Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
  • Liz Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Ailddechrau ar ôl COVID-19
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Uwch-Gyfreithiwr

Eitem 1: Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 7 Hydref 2021

1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet lywio cynlluniau’r cyfnod yr adolygiad presennol o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5).

1.2 Cafodd y Gweinidogion eu hatgoffa mai diben y cyfyngiadau COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd cyhoeddus i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gwn y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

1.3 Cafodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ei wahodd gan y Prif Weinidog i roi trosolwg o’r sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol.

1.4 Ar hyn o bryd, o blith y pedair gwlad, Cymru oedd â’r gyfradd heintio uchaf. Fodd bynnag, roedd y data a gasglwyd dros y penwythnos yn awgrymu bod y cyfartaledd saith diwrnod bellach wedi gostwng o 650 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, fel yr adroddwyd ddydd Gwener, i 559. Roedd hyn yn galonogol, ond roedd yn rhy gynnar i awgrymu y gallai fod yn dueddiad. Y gyfradd heintio uchaf oedd y gyfradd ymysg pobl o dan 25 oed, lle’r oedd yr achosion oddeutu 1,000 ym mhob 100,000, ond roedd y cyfraddau heintio ymysg pobl dros 60 oed yn sefydlog, gyda 205 o achosion yn cael eu hadrodd ym mhob 100,000.

1.5 Rhoddodd Prif Weithredwr y GIG wybod i’r Gweinidogion fod y sefyllfa wedi gwella o fewn y Gwasanaeth Iechyd, a bod nifer y cleifion sydd â COVID-19 mewn gwelyau ysbyty wedi gostwng i 600. Hefyd bu gostyngiadau cyfatebol yn nifer yr achosion a oedd wedi cael eu cadarnhau a’r rheini sydd mewn unedau gofal critigol. Roedd pob bwrdd iechyd islaw lefel y modelu gweithredol presennol ar gyfer y pandemig.

1.6 Roedd y gwaith paratoi’n mynd rhagddo i gyflwyno Pàs COVID gorfodol ar gyfer cael mynediad i leoliadau risg uchel, a chytunodd y Gweinidogion y dylai pobl gael eu hannog i gael eu pasys cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw broblemau technegol tebyg i’r rheini a oedd yn gysylltiedig â chyflwyno Pasbortau Brechu yn yr Alban. Byddai dadl ar y rheoliadau a fyddai’n cyflwyno’r Pàs COVID yn cael ei chynnal yn y Senedd y diwrnod canlynol.

1.7 O ystyried y sefyllfa iechyd cyhoeddus gyffredinol, cytunodd y Cabinet y dylid cadw’r gofynion Lefel Rhybudd 0 ar gyfer y cyfnod adolygu presennol.

1.8 Nododd y Gweinidogion oblygiadau’r ffaith bod cynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU yn cau, ac effeithiau hynny, ochr yn ochr â dod â’r cynnydd mewn credyd cynhwysol i ben, ar deuluoedd yng Nghymru. Byddai hyn yn gwaethygu anghydraddoldebau, ac yn effeithio’n benodol ar bobl agored i niwed yn ein cymdeithas ac ar iechyd meddwl pobl.

1.9 Ymysg y papurau oedd drafft diweddaraf Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, a oedd yn disgrifio sut y byddai’r Llywodraeth yn ymateb i COVID-19 yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf. Yn amodol ar farn y Gweinidogion, cynigiwyd y byddai’r cynllun diweddaraf yn cael ei rannu â phartneriaid yr ymddiriedir ynddynt cyn ei gyhoeddi yn ôl y bwriad ddiwedd yr wythnos.

1.10 Roedd y Cynllun Rheoli wedi cael ei ddiwygio mewn modd sy’n ategu Cynllun Gaeaf y GIG a Gofal Cymdeithasol sy’n gynllun manylach, a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i baratoi ar gyfer ymateb i salwch anadlol y gaeaf.
 
1.11 Byddai gan Weinidogion tan ddiwedd y diwrnod canlynol i ddarparu unrhyw sylwadau pellach ar y Cynllun Rheoli diwygiedig. Byddai’r newidiadau’n cael eu cyflwyno i Weinidogion yn y galwad 9am ddydd Iau ochr yn ochr â’r cyngor diweddaraf ar Profi Olrhain Diogelu.

1.12 Cytunodd y Gweinidogion y dylai swyddogion symud ymlaen yn unol â’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion.