Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Lynne Neagle AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
  • Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Materion Gwledig (eitem 5)
  • Mark Alexander, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Maes Rheoli Tir (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 24 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Modiwl 3 Ymchwiliad COVID-19

2.1 Atgoffodd y Prif Weinidog y Cabinet fod Modiwl 3 Ymchwiliad COVID-19 Llywodraeth y DU yn mynd rhagddo ac y byddai hithau a'r Ysgrifennydd Parhaol yn rhoi tystiolaeth yn ddiweddarach y mis hwnnw.

Cyllideb y DU

2.2 Nododd y Cabinet y byddai diweddariad llafar yn ddiweddarach yn ystod y cyfarfod ynghylch goblygiadau Cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU. Adroddwyd bod Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi gwrthod y codiad cyflog o 5.5% a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025.

Ffioedd Dysgu Myfyrwyr yn Lloegr

2.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am gyhoeddiad a oedd ar ddod ynghylch ffioedd dysgu yn Lloegr.

2.4 Dywedodd y Gweinidog wrth y Cabinet fod disgwyl i Lywodraeth y DU roi gwybod i Senedd y DU y prynhawn hwnnw y byddai'r capiau ffioedd yn codi i £9,535 yn Lloegr.

Cyfarfod â'r Gweinidog Ymfudo a Dinasyddiaeth

2.5 Nododd y Cabinet fod y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cyfarfod â Seema Malhotra AS, y Gweinidog Ymfudo a Dinasyddiaeth yng Nghaerdydd yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 7pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Y diweddaraf am gyllideb y DU a'r goblygiadau i Gymru a Chyllideb Ddrafft 2025-2026

4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am Gyllideb ddiweddar y DU a'r goblygiadau i Gymru a Chyllideb Ddrafft 2025-2026.

4.2 Cyllideb y DU oedd cam cyntaf yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, proses dau gam a luniwyd i sefydlogi cyllid cyhoeddus. Cadarnhaodd y Canghellor y byddai ail gam y broses yn adrodd ddiwedd y gwanwyn i roi setliad amlflwyddyn ar gyfer cyllid adnoddau hyd at 2027-2028 a chyllid cyfalaf hyd at 2029-2030. Er bod hyn yn gam i'r cyfeiriad cywir, nodwyd bod heriau o hyd.

4.3 O ran y setliad, nodwyd bod cyllid adnoddau ychwanegol gwerth £774 miliwn a chyllid cyfalaf gwerth £49 miliwn ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Roedd cyfran sylweddol o'r cyllid adnoddau eisoes wedi'i chynnwys mewn cynlluniau gwariant ar gyfer cytundebau cyflog y sector cyhoeddus.

4.4 Cafwyd cynnydd pellach o gyllid adnoddau gwerth £695 miliwn a chyllid cyfalaf gwerth £235 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26, gyda chadarnhad bod cyllid ar gyfer tâl wedi'i gynnwys yn rhan sylfaenol o'r gyllideb. At hynny, byddai'r newidiadau i reolau dyled, a oedd yn ystyried rhwymedigaethau ariannol net y sector cyhoeddus, yn caniatáu i Lywodraeth y DU fenthyg mwy er mwyn rhyddhau cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith dros y pum mlynedd nesaf. Disgwylid i'r strategaeth fuddsoddi gael ei chyhoeddi yn y gwanwyn.

4.5 Cafwyd cyfres o gyhoeddiadau yn benodol i Gymru, gan gynnwys cyllid gwerth £25 miliwn yn 2025-2026 ar gyfer diogelwch tomenni glo.

4.6 Yn ogystal, byddai Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r gronfa fuddsoddi wrth gefn yng Nghynllun Pensiwn y Glowyr i'w Hymddiriedolwyr. At hynny, byddai gan Weinidogion Cymru ymreolaeth dros wariant sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

4.7 Croesawodd y Cabinet yr wybodaeth ddiweddaraf a'r cyllid ychwanegol a oedd ar gael.

Eitem 5: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

5.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar ddyluniad diwygiedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac y dylid cyhoeddi'r amlinelliad ohono ym mis Tachwedd.

