Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 28 Medi 2023
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 28 Medi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cyd-gadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Aelodau'r Comisiwn
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Lauren McEvatt
- Michael Marmot
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Eitem 3
- Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr, YesCymru
Eitem 4
- Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr Pontio, Cyfansoddiad a Chyfiawnder Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru
- Sophie Brighouse, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru
- David Rich, Pennaeth y Cyfansoddiad, Llywodraeth Cymru
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Victoria Martin, Arweinydd Polisi
- Heulwen Mai Vaughan, Ysgrifennydd y Comisiwn
- Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Rhiannon Perkins, Arweinydd Ymgysylltu
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
Ymddiheuriadau
- Shavanah Taj
- Gareth Williams
Eitem 1: Croeso gan y cyd-gadeiryddion
1. Croesawodd y cyd-gadeiryddion y comisiynwyr i'r cyfarfod, a nodwyd ymddiheuriadau gan Shavanah Taj a Gareth Williams.
Eitem 2: Cyfarfod busnes
2. Trafododd y comisiynwyr ddrafft diweddaraf yr adroddiad a chytunwyd ar ddiwygiadau.
Eitem 3: Cyfarfod tystiolaeth - YesCymru
3. Croesawodd y cyd-gadeiryddion Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, i'r cyfarfod. Amlinellodd Gwern Gwynfil syniadau YesCymru ar annibyniaeth, gan gynnwys yr angen i weithio tuag at sefyllfa lle roedd cefnogaeth eang yng Nghymru; pwysigrwydd y trefniadau gwahanu sydd i'w trafod gyda Llywodraeth y DU; a'r cyfleoedd y gallai annibyniaeth eu cynnig i Gymru.
Eitem 4: Cyfarfod tystiolaeth - Prif Weinidog Cymru
4. Croesawodd y cyd-gadeiryddion Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru. Nododd y Prif Weinidog ei farn ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona, cysylltiadau rhyngwladol, a chysylltiadau rhynglywodraethol.
Eitem 5: AHNE
5. Diolchodd y cyd-gadeiryddion i'r comisiynwyr am eu cyfraniadau.