Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Ken Skates AS
  • Kirsty Williams AS
  • Jeremy Miles AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie Morgan AS
  • Dafydd Elis-Thomas AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Carys Evans, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Paul Griffiths, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Gareth Williams, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Jonathan Scourfield, Cynghorydd Polisi Arbenigol
  • Dewi Knight, Cynghorydd Polisi Arbenigol dros Ddiwygio Addysg
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (dydd Iau yn unig)
  • Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-Gadeirydd TAC (dydd Mercher yn unig)
  • Simon Brindle, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn (dydd Iau yn unig)
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd)
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn
  • Liz Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr Adfer (dydd Mercher yn unig)
  • Diane Dunning (Dydd Iau yn unig)
  • Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr
  • Peter Jones, swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol (dydd Mercher yn unig)
  • Cathy Weatherup, swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol (dydd Mercher yn unig)
  • Ffion Thomas, swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol
  • Jo Trott, Pennaeth tîm COVID-19 (dydd Mercher yn unig)
  • Kelly Murphy, Pennaeth Gwella Ysgolion ac Ymateb COVID-19 (dydd Iau yn unig)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Rhagfyr.

Eitem 2: Adolygiad tair wythnos o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (dydd Mercher 6 Ionawr)

2.1 Atgoffodd y Prif Weinidog y Cabinet mai diben y cyfyngiadau’n ymwneud â COVID-19 fyddai atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Byddai’n rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a byddai’n rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn yr oeddent yn ceisio’i gyflawni. Roedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos.

2.2 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu'r cyngor diweddaraf mewn perthynas â throsglwyddo'r feirws a'r effaith ar y GIG.

2.3 Roedd achosion o COVID-19 yn uchel iawn yn y rhan fwyaf o Gymru a'r cyfartaledd saith diwrnod oedd tua 470 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth. Bu cynnydd cyflym yn y Gogledd-ddwyrain, yn bennaf oherwydd amrywiolyn newydd y feirws. Nid oedd yn ymddangos bod symptomau'n fwy difrifol, ond roedd y risg uwch yn deilio o’r ffaith fod y straen hwn yn fwy heintus.

2.4 Roedd y data ar gyfer cyfraddau heintio yn ystod cyfnod y flwyddyn newydd yn aneglur oherwydd materion yn ymwneud ag adrodd a’r ffaith fod llai o brofion wedi’u cynnal yn ystod y gwyliau cyhoeddus, ond y gobaith oedd y byddai gwybodaeth am effaith y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 yng Nghymru ar gael erbyn diwedd yr wythnos ganlynol. 

2.5 Er gwaethaf y cyfyngiadau, roedd yn ymddangos bod y straen newydd yn sbarduno cynnydd mewn achosion ledled y DU. Roedd hyn wedi arwain at y pedwar Prif Swyddog Meddygol ddydd Llun, yn dilyn cyngor gan y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch i godi'r lefel risg i'r uchaf posibl. O ganlyniad, roedd cyfyngiadau symud cryfach bellach ar draws tir mawr yr Alban ac roedd Lloegr gyfan o dan gyfyngiadau symud llawn.

2.6 Roedd y GIG yng Nghymru yn wynebu her fawr iawn, gan fod nifer y bobl oedd yn cael eu derbyn i'r ysbyty wedi parhau i godi yn ystod y pythefnos diwethaf, gyda bron i 2,800 o gleifion â symptomau COVID-19 mewn gwelyau ysbytai.

2.7 Roedd y papur yn cadarnhau sefyllfa’r feirws ac yn argymell y dylid parhau â chyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 ledled Cymru am dair wythnos arall. Roedd potensial hefyd i gyflwyno cyfyngiadau pellach.

2.8 Cytunodd y Cabinet â'r cynnig hwn gan gytuno hefyd y dylid tynhau'r cyfyngiadau ymhellach.  Yn benodol, dylid newid y Rheoliadau i'w gwneud yn glir bod ystafelloedd arddangos yn cael eu hystyried yn fannau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, ac y dylent gau.

