Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 18 Hydref 2022
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 18 Hydref 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cydgadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Comisiynwyr
- Miguela Gonzalez
- Lauren McEvatt
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Panel yr Arbenigwyr
- Gareth Williams
Eitem 1
- Syr David Lidington
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd
- Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Ymddiheuriadau
- Michael Marmot
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
Eitem 1: Syr David Lidington
1. Croesawodd y cyd-Gadeiryddion y Comisiynwyr ac estynnwyd eu diolch i Syr David Lidington am gytuno i gwrdd â'r Comisiwn yn ystod ei ymweliad â Chaerdydd.
2. Gwnaeth Syr David yr achos dros gysylltiadau rhynglywodraethol cryf, roedd wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth pan yn arwain ar gysylltiadau â'r llywodraethau datganoledig.
3. Dywedodd Syr David fod parchu confensiynau a llywodraethu priodol yn hanfodol, ac roedd yn difaru'r diffyg cyswllt rhwng y Prif Weinidog ar y pryd, Liz Truss a'r Prif Weinidogion datganoledig.
4. Pwysleisiodd bwysigrwydd arweinyddiaeth wrth sicrhau bod y gwasanaeth sifil yn deall datganoli ac yn ei gymryd o ddifrif. Roedd yn deall y dadleuon dros ddatganoli cyfiawnder ond tynnodd sylw at yr achos gweithredol dros reoli'r gwasanaeth carchardai fel system Cymru a Lloegr.