Cyfarfod y Cabinet: 7 Hydref 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 7 Hydref 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol
Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 30 Medi.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Ymweliadau â Gogledd Cymru
2.1 Soniodd y Prif Weinidog am ei hymweliadau diweddar â Gogledd Cymru. Roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi ymweld â ffatri rawnfwyd Kellanova yn Wrecsam y dydd Iau blaenorol ar gyfer y cyhoeddiad y byddai'n creu 130 o swyddi newydd a fyddai'n gofyn am sgiliau penodol, ac yn lleihau allyriadau. Yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi agor Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru ym Mangor.
Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n mynychu Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau cyntaf ddydd Gwener yr wythnos honno, a fyddai'n cael ei gadeirio gan Brif Weinidog y DU.
Uwchgynhadledd Buddsoddi'r DU
2.3 Y dydd Llun canlynol, byddai'r Prif Weinidog yn mynychu'r Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yn Llundain. Byddai'r uwchgynhadledd yn cael ei chadeirio gan Brif Weinidog y DU, a byddai Canghellor y Trysorlys hefyd yn bresennol. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, byddai cyfarfod nesaf y Cabinet yn cael ei symud i ddydd Mawrth 15 Hydref.
Blwyddyn ers Ymosodiadau 7 Hydref
2.4 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn nes ymlaen y prynhawn hwnnw i nodi blwyddyn ers yr ymosodiadau erchyll gan Hamas ar Israel, a'r gwrthdaro parhaus sy'n effeithio ar sifiliaid ar draws y Dwyrain Canol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi nad oedd amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth, ac y byddai amser pleidleisio'n digwydd tua 6.25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Unrhyw faterion eraill
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
4.1 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wrth y Cabinet y byddai'n cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig y diwrnod canlynol i gyd-fynd â chyhoeddi adroddiad gan Brif Gynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Cymru, ynghylch pa mor effeithiol oedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrth ymladd tanau mewn anheddau. Byddai sesiynau briffio technegol hefyd yn cael eu darparu lle bo hynny'n briodol er mwyn cefnogi trafodaeth gytbwys.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2024