Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cydgadeiryddion

  • Laura McAllister
  • Rowan Williams

Comisiynwyr

  • Anwen Elias
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Eitem 2 yn unig

  • Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
  • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Eitem 3 yn unig

  • Gareth Williams
  • Hugh Rawlings

Eitem 4 yn unig

  • Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Gaynor Richards, Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot

Ysgrifenyddiaeth

  • Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
  • Carys Evans, Cynghorydd
  • Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
  • Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa

Ymddiheuriadau

  • Miguela Gonzalez

Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion

1. Croesawodd y Cydgadeiryddion y Comisiynwyr i’r cyfarfod, a nodwyd ymddiheuriadau gan Miguela Gonzalez.

2. Nododd y Comisiynwyr y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf, a chytunwyd y dylai cyhoeddi cofnodion lefel uchel ar wefan y Comisiwn.

Item 2: Comisiynwyr Cymru

3.Croesawodd y Cydgadeiryddion Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r
Dyfodol Cymru, Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a Sally
Holland, Comisiynydd Plant Cymru. Nododd y Comisiwn â thristwch farwolaeth
Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.

4. Cafodd Comisiynwyr Cymru eu gwahodd gan y Cydgadeiryddion i gyfleu eu hamgyffrediad hwy o lywodraethiant Cymru, a sut yr eir ati i ymgysylltu â dinasyddion Cymru.

Eitem 3: Beth sydd o’i le ar y setliad presennol?

5. Cyflwynodd Gareth Williams ddadansoddiad o’r setliad presennol, a’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU.

Eitem 4: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

6. Croesawodd y Cydgadeiryddion Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), a Gaynor Richards, Cyfarwyddwr, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot. Trafodwyd rôl unigryw’r trydydd sector o ran llywodraethu yng Nghymru, a’u profiad helaeth o ymgysylltu â dinasyddion.

Item 5: Rhaglen waith

7. Trafododd y Comisiynwyr y flaenrhaglen waith, yn cynnwys lansio sianeli cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddi Galwad am Dystiolaeth. Trafododd y Comisiynwyr yn fyr y dull o ymdrin â’r adroddiad interim.

Eitem 6: Unrhyw Fater Arall

8. Cafodd dyddiad y gweithdy nesaf ar ymgysylltu ei bennu ar gyfer 7 Mawrth.

9. Diolchodd y Cydgadeiryddion i’r aelodau am eu cyfraniadau yn ystod y cyfarfod. Roeddent yn cytuno bod llawer iawn i’w ystyried a’i roi ar waith.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru