Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 15 Gorffennaf 2022
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 15 Gorffennaf 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cydgadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Comisiynwyr
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Lauren McEvatt
- Michael Marmot
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Panel yr Arbenigwyr
- Gareth Williams
- Hugh Rawlings
Eitem 2
- Dr Robert Jones, darlithydd yn System Cyfiawnder Troseddol Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
Eitem 3
- Yr Arglwydd Thomas, cyn Gadeirydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
- Heulwen Mai Vaughan, Ysgrifennydd
- Carys Evans, Cynghorydd
- Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
- Ruth Leggett, Pennaeth y Gangen Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Rod Hough, Rheolwr Swyddfa
Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion
1. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion bawb i'r cyfarfod.
Eitem 2: Dr Robert Jones, Prifysgol Caerdydd
2. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion Dr Robert Jones, darlithydd yn System Cyfiawnder Troseddol Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a'i wahodd i grynhoi ei ymchwil. Trafododd y Comisiwn nifer o faterion gyda Dr Jones, gan gynnwys diffyg tryloywder ac atebolrwydd system gyfiawnder Cymru, profiad carcharorion o Gymru a'u teuluoedd, a chostau a manteision posibl datganoli.
Eitem 3: Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd
3. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion yr Arglwydd Thomas, Cadeirydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a'i wahodd i nodi casgliadau'r ymchwiliad hwnnw. Trafododd y Comisiwn nifer o faterion yn deillio o'r adroddiad gyda'r Arglwydd Thomas, gan gynnwys cymhlethdod y rhyngweithio rhwng gwasanaethau cyfiawnder a gwasanaethau datganoledig fel iechyd, addysg a thai, a'r ffordd roedd gwasanaethau yn cael eu hintegreiddio mewn awdurdodaethau llai fel Gogledd Iwerddon.
Eitem 4: Myfyrdod
4. Myfyriodd y Comisiynwyr ar y dystiolaeth a ddarparwyd yn y sesiynau blaenorol.
Eitem 5: UFA
5. Diolchodd y Cyd-gadeiryddion i'r Comisiynwyr am eu cyfraniadau.