Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus
  • Steve Vincent, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd
  • Robbie Thomas, Pennaeth Alinio Busnes ar gyfer Seilwaith Economaidd
  • Ian Taylor, Cynghorydd Polisi Arbenigol ar Drafnidiaeth

Eitem 1: Cofnodion cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet y cofnodion dyddiedig 28 Chwefror.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymosodiad ar Wcráin

2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Cabinet fod Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid, wedi sicrhau ystod eang o gefnogaeth mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol sy’n datblygu yn Wcráin. Yn ychwanegol i’r rhodd o £4m i Apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, roedd Gweinidogion yn cydweithio â Llywodraeth Leol a’r Trydydd Sector er mwyn paratoi i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag y gwrthdaro.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn. Nodwyd bod yr amser pleidleisio wedi’i drefnu at 7:45pm ar ddydd Mawrth ac o gwmpas 6:25pm ar ddydd Mercher.

Eitem 4: Diwygio gwasanaethau bysiau – papur gwyn

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi’r cynigion i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

4.2 Nodwyd bod bysiau yn cyfrif am dair o bob pedair taith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’u bod yn sicrhau gwasanaeth sy'n allweddol bwysig i oddeutu 13% o aelwydydd nad ydynt â char. Nodwyd nad oedd y system sydd wedi’i dadreoleiddio yn sicrhau’r lefelau gofynnol i gynllunio’r rhwydwaith bysiau yn well, yn ogystal â’i wella er mwyn diwallu anghenion y cyhoedd.

4.3 Y nod oedd creu deddfwriaeth i ddylunio system a fyddai’n galluogi i’r Llywodraeth i gynyddu budd y cyhoedd o’r arian a fuddsoddir yn y system fysiau i’r eithaf. Roedd rhwydweithiau presennol wedi’u cynllunio gan weithredwyr i gynyddu eu helw o’r system i’r eithaf, gan alluogi i Lywodraeth Leol gontractio gwasanaethau i lenwi bylchau hanfodol yn unig.

4.4 Byddai masnachfreinio cenedlaethol yn cael ei gyflwyno er mwyn helpu i integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gydag amserlenni priodol, strwythurau prisiau a thrwy system docynnu. Byddai hyn hefyd yn galluogi i'r Llywodraeth i gymryd rheolaeth dros refeniw'r fasnachfraint. Gellid defnyddio hyn i groes-sybsideiddio gwasanaethau rhwng llwybrau proffidiol a'r rhai hynny y mae angen cyllid ychwanegol arnynt.

4.5 Byddai hyn o gymorth i wella gwasanaethau, gan eu gwneud yn fwy deniadol a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl yn well. Nodwyd bod hyn yn gam allweddol i dorri’r ddibyniaeth ar geir preifat i ysgogi’r lefel o newid dulliau teithio sydd ei angen er mwyn cyflawni Cymru Sero Net.

4.6 Croesawodd y Cabinet y papur a chytunwyd y byddai’r gwelliannau arfaethedig hefyd o gymorth i fynd i’r afael â thlodi gan leihau anghydraddoldebau. Roedd angen sicrhau bod cerbydau a chyfleusterau yn hygyrch i bawb, yn ogystal â sicrhau bod bysiau yn ddiogel i deithwyr, yn enwedig menywod.

4.7 Nododd y Cabinet y papur a nodwyd y byddai’r Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi cyn Toriad y Pasg.