Cyfarfod y Cabinet: 6 Ionawr 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 6 Ionawr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Naomi Matthiessen, Dirprwy Gyfarwyddwr, Tirweddau, Natur a Choedwigaeth (eitem 4)
- Gail Merriman, Pennaeth Coedwigaeth Gynhyrchiol a Chapasiti'r Sector (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Rhagfyr 2024.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Y Farwnes Randerson
2.1 Nododd y Prif Weinidog gyda thristwch farwolaeth y Farwnes Jenny Randerson. Roedd y Farwnes Randerson wedi gweithio'n ddiflino er budd gwasanaeth cyhoeddus, Gymru a datganoli, ac roedd hi wedi chwarae rhan hanfodol yn y Senedd a Thŷ'r Arglwyddi.
Kevin Brennan
2.2 Ar ran y Cabinet, llongyfarchodd y Prif Weinidog Kevin Brennan ar ei benodiad i Dŷ'r Arglwyddi.
Porthladd Caergybi
2.3 Diolchodd y Prif Weinidog i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am ei waith dros gyfnod y Nadolig yn goruchwylio'r gwaith o atgyweirio Porthladd Caergybi, a oedd i fod i ailagor yn rhannol ar 16 Ionawr. Roedd y gwaith wedi cael ei groesawu gan Lywodraethau'r DU ac Iwerddon.
Pwysau'r gaeaf yn y GIG
2.4 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i roi diweddariad ar y pwysau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru. Cyrhaeddodd y pwysau hynny eu brig yn gynharach na'r disgwyl, gyda lefelau uwch o ffliw tymhorol a chyflyrau anadlol eraill, gan gynnwys COVID, pob un ohonynt 20% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol. Arweiniodd hyn at Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn datgan digwyddiad critigol ar 30 Rhagfyr. Roedd lefel yr absenoldebau ymysg y staff hefyd yn heriol.
2.5 Dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf byddai byrddau iechyd a phartneriaid yn canolbwyntio ar ryddhau cleifion o'r ysbytai mewn modd diogel a chyflym, er mwyn cynyddu capasiti i ymateb i'r pwysau parhaus. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad i'r Senedd y diwrnod canlynol, sef yn gynharach na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol.
2.6 Nodwyd bod y Prif Weinidog wedi ymweld â rhai ysbytai dros gyfnod y Nadolig, a chafodd groeso cynnes gan staff a chleifion.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Nododd y Cabinet fod tri datganiad llafar wedi eu hychwanegu at fusnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer dydd Mawrth. Roedd y datganiadau yn ymwneud â Phwysau Gaeaf y GIG, Porthladd Caergybi, a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Ynni Gwynt ar y Môr. Byddai'r datganiad ar Dechnoleg Gymraeg yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.
3.2 Ar ddechrau'r sesiwn ddydd Mawrth, byddai teyrnged fer i'r Farwnes Randerson. Hefyd, byddai cyfres o gynigion ar ôl y Datganiad Busnes i newid aelodau Ceidwadol o Bwyllgorau yn sgil ad-drefnu llefarwyr ym mis Rhagfyr. Nid oedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth, a byddai amser pleidleisio tua 5.35pm ddydd Mercher.
Item 4: Ymgynghoriad y Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren
4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol Pren gyntaf Cymru.
4.2 Roedd yr ymgynghoriad yn dangos hyder y Llywodraeth o ran sicrhau dyfodol i'r sectorau coedwigaeth a phren yng Nghymru, a hynny ar adeg pan oedd cyfleoedd sylweddol. Ar ben hynny, byddai ehangu'r diwydiant pren yn cyfrannu'n uniongyrchol at y blaenoriaethau ar gyfer adeiladu tai, creu swyddi a sbarduno twf yn y sector gwyrdd, roedd hefyd yn hanfodol ar gyfer lliniaru'r newid yn yr hinsawdd a diogelwch pren.
4.3 Roedd rheoli coedwigoedd mewn modd cynaliadwy wrth gynhyrchu pren yn enghraifft wych o dwf gwyrdd a chynaliadwy. Er enghraifft, wrth gynaeafu coed, roedd y carbon a oedd dan glo yn ystod yr amser pan oedd y coed yn tyfu yn parhau i gael ei storio yn y pren, a thrwy ddefnyddio'r pren hwnnw mewn adeiladau a defnyddiau hirdymor eraill, fel dodrefn neu adeiladu tai, roedd y carbon hwnnw'n parhau i gael ei chadw dan glo. Yn y cyfamser, gellir ailblannu'r tir lle cynaeafwyd y pren, gan ddal mwy o garbon a'i gadw dan glo, gyda'r cylch yn parhau yn y modd hwn.
4.4 Byddai nifer o gyfleoedd sylweddol yn cael eu creu i goedwigwyr, proseswyr pren, a gweithgynhyrchwyr trwy dyfu'r economi hon. Gallai ystod eang o swyddi a sgiliau lifo o’r meithrinfeydd coed, gan gynnwys mewn perthynas â phlannu, rheoli, cynaeafu a melino yn ogystal â dylunio ac adeiladu'r nwyddau terfynol, a fyddai'n helpu i gynnal busnesau a bywoliaethau lleol. Ar yr un pryd, byddai'r carbon yn parhau wedi ei gloi yn y pren am flynyddoedd ar ôl iddo adael y goedwig. Gallai'r economi goed ddod â manteision a swyddi i ardaloedd gwledig yn benodol.
4.5 Roedd pren hefyd yn rhoi cyfle i adeiladu tai mwy cynaliadwy, gan gynnwys tai cymdeithasol, gan gysylltu dwy o flaenoriaethau'r Llywodraeth.
4.6 Roedd ehangu'r sector yn hanfodol wrth i'r byd geisio cyflawni sero net. Roedd pren mewn sefyllfa dda, fel deunydd adeiladu carbon isel, i ddisodli deunydd carbon uchel fel concrit, a disgwylir i'r galw am bren ar draws y byd fod bedair gwaith yn fwy erbyn 2050. Felly, byddai sicrhau cyflenwad pren dibynadwy a chynaliadwy yn y dyfodol yn golygu bod angen tyfu mwy o bren yng Nghymru, ochr yn ochr â chynyddu'r arfer o ailddefnyddio a manteisio ar ddefnydd cylchol, wedi'i gydbwyso â mewnforio mewn ffordd sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
4.7 Roedd y ddogfen ymgynghori yn cyd-fynd â nodau Strategaeth Ddiwydiannol y DU, yn enwedig mewn perthynas â sero-net, gwydnwch economaidd, a diogelwch, gyda'r diwydiant chynhyrchu pren yn creu adnodd hyblyg a chynaliadwy.
4.8 Croesawodd y Cabinet y papur gan gydnabod y byddai diwydiant pren ffyniannus yn dod â thwf a swyddi sylfaenol, yn ogystal â gyrfaoedd lle'r oedd angen sgiliau lefel uwch, gan gynnig llawer o gyfleoedd economaidd i Gymru, yn ei threfi ac yng nghefn gwlad.
4.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi fod yr ymgynghoriad yn mynd i gael ei lansio erbyn 31 Ionawr.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2025