Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AC – y Prif Weinidog
  • Rebecca Evans AC
  • Vaughan Gething AC – (o eitem 4)
  • Lesley Griffiths AC
  • Julie James AC
  • Kirsty Williams AC
  • Jeremy Miles AC
  • Jane Hutt AC
  • Shan Morgan – yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Carys Evans – Prif Ysgrifennydd Preifat Prif Weinidog Cymru
  • Will Whiteley – Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason – Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles – Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan – Cynghorydd Arbennig
  • Dan Butler – Cynghorydd Arbennig
  • Paul Griffiths – Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins – Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson – Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward – Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Jonathan Price – y Prif Economegydd (eitem 4)
  • Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
  • Margaret Davies – Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol (eitem 4)
  • Alyson Francis – Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau (eitem 5)
  • Rae Cornish – Pennaeth Cydraddoldeb Rhywiol (eitem 5)
  • Gian Marco Currado – Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Materion Morol (eitem 6)
  • Rhodri Asby – Dirprwy Gyfarwyddwr Gwastraff ac Effeithlonrwydd Adnoddau (eitem 6)

Ymddiheuriadau

  • Eluned Morgan AC
  • Ken Skates AC

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y cyfnod cyn etholiad y DU

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y disgwylid y byddai Senedd y DU yn cael ei diddymu rhywbryd yr wythnos honno, ac y byddai Llywodraeth y DU wedyn yn dechrau ar ei chyfnod cyn etholiad yn ffurfiol. Ni fyddai hynny’n effeithio ar y rhan fwyaf o waith Llywodraeth Cymru, a byddai’n fater o fusnes fel arfer yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol y DU. Fodd bynnag, roedd yn anochel y byddai cyfyngderau ar rai o weithgareddau Gweinidogion.

Eitem 3: Busnes y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn

3.1 Trafododd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi y byddai pleidlais ar Orchymyn Adran 109, a oedd wedi ei hamserlennu ar gyfer dydd Mercher, yn cael ei chynnal yn union ar ôl y ddadl.

Eitem 4: Cyllideb ddrafft 2020 i 2021

4.1 Cafodd Prif Economegydd Llywodraeth Cymru ei wahodd gan y Prif Weinidog i ddarparu trosolwg o’r rhagolygon economaidd a chyllidol ar gyfer Cymru.

4.2 Ers y refferendwm, roedd y twf yn y DU, a oedd eisoes yn araf, wedi dirywio ymhellach, ac roedd yn arafach na gweddill yr UE a Gwledydd y G7. Roedd tanberfformio o ran cynnyrch domestig gros oddeutu 2%, a oedd yn werth tua £400 y pen o’r boblogaeth yng Nghymru yn 2019. Roedd yn cael ei gydnabod bod yr arafu yn nhwf yn y DU ers y dirwasgiad yn 2008 yn ddigynsail mewn hanes diweddar. Roedd wedi bod yn adferiad hir a chyfyngedig, ac roedd polisi cyni eithafol Llywodraeth y DU a Brexit wedi bod yn ffactorau a oedd wedi cyfrannu at y sefyllfa. Serch hynny, nid oedd rhai o’r ffactorau rhyngwladol, a oedd hefyd wedi cyfrannu at y sefyllfa, wedi cael eu deall yn llawn.

4.3 Bu arafu helaeth yn fyd eang mewn twf cynhyrchiant, ond ar y cyrion oedd y DU, ac roedd ei pherfformiad gwael wedi ei guddio’n rhannol gan dwf cryf mewn cyflogaeth. Roedd yn cael ei gydnabod mai cynhyrchiant oedd y sbardun y tu ôl i gyflogau go iawn, y sail drethi, a safonau byw derbyniol yn y tymor canolig a’r tymor hir.

4.4 Roedd dangosyddion yr ONS ynglŷn â llesiant goddrychol yng Nghymru a’r DU, sy’n gysylltiedig ag ansawdd bywyd, wedi nodi gwelliannau ers yr etholiad mewn perthynas â thri chwestiwn allweddol, a allai gael eu cysylltu yn ôl pob tebyg â’r cynnydd yn nifer y boblogaeth mewn cyflogaeth a’r gostyngiad yn nifer y rheini a oedd wedi bod yn ddi-waith ers amser maith.

4.5 Ni fu unrhyw symud sylweddol yn y tueddiadau yng ngwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru, o’i gymharu â’r DU, felly yn ystod y tymor canolig roedd economi Cymru wedi tyfu’n unol â gweddill y DU ar sail ‘y pen’. Fodd bynnag, roedd yn bwysig nodi bod gwerth ychwanegol gros y pen yn gwneud i’r bwlch yn lefel y perfformiad rhwng Cymru a’r DU ymddangos yn fwy, yn rhannol gan nad oedd yn ystyried y strwythur demograffig, lefel y teithio i waith, neu ffactorau eraill a oedd yn effeithio ar lefelau incwm.