2.9 Nododd y Gweinidogion fod pryderon wedi’u mynegi gan y cyhoedd a chan gyrff gorfodi, megis Awdurdodau Lleol, ac Undebau Llafur ynghylch lefelau cydymffurfio mewn rhai lleoliadau manwerthu hanfodol, yn enwedig archfarchnadoedd.

2.10 Nodwyd y byddai trafodaethau gyda'r Fforwm Manwerthu yn cael eu cynnal y diwrnod canlynol, i'w hatgoffa o'r gofynion cyfreithiol i gymryd mesurau rhesymol, gan gynnwys cadw pellter o 2m a chynnal asesiadau risg newydd mewn ymateb i'r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus cynyddol.

2.11 Cytunwyd y dylai'r Llywodraeth nodi ddydd Gwener ei bod yn ystyried cryfhau'r gofynion ar archfarchnadoedd.

2.12 Cytunodd y Gweinidogion ymhellach y dylid cymhwyso'r cyfyngiadau ychwanegol hyn i Gymru gyfan ac nid ar sail ranbarthol.

2.13 Cytunodd y Cabinet y dylid gwrthod y cais gan archfarchnadoedd i ganiatáu iddynt ddarparu alcohol y tu hwnt i 10pm, gan y byddai hyn yn creu annhegwch i fusnesau eraill yr oedd yn ofynnol iddynt gau erbyn 10pm.

2.14 Nid oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno cyfyngiadau pellach ar gyfer gofal plant nac addoldai ond roedd cyngor pellach yn cael ei baratoi i'w ystyried gan y Cabinet ddydd Llun. Cytunodd y Gweinidogion y byddai unrhyw newidiadau i drefniadau gofal plant yn cael effaith anghymesur ar y teuluoedd tlotaf, yn enwedig menywod, ac y gallent hefyd fod â goblygiadau i rai sectorau, megis manwerthu hanfodol, iechyd a gofal cymdeithasol.

2.15 Cytunwyd y byddai angen i'r cyngor gynnwys asesiadau cydraddoldeb ac asesiadau o'r effaith ar hawliau plant, ac y dylid ystyried sut i ddarparu ar gyfer plant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol.

2.16 Cytunodd y Cabinet hefyd y dylai swyddogion fynd ati i archwilio, gyda chyrff gorfodi, a oedd modd cyflwyno mesurau proffil uchel, megis rhwystrau ffordd gan yr heddlu, i wirio esgusodion pobl dros deithio.

2.17 Roedd tystiolaeth anecdotaidd bod rhai busnesau oedd yn agored yn methu â rheoleiddio eu hamgylchedd yn briodol. I ymateb i hyn, cynigiwyd y dylai swyddogion adolygu'r rheoliadau a'r canllawiau statudol ynghylch mesurau rhesymol i sicrhau bod y gofynion ar fusnesau agored yn cael eu cryfhau i adlewyrchu'r lefelau uwch o risg ac effaith yr amrywiolyn newydd.

2.18 Cafwyd trafodaeth fer ynghylch a ddylai’r adolygiad o'r penderfyniad diweddar am gau ysgolion gael ei drefnu i gyd-fynd â'r adolygiadau tair wythnos o'r Rheoliadau a chytunwyd y byddai angen i'r Cabinet ailymgynnull y bore canlynol i ystyried hyn yn fanylach.  Yn y cyfamser, dylai swyddogion ddarparu nodyn ar gynnig penodol a’r camau gweithredu a argymhellid a dylai swyddfa'r Prif Gynghorydd Gwyddonol ddarparu adroddiad ar yr amrywiolyn newydd a'i effaith ar drosglwyddo mewn ysgolion.

2.19 Cytunodd y Cabinet y byddai angen i swyddogion roi sylw i’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion ar y cynigion yn y papur.

