Cyfarfod y Cabinet: 3pm 4 Hydref 2021
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 3pm 4 Hydref 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Hannah Blythyn AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Shan Morgan, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
- Steve Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Seilwaith a Sicrwydd
- Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
2.1 Adroddwyd bod gwaith o sefydlu'r Comisiwn Cyfansoddiadol yn parhau. Roedd y Cyd-gadeiryddion bellach wedi eu penodi ac roedd y broses o gwblhau aelodaeth y Comisiwn a'r panel arbenigol yn mynd rhagddi. Trefnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad wneud datganiad i'r Siambr ar 19 Hydref. Ar ôl i’r Comisiwn gael ei sefydlu, bydd yn annibynnol ar y Llywodraeth.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wrth y Cabinet fod un newid i grid y Cyfarfod Llawn, sef bod datganiad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi'i ail-enwi'n ‘Rhoi Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar Waith yn Genedlaethol’. Yr amseroedd pleidleisio disgwyliedig yw 6:40pm ddydd Mawrth a tua 5.35pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â Chyllideb ddrafft 2022-23 ym mis Rhagfyr.
4.2 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Hynt y Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog dros yr Economi y papur, a ofynnodd i'r Cabinet nodi'r argymhellion a ddeilliodd o'r adolygiad gan gymheiriaid o'r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, mewn ymateb i ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu.
5.2 Dylai'r ffocws fod ar fuddsoddi yn y boblogaeth oedran gweithio bresennol a denu pobl i fyw a gweithio yng Nghymru, wrth adeiladu naratif unigryw, cydlynol a chymhellol ar gyfer dyfodol y wlad.
5.3 Roedd y Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, wedi sefydlu egwyddorion adfer sylfaenol y weinyddiaeth flaenorol. Dros yr haf, gofynnwyd i'r Athro Jonathan Portes o Goleg Kings Llundain adolygu'r cyfeiriad hwnnw a chynghori ar gyfleoedd a meysydd ffocws ar gyfer y camau nesaf. Roedd y papur yn nodi cynigion i adeiladu ar gasgliadau’r adolygiad.
5.4 Un sylw trawiadol yn yr adroddiad oedd bod cyfran y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru wedi bod yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn ers canol 2008, a gallai hyn fod mor isel â 58% o'r boblogaeth erbyn 2043.
5.5 Nododd y papur y dylid dilyn yr ymdrechion i fynd i'r afael â'r mater hwn fel rhai a fyddai’n ategu polisi economaidd blaengar sy’n canolbwyntio ar swyddi gwell, cau’r gagendor sgiliau a mynd i'r afael â thlodi. Roedd y dadansoddiad yn dangos y byddai mewnfudo'n dod â manteision net i'r economi a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â swyddi ychwanegol. Ar ben hynny, roedd y polisi Cenedl Noddfa yn cryfhau’r ffaith bod croesawu ceiswyr lloches yn dda i'r economi a’r gymdeithas yn ehangach.
5.6 Ni fyddai unrhyw symud i ffwrdd oddi wrth y Genhadaeth wreiddiol, a'i phum uchelgais fyddai’r blaenoriaethau allweddol o hyd. Byddai bwrw ymlaen â hyn yn golygu adeiladu economi yn seiliedig ar waith teg, a hefyd gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Ni fyddai’r camau a gymerir i fynd i'r afael â'r mater demograffig yn cael eu cyfuno â dychwelyd at orddibyniaeth gul ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor.
5.7 Rhan allweddol o'r dull gweithredu yn y dyfodol fyddai creu naratif o’r hyn sy’n gwneud Cymru'n wlad ddeniadol i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddi. Roedd hyn yn cynnwys yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn pobl drwy'r Warant i Bobl Ifanc a'r cynnig cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys cymorth i'r rhai sy'n llai tebygol o gael cymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
5.8 Croesawodd y Cabinet y papur, yn enwedig y modd o ymdrin â gwaith teg a phartneriaeth cymdeithasol. Roedd yn hanfodol parhau i ymgysylltu ag Undebau Llafur a chyflogwyr.
5.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.