4.6 Roedd yr hyn y gellid ei alw’n fwlch yng nghynhyrchiant Cymru yn llai na’r bwlch mewn gwerth ychwanegol gros, ond roedd perfformiad Cymru yn dal i fod yn gymharol wan. Fodd bynnag, roedd data diweddar yn cadarnhau bod perfformiad y farchnad lafur yn arbennig o gryf yng Nghymru yn ystod y cyfnod ers datganoli, lle’r oedd y twf mwyaf wedi bod yn y categorïau o weithwyr galwedigaethol a oedd yn meddu ar sgiliau uchel. Ychydig iawn o ddata eraill oedd ar gael ynghylch newidiadau mewn ansawdd swyddi ar sail barhaus yn y tymor hir.

4.7 O ran twf daearyddol mewn cynnyrch domestig gros a gwerth ychwanegol gros ar draws Cymru, fel y disgwylid, bu twf cymharol gryf yng Nghaerdydd, ond nid oedd rhaniadau amlwg i’w gweld rhwng ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig. Roedd cynnyrch domestig gros a gwerth ychwanegol gros yn ddull gwael o fesur safonau byw, ond roedd Cymru yn perfformio’n well o ran mesurau incwm, yn enwedig o ran yr aelwyd nodweddiadol neu ganolrif.

4.8 Roedd y rhagolygon cyllidol ar gyfer y tymor canolig yn parhau’n ansicr iawn, ac roedd yr un peth yn wir am y tymor hirach, ond roedd y sefyllfa’n ymddangos yn gyfyngedig hyd yn oed o dan ragdybiaethau ffafriol.

4.9 Roedd nifer o risgiau i economi Cymru. Ar hyn o bryd roedd cyllid cyhoeddus y DU yn tanberfformio, ac roedd mantolen sector cyhoeddus y DU yn wan. Nid oedd llawer o le ychwanegol ar gyfer cynyddu gwariant ar adnoddau heb gynnydd mewn trethi. Roedd yr ansicrwydd ynglŷn â Brexit hefyd yn cael effaith ar dwf, a byddai’n effeithio ar ddewisiadau polisi cyllid Llywodraeth y DU yn y dyfodol.

4.10 Roedd angen ystyried effeithiau twf gwan mewn cynhyrchiant yn y tymor hir, ochr yn ochr â’r posibilrwydd y byddai dirwasgiadau yn y dyfodol, ar yr un pryd â’r angen i gynnal costau ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio a thalu am gostau pensiwn sy’n cynyddu.

4.11 Roedd risg hefyd y gallai fod gwendid strwythurol mewn rhai derbyniadau trethi, megis y doll ar danwydd, ac y gallai Llywodraeth y DU wneud dewisiadau polisi canlyniadol a fyddai’n effeithio ar drosglwyddiadau cyllidol y DU i Gymru. Hefyd roedd heriau mawr oherwydd y costau cynyddol o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd tystiolaeth gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dangos y byddai’n gymharol ymarferol rheoli’r costau a oedd yn gysylltiedig â rheoli gweithgarwch lleddfu ac addasu mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd, er y byddent yn sylweddol, o’u cymharu â risgiau eraill.

4.12 Roedd sylfaen drethu Cymru yn wynebu risgiau penodol gan y rhagwelir y byddai’r boblogaeth 16-64 oed yn lleihau. Nodwyd risgiau eraill, gan gynnwys y rheini a oedd yn gysylltiedig â chodiadau cyflog yn y sector cyhoeddus a’r perygl y byddai cyflogwyr mawr yn adleoli o ganlyniad i Brexit.

4.13 Diolchodd y Cabinet i’r Prif Economegydd am ei gyflwyniad, gan nodi y byddai’r rhan fwyaf o’r deunydd a oedd wedi ei gyflwyno i Weinidogion yn cael ei ddefnyddio i gefnogi naratif y Gyllideb.

4.14 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno dyraniadau MEG ar gyfer 2020-21, cyn cyhoeddi’r Gyllideb ddrafft.

4.15 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Ymateb i Gam Dau Adroddiad yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol a Map CAB(19-20)16

5.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno’r ymateb ffurfiol i Gam 2 o Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol Chwarae Teg.

5.2 Nod yr Adolygiad oedd helpu i gyflawni’r uchelgais i sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Roedd y camau gweithredu arfaethedig, a oedd yn berthnasol i bob portffolio, yn rhai tymor hir a fyddai’n gofyn am newidiadau diwylliannol dramatig a pharhaus.

5.3 Byddai derbyn argymhellion yr Adolygiad yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn ymrwymo i wneud newidiadau pellgyrhaeddol i sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn gweithredu. Roedd yn bwysig datblygu cynllun a fyddai’n adeiladu ar gamau newid er mwyn cyflawni’r nod o wella cydraddoldeb yng Nghymru.

5.4 Roedd y Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad ysgrifenedig ar 26 Tachwedd a fyddai’n rhoi ymateb y Llywodraeth i’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol.

5.5 Croesawodd y Cabinet y papur, a llongyfarchwyd y swyddogion ar eu gwaith gan eu bod wedi sicrhau cynnydd sylweddol yn y maes polisi hwn.

Eitem 6: Llwybr at economi gylchol

6.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r dull gweithredu a’r meysydd gweithredu a fyddai’n cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad arfaethedig ar strategaeth ar gyfer economi gylchol.

6.2 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Rhannu’r dudalen hon