Eitem 3: Gwneud y penderfyniad am gau ysgolion yr un pryd â'r adolygiad o'r Rheoliadau (dydd Iau 7 Ionawr)

3.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Gweinidogion fod y Cabinet wedi ailymgynnull i drafod a ddylai’r penderfyniad ynghylch cau ysgolion a cholegau ddigwydd yr un â'r adolygiad o'r Rheoliadau. Dros nos, roedd papur wedi'i lunio ar y cynnig ac roedd papur briffio’r Grŵp Cyngor Technegol (TAG) ar yr amrywiolyn sy’n peri pryder ac Addysg yng Nghymru wedi'i ddosbarthu i Weinidogion.

3.2 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Gynghorydd Gwyddonol i roi trosolwg o adroddiad TAG.

3.3 Roedd yn ymddangos bod gan amrywiolyn newydd y feirws droedle cadarn yn y Gogledd-orllewin ac mai mater o amser fyddai hi cyn i hyn gael ei ailadrodd ledled Cymru, yn debyg i'r don gyntaf o'r straen gwreiddiol.

3.4 Roedd corff o dystiolaeth a oedd yn dangos bod y lefelau trosglwyddo’n uwch ymhlith plant pan oedd y feirws yn cylchredeg mwy mewn cymunedau. Roedd ysgolion yn ddiogel, ond roedd y ffaith bod yr amrywiolyn yn lledaenu’n haws yn golygu mai cysylltiadau mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol oedd y risg bennaf. Roedd hyn yr un mor berthnasol i athrawon ag i fyfyrwyr. Roedd agor ysgolion yn llawn yn golygu ystod ehangach o heriau ymarferol o ran ymddygiad, a oedd y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol yr amgylchedd addysgu, ac a oedd yn cyfrannu at gymysgu cymdeithasol ehangach. Byddai angen data pellach i ddadansoddi goblygiadau lledaeniad y feirws o ganlyniad i beidio ag agor ysgolion yn llawn.

3.5 Dywedodd y Gweinidog Addysg wrth y Cabinet ei bod yn glir na fyddai'n bosibl ailagor ysgolion yn llawn ar 18 Ionawr.

3.6 Roedd rhanddeiliaid yn gofyn am eglurder ar frys ynglŷn â’r camau nesaf, i'w galluogi i gynllunio'n briodol ar gyfer dysgu o bell yn y tymor hwy. Felly, roedd yn synhwyrol bod amseriad y penderfyniadau am ysgolion yn cyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth o'r Rheoliadau.

3.7 Roedd yr adolygiad cyffredinol nesaf wedi’i drefnu ar gyfer dydd Gwener 29 Ionawr. Fodd bynnag, ni fyddai'n bosibl aros tan y dyddiad hwnnw i gadarnhau a fyddai ysgolion yn agor ai peidio y dydd Llun canlynol gan na fyddai ysgolion yn gallu paratoi. Felly cynigiwyd, er mwyn eglurder, y dylai'r Llywodraeth nodi ei bod yn annhebygol y byddai addysg wyneb yn wyneb arferol yn ailddechrau cyn hanner tymor ganol mis Chwefror oni bai bod gwelliant sylweddol yn y gyfradd 'R’.

3.8 Yn ystod y cyfnod hwn, byddai'r Llywodraeth yn ystyried a oedd modd dod â disgyblion yn ôl fesul cam, er enghraifft y rhai mewn blynyddoedd arholiadau ac yn y cyfnod sylfaen. Fodd bynnag, byddai pob ysgol yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol, y rhai ag anghenion addysgol arbennig, plant sy'n agored i niwed ac unrhyw un yr oedd angen iddynt gwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol.

3.9 Cytunodd y Cabinet â'r argymhellion a thynnodd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod gan blant fynediad at yr offer TG angenrheidiol ar gyfer dysgu ar-lein.