Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Lynne Neagle AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-Adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

  1. Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Tymor y Gwanwyn

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai tymor y gwanwyn yn un prysur.

2.2 Byddai'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol ar 18 Ionawr a byddai angen i'r Llywodraeth wedyn ystyried ei ganfyddiadau'n ofalus. Yn ogystal, byddai Gordon Brown yn cyflwyno'r diweddaraf yn y gyfres o ddarlithoedd cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru yn Llundain ar 7 Mawrth.

2.3 Ar ben hynny, byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad Gofynion Buddsoddi Hirdymor ar 11 Ionawr a byddai'r Strategaeth Tlodi Plant newydd yn cael ei lansio ar 23 Ionawr.

2.4 Byddai nifer o ymgynghoriadau arwyddocaol hefyd yn cau y tymor hwn, fel Treth Gyngor Decach, cam dau ar 6 Chwefror a Strwythur y Flwyddyn Ysgol ar 12 Chwefror.

2.5 Yn ogystal, byddai Ymchwiliad COVID-19 yn cynnal sesiynau tystiolaeth yng Nghaerdydd rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet nad oedd dadleuon wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mawrth ac y byddai amser pleidleisio tua 6.25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Diweddariadau Llafar yn dilyn digwyddiadau dros doriad y Nadolig

4.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Weinidogion i roi adborth ar rai materion a ddigwyddodd dros doriad y Nadolig.

Perfformiad y GIG dros gyfnod y Nadolig

4.2 Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar berfformiad y GIG dros gyfnod y Nadolig. Roedd y Gweinidog wedi gwneud ymweliadau dirybudd ag ysbytai yn ystod y cyfnod hwn, a chafodd hyn groeso mawr gan staff.

Stormydd a Llifogydd Diweddar

4.3 Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Cabinet fod y stormydd diweddaraf a enwir wedi effeithio ar Gymru a'r DU ehangach dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Storm Gerrit dros 27 a 28 Rhagfyr, ac yna Storm Henk ddechrau mis Ionawr.

4.4 O ganlyniad i Storm Gerrit, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybuddion Melyn am law trwm a gwyntoedd cryfion dros ran helaeth o Gymru, a rhybuddion Melyn pellach am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar 30 Rhagfyr. Yn y cyfamser effeithiodd Storm Henk ar rannau helaeth o Gymru yn yr un modd, yn enwedig de a chanolbarth Cymru gyda glaw trwm dros dir a oedd eisoes yn dirlawn.

4.5 Roedd gwasanaethau darogan a rhybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y prif afonydd a'r môr hefyd yn weithredol drwy gydol cyfnod y Nadolig. Yn ystod Storm Henk cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru un Rhybudd Llifogydd Difrifol ar gyfer Afon Ritec ym Mharc Kiln Dinbych-y-pysgod, a arweiniodd at wacáu'r parc carafannau, a chyfanswm o 30 Rhybudd am Lifogydd a 40 Rhybudd ‘Byddwch yn Barod’ ledled Cymru.

4.6 Bu achosion penodol o lifogydd, fel yn Nhafarn y Deri yn Llanedi, Lloches Ysgubor Lizzie yng Nghydweli a nifer o eiddo yn Llansteffan, lle'r oedd yr amddiffynfeydd llifogydd arferol wedi dal ond bod afon fechan y tu ôl i'r pentref wedi gorlifo.

4.7 Awgrymodd yr arwyddion presennol gan Awdurdodau Lleol fod cyfanswm o 37 eiddo wedi dioddef llifogydd mewnol, 23 yn bennaf yng Nglanyfferi a Llansteffan ynghyd ag un eiddo busnes, pedwar yng Nghaerffili, tri yn Sir Benfro, dau yr un yn Sir Fynwy a Thorfaen, ac un yr un ym Mhowys a Rhondda Cynon Taf. Fodd bynnag, roedd manylion llawn yr effeithiau ar gymunedau yng Nghymru yn dal i ymddangos ac roedd swyddogion mewn cysylltiad ag Awdurdodau Lleol ledled Cymru am effaith y ddwy storm.

4.8 Er i sawl afon gyrraedd lefelau rhybudd am lifogydd a bod llawer o gyrsiau dŵr y tu hwnt i'w glannau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi bod ei rwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi atal llifogydd mewn sawl ardal, gyda 73,000 o eiddo yn elwa o'r amddiffynfeydd hyn. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd fod y cronfeydd storio i fyny'r afon ym Mhontarddulais a'r Bont-faen wedi storio llawer iawn o ddŵr gan atal llifogydd i lawr yr afon. Yn ogystal, cafodd y llifddorau yn Abergwili eu defnyddio ac fe wnaeth amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y Drenewydd a Meifod atal llifogydd.