5.2 Roedd datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn un o ymrwymiadau pwysig y Rhaglen Lywodraethu, gan symud cymorth amaethyddol wedi'r UE i helpu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gan gyflawni canlyniadau amgylcheddol ychwanegol.

5.3 Roedd gwaith y Ford Gron Weinidogol, a sefydlwyd i gynnal y broses gyd-ddylunio hon ers yr ymgynghoriad, bellach ar bwynt tyngedfennol. Roedd cyfarfod wedi'i gynnal ddydd Gwener yr wythnos flaenorol, lle'r oedd cytundeb ymhlith rhanddeiliaid ynghylch amlinelliad diwygiedig o'r Cynllun o ran modelu. Roedd hyn yn dilyn cyfnod dwys o waith dros yr haf ac adeiladwyd arno yn sgil adborth o'r ymgynghoriad.

5.4 Byddai'r Amlinelliad diwygiedig o'r Cynllun, a sefydlwyd ar Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac a oedd yn gyson â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn cael ei ddadansoddi a'i fodelu yn awr. Byddai hyn yn helpu i ddeall y manteision a'r effeithiau tebygol cyn dod i benderfyniad terfynol y flwyddyn nesaf ynghylch ei gyflwyno yn 2026. Bydd angen i'r penderfyniad hwn a'r achos busnes cysylltiedig gael eu cymeradwyo gan y Cabinet.

5.5 Bwriad y Cynllun oedd cryfhau cyfraniad amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ffermwyr yng Nghymru. Roedd yn ymgorffori cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac yn mynd i'r afael hefyd â'r argyfyngau hinsawdd a natur a chydnabod rôl allweddol ffermwyr.

5.6 Roedd papur y Cabinet yn amlinellu dyluniad strategol y cynllun, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd i helpu ffermwyr i fod yn fwy effeithlon a gwydn, wrth weithredu mewn modd sy'n gynyddol gynaliadwy ac yn cyflawni mwy er budd yr amgylchedd a chymdeithas. Roedd y ddogfen Amlinelliad o'r Cynllun a gynigid ar gyfer y cyhoedd yn gwneud sawl cyfeiriad at fwyd er mwyn sicrhau bod pwysigrwydd hyn yn cael ei gydnabod.

5.7 Yn seiliedig ar drafodaethau'r Ford Gron Weinidogol hyd yma, cynigiwyd nifer o newidiadau i sicrhau bod y Cynllun yn hygyrch, bod modd ei gyflawni a'i fod yn rhoi cyfle i helpu pob fferm yng Nghymru, a hynny gan fynd i'r afael hefyd â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

5.8 Roedd y newid mwyaf yn ymwneud â'r rheol 10% o orchudd o goed. Roedd y Panel Atafaelu Carbon, a gefnogodd y Ford Gron Weinidogol, wedi cwblhau ei adolygiad o dystiolaeth. Ystyriodd y Panel fod effeithiolrwydd plannu coed fel cam gweithredu ar gyfer atafaelu carbon yn ddibynnol ar ystod o ffactorau rheoli a safleoedd penodol, nad oeddent yn ategu dull gorfodol.

5.9 Gan gydnabod bod y rheol 10% yn rhwystr sylfaenol i fynediad, a'i bod yn sail i'r protestiadau, cynigiwyd y dylai pob fferm ddatblygu cynllun cyfle i blannu coed a chreu gwrychoedd. Byddai hyn yn cael ei osod ochr yn ochr â tharged cenedlaethol ar lefel cynllun ar gyfer plannu coed a chreu gwrychoedd a strwythur llywodraethu cadarn rhwng y Llywodraeth a'r diwydiant ffermio i gyflawni'r targed.

5.10 Roedd y papur hefyd yn amlinellu newidiadau arfaethedig eraill i'r Cynllun.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2024