Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS
  • Hannah Blythyn AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg
  • Dewi Knight, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Addysg

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod pleidlais wedi cael ei drefnu ar gyfer 7pm ddydd Mawrth ac o gwmpas 5:50pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Diwygio’r Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol

3.1 Cyflwynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y papur a oedd yn gwahodd y Cabinet i nodi’r cynnydd o ran cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ymchwilio i’r posibilrwydd o ddiwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol.

3.2 Roedd gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym ar y meysydd polisi gwahanol ond ategol. Roedd angen gweithio ar draws y Llywodraeth er mwyn rhoi sylw i anfantais a lleihau anghydraddoldebau addysgol, ac ar yr un pryd cefnogi llesiant dysgwyr a staff. Dylai’r newidiadau adlewyrchu’r patrymau bywyd teuluol a chyflogaeth presennol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i gael profiadau cymdeithasol, ymarferol, a diwylliannol ehangach.

3.3 Byddai rhaglen a chyllid Gaeaf Llawn Lles yn cael eu defnyddio i ddatblygu a gweithredu rhaglen a dargedir er mwyn treialu dull gweithredu ar gyfer gweithredu diwrnod ysgol diwygiedig. Roedd model a oedd wedi cael ei awgrymu gan felin drafod y Sefydliad Polisi Addysg yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cyllid a chanllawiau ar gyfer darparu pum awr ychwanegol yr wythnos i bob disgybl dros gyfnod o 10 wythnos o fis Chwefror 2022.

3.4 Byddai’r amser ychwanegol hwn yn gyfle i gynnig gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol ychwanegol, a fyddai’n gydnaws â’r cwricwlwm newydd ac wedi eu targedu at gymunedau difreintiedig. Roedd y dystiolaeth yn dangos bod y gweithgareddau hyn yn cael mwy o effaith ar gyrhaeddiad na gweithgareddau a oedd yn academaidd yn unig. Byddai gan ysgolion ddisgresiwn, o fewn y canllawiau, o ran sut i gynllunio a darparu’r pum awr ychwanegol. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i 20% o’r amser ganolbwyntio ar y sgiliau craidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

3.5 Roedd gwaith yn mynd yn ei flaen gyda’r Awdurdodau Lleol i nodi ysgolion i gymryd rhan yn y cyfnod prawf, er mwyn sicrhau y byddai digon o ddata gwerthuso yn cael eu casglu ynghylch effeithiau, cynnydd academaidd, a llesiant. Y bwriad yw cadarnhau’r ysgolion a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun peilot o fewn y ddwy wythnos nesaf.

3.6 Byddai’r ymarfer hwn yn cael ei werthuso’n drylwyr, a byddai’n ategu’r dystiolaeth ehangach a fyddai’n cael ei chasglu, a hefyd y gwaith datblygu polisi. Byddai angen cydweithredu er mwyn deall yr effeithiau ehangach a’r budd i’r economi, a’r sectorau iechyd a gofal plant.

3.7 Byddai’n bwysig gweithio’n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid, partneriaid a’r rheini y byddai’n effeithio’n uniongyrchol arnynt, gan gynnwys dysgwyr a theuluoedd. Byddai’r gweithlu addysg, cyflogwyr, sefydliadau cyflogwyr, ac eraill i gyd yn cael y cyfle i gymryd rhan. Drwy ddigwyddiad a drefnwyd gan y Comisiynydd Plant, roedd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc eisoes wedi digwydd o ran sut yr oedd eu hamser ysgol yn cael ei drefnu.

3.8 O ran diwygio’r flwyddyn ysgol, roedd tystiolaeth ac enghreifftiau rhyngwladol yn cael eu casglu i helpu i lywio’r gwaith hwn.

3.9 Roedd swyddogion addysg eisoes yn gweithio gyda chydweithwyr mewn adrannau gofal plant, twristiaeth, iechyd y cyhoedd, ac adrannau eraill i asesu’r effeithiau, yr opsiynau, a’r cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu Gweinidogol. Roedd nifer o opsiynau diwygio gwahanol, ac roedd yr ymgysylltu a’r ymchwil cychwynnol yn awgrymu y dylid mabwysiadu model a oedd â thymhorau mwy cyson a seibiannau mwy rheolaidd gyda gwyliau haf byrrach.


3.10 Croesawodd y Cabinet y papur gan gytuno ei bod yn bwysig bwrw ymlaen â’r newidiadau hyn yn gyflym. Ni welwyd cymaint o gynnydd ag arfer ymhlith llawer o’r dysgwyr oherwydd y pandemig. Ar ben hynny, roedd y dystiolaeth yn dangos bod ffactorau a oedd yn torri ar draws eu haddysg, megis gwyliau haf hir, yn cael effaith niweidiol ar ansawdd y profiad dysgu, a bod colli cyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol yn effeithio ar lesiant a hyder disgyblion, yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig.

3.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.