Cyfarfod y Cabinet: 4 Rhagfyr 2023
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 4 Rhagfyr 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
Ymddiheuriadau
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Rachel Garside Jones, Cyfarwyddwr yr Uned Cytundeb Cydweithio
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 27 Hydref.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod yn cadeirio'r cyfarfod o Lundain, oherwydd yn gynharach y diwrnod hwnnw bu'n siaradwr gwadd yng Nghynhadledd y Resolution Foundation.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 6.15pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Cytuno ar Becyn Cyllideb Ddrafft 2024-2025
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a ofynnodd i'r Cabinet gytuno ar becyn Cyllideb Ddrafft 2024-2025, gan gynnwys y dyraniadau Prif Grŵp Gwariant arfaethedig.
4.2 Drwy'r broses gyllidebol hon, roedd Gweinidogion wedi nodi arbedion refeniw ac wedi cyrraedd pwynt lle y gellid cyflwyno dyraniadau arfaethedig y Prif Grwpiau Gwariant i'r Cabinet cyn cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft ar 19 Rhagfyr.
4.3 Cydnabuwyd bod goblygiadau Datganiad yr Hydref, a oedd yn ddatganiad hynod siomedig, a'r rhagolygon llai ffafriol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, wedi esgor ar heriau digynsail i Weinidogion ym mlwyddyn olaf cyfnod yr adolygiad o wariant cynhwysfawr.
4.4 Roedd y setliad gan Lywodraeth y DU wedi arwain at y lefel isaf bosibl o gyllid canlyniadol i'w ddyrannu, ac roedd y rhan fwyaf o'r cyllid a oedd ar gael yn ymwneud ag ardrethi annomestig. Yr wythnos flaenorol, roedd y Cabinet wedi cytuno ar ddull gweithredu gwahanol i'r hyn sydd ar waith yn Lloegr, er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyrannu rhywfaint o'r cyllid hwn i wariant y sector cyhoeddus.
4.5 Diolchodd y Cabinet i bawb a fu’n rhan o’r cyfnod o waith dwys i gwblhau'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-2025.
4.6 Cydnabuwyd bod pob Gweinidog wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd a fyddai'n cael effaith ar ymrwymiadau gwariant.
4.7 Cytunodd y Cabinet ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25, ynghyd â dyraniadau'r Prif Grwpiau Gwariant.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2023