4.9 Yn y flwyddyn ariannol hon, roedd y Llywodraeth wedi dyrannu dros £75m i Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, y gwariant blynyddol uchaf erioed ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru hyd yma.

4.10 Cydnabuwyd, o ystyried pa mor aml y bydd stormydd, y bydd angen gwneud mwy i annog trigolion i fonitro amodau tywydd lleol a defnyddio mesuryddion dŵr glaw a ddarperir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

4.11 Nododd y Gweinidog y byddai'n cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig y diwrnod canlynol ar effaith y stormydd hyn ac i ddangos sut roedd buddsoddiad y Llywodraeth wedi diogelu eiddo yng Nghymru.

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

4.12 Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar yr adolygiad diwylliant a gwerthoedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

4.13 Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi comisiynu Fenella Morris KC i gynnal adolygiad annibynnol o'i ddiwylliant a'i werthoedd yn dilyn achosion o gamymddwyn ymhlith staff a ddatgelwyd gan ITV ym mis Rhagfyr 2022. Bu achos o aflonyddu rhywiol difrifol ac estynedig gan ddiffoddwr tân tuag at gydweithiwr mewn gorsaf dân yng Nghaerdydd, ac achos lle cafwyd diffoddwr tân yn euog o drais domestig. Yn y ddau achos, roedd ymateb y rheolwyr wedi bod yn gwbl annigonol, ni chafodd yr un diffoddwr tân ei ddiswyddo na hyd yn oed ei wahardd ar y pryd. Roedd hyn wedi gwaethygu'r dioddefaint yr oedd eu dioddefwyr wedi'i brofi. Roedd hefyd yn awgrymu problemau difrifol gyda diwylliant a gwerthoedd corfforaethol y Gwasanaeth.

4.14 Canfu adroddiad Ms Morris, a gyhoeddwyd yr wythnos flaenorol, dystiolaeth o agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol annerbyniol ar bob lefel o reolaeth, hyd at a chan gynnwys y lefel uwch. Ymhlith yr achosion penodol a nodwyd yn yr adroddiad roedd sylwadau misogynistaidd wedi'u hesgusodi fel "tynnu coes", delweddau rhywiol ar-lein o staff mewn gwisg, addurniadau Nadolig homoffobig a cham-drin hiliol.

4.15 Yn ogystal, canfu'r adroddiad broblemau sylfaenol difrifol. Roedd "clwb caeedig i ddynion" yn bodoli o fewn y Gwasanaeth, yn enwedig ymhlith uwch reolwyr, roedd anfodlonrwydd a diffyg ysgogiad ymhlith staff, a chred na fyddai unrhyw beth byth yn newid, a bod y trefniadau dyrchafu yn destun rhagfarn a ffafriaeth. Yn ogystal, arweiniodd gweithdrefnau disgyblu yn rhy aml at gosbau annigonol neu ddim cosbau o gwbl. Roedd polisïau Adnoddau Dynol allweddol wedi dyddio, yn annigonol neu'n poeni mwy am ddiogelu enw da'r Gwasanaeth na hawliau unigolion. Ar ben hynny, roedd y gweithlu ymladd tân wedi aros yn wrywaidd a gwyn i raddau helaeth iawn, heb fawr o gynnydd effeithiol i fynd i'r afael â hynny.

4.16 Roedd y prosesau rheoli arferol wedi methu, a allai esbonio pam fod camymddwyn mor gyffredin, gyda diffyg ysgogiad difrifol ac eang.

4.17 Er na ofynnwyd i Ms Morris ystyried perfformiad y gwasanaeth, gallai diffyg ysgogiad a chamreolaeth staff ynghyd â goddefgarwch o arferion gwael arwain at oblygiadau amlwg ar gyfer cyflawni. Roedd pryderon eisoes am agwedd hunanfodlon ac amddiffynnol o dro i dro gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn enwedig wrth wynebu her allanol. Roedd hyn wedi cynnwys mwy neu lai diystyru argymhellion y Prif Gynghorydd Tân ac Achub yn llwyr ynghylch materion gweithredol pwysig, megis lleihau'r risg o flinder a rhoi digon o hyfforddiant i ddiffoddwyr tân.

4.18 Nid oedd y Dirprwy Weinidog wedi diystyru defnyddio pwerau cyfarwyddo ac ymyrraeth, a'r cwestiwn fyddai sut ac i ba raddau y byddai'r Llywodraeth yn gweithredu. Byddai'r Dirprwy Weinidog yn gwneud datganiad i'r Senedd y diwrnod canlynol.

4.19 Cytunodd y Cabinet ei bod yn bwysig i'r Llywodraeth ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus a helpu i greu diwylliant gwaith iach yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2024