Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Eluned Morgan MS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Lynne Neagle MS
  • Ken Skates MS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Sarah Murphy AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Tomos Roberts, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitemau 3 a 4)
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg (eitem 4)

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 15 Gorffennaf.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Newidiadau yn y Cabinet a gweithgarwch yr haf

2.1 Croesawodd y Prif Weinidog Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet i'r cyfarfod a rhoi gwybod iddynt nad oedd yn bwriadu gwneud newidiadau sylweddol i gyfrifoldebau ar hyn o bryd. Byddai ystyriaeth yn cael ei roi i sut i lunio portffolios dros yr wythnosau nesaf, wrth ystyried yr hyn oedd gan y cyhoedd i'w ddweud yng Nghymru dros yr haf.

2.2 Yn y cyfamser, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi'i gadarnhau fel Dirprwy Brif Weinidog, a Mark Drakeford AS yn dychwelyd i'r Llywodraeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dros dro.

2.3 Yn ogystal, penodwyd Elisabeth Jones yn Gwnsler Cyffredinol, hefyd dros dro.

2.4 Roedd y Prif Weinidog eisoes wedi cynnal nifer o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd rhithwir, a oedd yn cynnwys trafodaethau gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a'r Athro Emmanuel Ogbonna. Yn gynharach y diwrnod hwnnw roedd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.

Aflonyddwch sifil

2.5 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at yr achosion niferus o anhrefn, trais, hiliaeth ac Islamoffobia a ddigwyddodd yn dilyn y digwyddiad torcalonnus yn Southport ar 29 Gorffennaf. Er nad oedd Cymru wedi gweld yr un lefel o anhrefn â'r hyn a welwyd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd angen osgoi llaesu dwylo, yn anad dim gan fod adroddiadau bod pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi bod yn darged cam-drin hiliol.

2.6 Byddai'r Prif Weinidog, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, yn mynd i nifer o gyfarfodydd y diwrnod canlynol i drafod pryderon a sut i wella cydlyniant cymunedol. Byddai'r rhai oedd yn mynd i'r cyfarfodydd yn cynnwys Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Prif Gwnstabliaid a chynrychiolwyr o CLlLC, y TUC, y Trydydd Sector a grwpiau cymunedol, ynghyd ag arweinwyr ffydd.

Tata Steel

2.7 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod trafodaethau'n parhau ag Undebau Llafur, rheolwyr, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chynrychiolwyr lleol ar ddyfodol y gwaith dur ym Mhort Talbot. Byddai'r Bwrdd Pontio yn cyfarfod yr wythnos ganlynol.

Eitem 3: Datganiad Canghellor y Trysorlys ar 29 Gorffennaf

3.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ddatganiad diweddar Canghellor y Trysorlys i Dŷ'r Cyffredin ar gyflwr cyllid y Deyrnas Unedig a gwahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i amlinellu'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru.

3.2 Roedd y datganiad wedi cadarnhau bod nifer o ymrwymiadau gwario heb eu hariannu a heb eu datgelu gan y Llywodraeth flaenorol gan arwain at bwysau o £35bn yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn wedi gostwng i £19bn unwaith yr oedd llithriant yn ystod y flwyddyn a'r Gronfa Wrth Gefn, o tua £11bn, wedi cael eu hystyried. Yn ogystal, roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cadarnhau bod benthyca £3.2bn yn uwch na'r hyn a ragwelwyd.

3.3 Mewn ymateb, roedd y Canghellor wedi nodi camau brys i ddod o hyd i arbedion ac wedi nodi diwygiadau hirdymor i adfer rheolaethau gwariant cyhoeddus a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Swyddfa Gwerth am Arian, i nodi meysydd i leihau neu roi'r gorau i wario, ochr yn ochr ag ymdrechion i gynyddu cynhyrchiant yn y sector cyhoeddus.

3.4 Ymhlith y pwysau a nodwyd gan y Canghellor oedd y gost o gytuno ar argymhellion y Cyrff Adolygu Cyflogau annibynnol ar gyfer cyflogau'r sector cyhoeddus. Cadarnhaodd y Canghellor fod Llywodraeth y DU wedi cytuno ar yr argymhellion hyn yn llawn a'i bod wedi cyhoeddi'r cylch gwaith ar gyfer tâl gwasanaeth sifil gyda chynnydd cyfartalog o 5%.

3.5 Er mwyn helpu i amsugno costau, gofynnwyd i adrannau'r DU ddod o hyd i arbedion i fodloni o leiaf traean o'r diffyg ariannol, sy'n cyfateb i £3bn. Gofynnwyd i adrannau hefyd atal yr holl wariant nad oedd yn hanfodol ar ymgynghori a gwaith cyfathrebu'r llywodraeth, a chyflawni 2% o arbedion mewn costau corfforaethol. Nid oedd yn glir a fyddai unrhyw gyllid newydd yn gosod sylfaen ar gyfer y blynyddoedd i ddod, a byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o Adolygiad Gwariant y DU yn y dyfodol.

3.6 Byddai hyn yn golygu bod goblygiadau i ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â thâl sector cyhoeddus, a fyddai'n cael ei drafod yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

3.7 Er mwyn ymateb i'r diffyg, roedd y Canghellor wedi cadarnhau na fyddai sawl prosiect seilwaith heb ei ariannu, fel ysbytai newydd a gwelliannau ffyrdd a rheilffyrdd, yn mynd yn eu blaen.

3.8 Roedd penderfyniadau eraill a wnaed gan y Canghellor i reoli gwariant cyhoeddus yn cynnwys cynnal y cap budd-dal dau blentyn a chyfyngu'r taliad tanwydd gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn yn unig. Amlygodd hyn anhawster y sefyllfa gwariant cyhoeddus yn gyffredinol.

3.9 Yn ystod y datganiad, roedd y Canghellor hefyd wedi cadarnhau 30 Hydref fel dyddiad Cyllideb y DU 2025-2026. Ochr yn ochr â hyn, lansiodd y Canghellor yr Adolygiad Gwariant aml-flwyddyn nesaf, a fyddai'n setlo cyllidebau adnoddau hyd at 2027-2028 a chyfalaf hyd at 2029-2030. Byddai'r adolygiad hwn yn dod i ben yng ngwanwyn 2025.

3.10 Yna byddai dull treigl o adolygu gwariant yn y dyfodol yn cael ei fabwysiadu lle byddai cynlluniau gwariant yn cael eu hadolygu bob dwy flynedd er mwyn osgoi setliadau blynyddol. Byddai un digwyddiad cyllidol bob blwyddyn hefyd, gyda'r amseru i'w gadarnhau. Byddai hyn o gymorth i gynllunio cyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ac roedd yn arbennig o bwysig ar gyfer y dull strategol newydd o ymdrin ag Adolygiad Gwariant Cymru.

3.11 Y bwriad oedd cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 ar 10 Rhagfyr 2024, a fyddai'n caniatáu ychydig llai nag 8 wythnos ar gyfer proses graffu'r Senedd.

3.12 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 4: Tâl y sector cyhoeddus

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno, mewn egwyddor, i dderbyn argymhellion y Cyrff Adolygu Cyflogau a mabwysiadu'r un cylch cyflog i Weision Sifil ag a gynigir i adrannau'r DU.

4.2 Fel yr amlygwyd yn ystod y drafodaeth flaenorol, roedd cyflogau'r sector cyhoeddus wedi ffurfio rhan allweddol o ddatganiad diweddar y Canghellor, lle cadarnhawyd y byddai Llywodraeth y DU yn derbyn argymhellion y Cyrff Adolygu Cyflogau Annibynnol yn llawn ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus yn Lloegr ac yn gosod cylch cyflog o 5% ar gyfer gwasanaeth sifil y DU.

4.3 Yng ngoleuni’r datblygiadau hyn, byddai angen i'r Cabinet gytuno ar ei ddull ar gyfer ymateb i argymhellion y Cyrff Adolygu Cyflogau yng Nghymru.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Awst 2024