Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cydgadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Comisiynwyr

  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Eitem 4

  • Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
  • Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru
  • Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Chris Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Chyfiawnder

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd i'r Comisiwn
  • Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr y Swyddfa

Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion

Croesawodd y Cydgadeiryddion y Comisiynwyr i gyfarfod cyntaf y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Eitem 2: Cyflwyniadau

Cyflwynodd y Comisiynwyr a'r swyddogion eu hunain yn fyr.

Eitem 3: Yr Amcanion Eang a'r Rhaglen Waith

Nododd y Comisiynwyr yr amcanion eang a thrafod dull y Comisiwn ar gyfer datblygu ei raglen waith.

Eitem 4: Prif Weinidog Cymru (Mark Drakeford AS), Arweinydd Plaid Cymru (Adam Price AS) a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (Mick Antoniw AS)

Ymunodd y Prif Weinidog, Arweinydd Plaid Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol â'r cyfarfod am gyfnod byr. Diolchasant i'r Comisiynwyr am ymgymryd â'u rolau a nodi'n fras eu hamcanion wrth sefydlu'r Comisiwn.

Eitem 5: Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Trafododd y Comisiwn ei ddull o gyfathrebu ac ymgysylltu a sut fyddai orau i ddatblygu strategaeth ymgysylltu gynhwysol a phellgyrhaeddol.

Eitem 6: Ffyrdd o Weithio

Trafododd y Comisiwn y trefniadau ymarferol ar gyfer ei waith. Cytunodd y Comisiwn y byddai'n cyhoeddi cofnodion pob cyfarfod ac y byddai'r cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal yn rhithwir am y tro.

Eitem 7: Unrhyw fater arall

Ni chodwyd unrhyw fater arall. Diolchodd y Cydgadeiryddion i'r Comisiynwyr am eu hamser a nodwyd bod y cyfarfod wedi bod yn un cynhyrchiol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru