel Arbenigol
- Gareth Williams
- Hugh Rawlings
Eitem 3
- Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol HMPPS Cymru
Eitem 6
- Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru
- James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder, Llywodraeth Cymru
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
Ymddiheuriadau
- Michael Marmot
Eitem 1: Croeso gan y Cyd-gadeiryddion
1. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion y Comisiynwyr i'r cyfarfod.
Eitem 2: Adroddiad terfynol - poblogi'r Fframwaith Dadansoddi
2. Trafododd y Comisiynwyr bapurau a ddarparwyd gan y Panel Arbenigol a fyddai'n helpu i strwythuro'r adroddiad terfynol.
Eitem 3: Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol HMPPS Cymru
3. Rhoddodd y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol HMPPS Cymru dystiolaeth i'r Comisiwn.
Eitem 4: Diweddariad is-grwpiau
4. Ystyriodd y Comisiynwyr adroddiadau cynnydd gan yr is-grwpiau ar drafnidiaeth, cyflogaeth a chyfiawnder.
Eitem 5: Llywodraethu mewnol Cymru
5. Trafododd y Comisiynwyr bapur y Panel Arbenigol.
Eitem 6: Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru, a James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder, Llywodraeth Cymru
6. Rhoddodd Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru, a James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfiawnder yn Llywodraeth Cymru dystiolaeth i'r Comisiwn.
Eitem 7: Myfyrio a lapio i fyny
7. Trafododd y Comisiynwyr y dystiolaeth yr oeddent wedi'i chlywed.