Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 26 Ebrill 2022
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 26 Ebrill 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cydgadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Comisiynwyr
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Ymddiheuriadau
- Philip Rycroft
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Heulwen Mai Vaughan, Ysgrifennydd
- Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion
1. Croesawodd y Cydgadeiryddion y Comisiynwyr i’r cyfarfod a nodwyd ymddiheuriadau Philip Rycroft.
Eitem 2: Rhaglen Waith
2. Trafododd y Comisiwn lansiad Dweud eich Dweud a nododd y nifer calonogol o ymatebion a dderbyniwyd hyd yma. Trafodwyd beth arall y gellid ei wneud i godi proffil a chyrhaeddiad yr ymgynghoriad.
3. Cytunodd y Comisiwn ar restr o dystiolaeth ffeithiol y gofynnir amdani gan Lywodraeth Cymru.
4. Edrychodd y Comisiwn ymlaen at y sesiwn dystiolaeth nesaf.
Eitem 3: Unrhyw fater arall
5. Trafododd y Comisiwn yn fyr yr agenda ar gyfer y cyfarfod wyneb yn wyneb a rhaglen digwyddiadau’r Comisiwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru