Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden MS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle MS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn COVID-19
  • Fliss Bennee, Cyd-Gadeirydd TAC
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Bill MacDonald, Adfer ac Ailgychwyn COVID-19
  • Gemma Nye, swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a Threfnydd wrth y Cabinet fod grid diwygiedig yn y Cyfarfod Llawn wedi'i ddosbarthu i Swyddfeydd Preifat i adlewyrchu'r ffaith y byddai datganiad llafar Ddydd Mawrth ar sefydlu cronfa seibiant a seibiannau byr ar gyfer gofalwyr di-dâl.

Eitem 3: Y Rhaglen Lywodraethu

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a ofynnodd i'r Cabinet gymeradwyo'r Rhaglen Lywodraethu ac y dylid ei gyhoeddi yr wythnos ganlynol.

3.2 Nododd y Rhaglen Lywodraethu y blaenoriaethau cyfunol ar gyfer y Senedd bresennol, gan amlinellu sut y byddai Gweinidogion yn gweithredu i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Cyflwynodd nodau polisi radical ac uchelgeisiol, wrth adlewyrchu dull partneriaeth y Llywodraeth a oedd yn rhoi cydweithio uwchlaw cystadleuaeth, wrth hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

3.3 Cyflawnodd y Rhaglen hefyd y cyfrifoldeb statudol i bennu amcanion llesiant, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a dangosodd sut y byddent yn cael eu bodloni.

3.4 Fe'i cynlluniwyd i fod yn gryno ac i gael yr effaith fwyaf, wrth wneud dyheadau a gwerthoedd y Llywodraeth yn glir. Yr oedd yn cael ei gyhoeddi'n llawer cynt na rhaglenni gwaith Llywodraethau blaenorol, gan ganolbwyntio ar eitemau o'r maniffesto a oedd yn gofyn am nodi a chanolbwyntio ar draws y llywodraeth. Byddai'r Prif Weinidog a'r Cabinet yn parhau i oruchwylio cynnydd ac adroddiadau cyfnodol ar y cyd, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

3.5 Fodd bynnag, byddai angen i'r Llywodraeth gyflawni'r ymrwymiadau hirsefydlog eraill ac eitemau eraill o fewn y maniffesto nad oedd angen eu nodi a'u goruchwylio'n ehangach ar draws y llywodraeth.

3.6 Croesawodd a chymeradwyodd y Cabinet y papur.