Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cydgadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Comisiynwyr

  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Sylwedydd

  • Gareth Williams, Panel yr Arbenigwyr

Ar gyfer Eitem 4

  • Yr Athro Jean Jenkins, Cadeirydd, Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru
  • Joe Allen, TUC Cymru
  • Nisreen Mansour, TUC Cymru
  • Julie Cook, Swyddog Cenedlaethol, TUC Cymru

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd y Comisiwn
  • Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
  • Rod Hough, Rheolwr Swyddfa

Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion

Croesawodd y cydgadeiryddion y comisiynwyr i ail gyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Eitem 2: Rhaglen Waith

Trafododd y comisiynwyr y rhaglen waith a dulliau posibl ar gyfer meithrin cysylltiadau â’r cyhoedd mewn manylder, gan adlewyrchu’n ôl ar y gweithdai a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr ac ym mis Ionawr. Cytunwyd y dylai’r Comisiwn lansio galwad am dystiolaeth a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyn gynted â phosibl.

Eitem 3: Diweddariad ynglŷn â Phanel yr Arbenigwyr

Rhoddodd y cydgadeiryddion ddiweddariad i’r comisiynwyr ynghylch penodiadau i Banel yr Arbenigwyr.

Eitem 4: Yr Athro Jean Jenkins, Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru

Ymunodd yr Athro Jean Jenkins, Cadeirydd y Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru â’r cyfarfod er mwyn rhoi crynodeb ar waith y Comisiwn. Cytunwyd y byddai’n ddefnyddiol i’r ddau Gomisiwn gadw mewn cysylltiad â’i gilydd wrth i’w rhaglenni gwaith perthnasol ddatblygu.

Eitem 5: Unrhyw fater arall

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill. Rhoddwyd diolch gan y cydgadeiryddion i’r comisiynwyr am eu hamser. Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru