Cyfarfod y Cabinet: 4 Mawrth 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 4 Mawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
- Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Yr Athro Laura McAllister, Cyd-gadeirydd y Comisiwn Cyfansoddiadol (yn bersonol) (eitem 1)
- Dr Rowan Williams, Cyd-gadeirydd y Comisiwn Cyfansoddiadol (drwy Teams) (eitem 1)
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder (eitemau 1 a 2)
- Sophie Brighouse, Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol (eitemau 1 a 2)
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr Ysgrifennydd y Comisiynau (eitemau 1 a 2)
Eitem 1: Ymgysylltu â Chadeiryddion y Comisiwn Cyfansoddiadol
1.1 Croesawyd Laura McAllister a Rowan Williams, cyd-gadeiryddion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, i'r cyfarfod gan y Prif Weinidog.
1.2 Roedd y Rhaglen Lywodraethu wedi ymrwymo i sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Dechreuodd y Comisiwn ei waith ym mis Tachwedd 2021 gyda dau amcan eang: ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio'n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau i fod yn rhan annatod ohoni; ac ystyried a datblygu'r prif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
1.3 Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn ym mis Ionawr a gwnaeth ddeg argymhelliad ar gyfer gweithredu ar frys. Roedd y tri cyntaf yn ymwneud â chryfhau democratiaeth Cymru, gyda'r saith arall yn canolbwyntio ar fesurau i amddiffyn y setliad datganoli.
1.4 Nododd yr Athro McAllister y byddai Dr Williams yn canolbwyntio ar dri argymhelliad cyntaf yr Adroddiad, ac y byddai hithau'n mynd i'r afael â'r saith sy'n weddill.
1.5 Dechreuodd Dr Williams drwy dynnu sylw at ba mor dda yr oedd y Comisiwn wedi cydweithio, o ystyried safbwyntiau gwleidyddol eang yr aelodau. Roedd hyn wedi creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin ac wedi arwain at gytundeb bron yn unfrydol i'r argymhellion. Roedd y dull cyd-gadeirio hefyd wedi gweithio'n rhyfeddol o dda, gyda manteision ymarferol a damcaniaethol o rannu barn a rhannu'r llwyth gweinyddol. Ar ben hynny, roedd gwaith y Panel Arbenigol wedi bod yn amhrisiadwy.
1.6 Nod y Sgwrs Genedlaethol oedd clywed gan gynifer o bobl â phosib, i ddarparu dilysrwydd i'r adroddiad terfynol. Drwy ddefnyddio dulliau gweithredu amrywiol, cafwyd safbwyntiau cyfoethog a manwl a rhoddwyd cipolwg gwerthfawr i'r Comisiwn ar farn dinasyddion, a fyddai'n wers werthfawr i ddiwylliant gwleidyddol Cymru.
1.7 Roedd y Comisiwn wedi llwyddo i gyrraedd llawer o bobl drwy ddulliau cost-effeithiol, ond nid oedd 18 mis wedi bod yn ddigon o amser i gynnal sgwrs gynhwysfawr ac roedd wedi bod yn anodd estyn allan at rai grwpiau, megis cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, y gymuned Fyddar a'r rheini o fewn y sector Amaethyddol.
1.8 Bu lefel gredadwy o ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru, yn enwedig drwy'r paneli dinasyddion, gan alluogi i bobl gymryd golwg fwy ystyriol o'r opsiynau oedd ar gael.
1.9 Byddai'n bwysig i sgyrsiau barhau fel rhan o'r ymgysylltiad democrataidd arferol, er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.
1.10 Roedd hyn i gyd wedi llywio'r tri argymhelliad cyntaf gyda'r nod o geisio adeiladu diwylliant democrataidd cryfach i wrthsefyll y bygythiadau i ddemocratiaeth gynrychioliadol ledled y byd. Nod yr argymhellion hyn oedd meithrin cyfranogiad gweithredol yn system lywodraethu Cymru, gan gynnwys ymgysylltu cymunedol cynhwysol, mwy o addysg ddinesig, sefydlu panel cynghori arbenigol a datblygu datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethu i Gymru.
1.11 Trodd yr Athro McAllister at y saith argymhelliad oedd yn weddill. Daeth y Comisiwn i'r casgliad hefyd bod y setliad datganoli presennol yn agored i niwed ac yn ansefydlog o ganlyniad i'r ffordd yr oedd Llywodraeth y DU wedi apelio ar sofraniaeth Seneddol y DU i ddiystyru pwerau'r Senedd a Llywodraeth Cymru, gan danseilio'r confensiynau sefydledig ar gysylltiadau rhyngseneddol a rhynglywodraethol.
1.12 Felly argymhellwyd y dylid cael Deddfwriaeth y DU i fod yn sail i gysylltiadau rhynglywodraethol a'r ddyletswydd i gydweithredu, ac i gryfhau Confensiwn Sewell gyda gofyniad am gydsyniad y Senedd. Yn ogystal, dylai Llywodraeth y DU ddileu'r cyfyngiadau ariannol cyfredol ar reoli cyllideb Llywodraeth Cymru.
1.13 Roedd gweddill yr argymhellion yn ymwneud â'r potensial ar gyfer datganoli pellach. Dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli yn raddol, gan ddechrau gyda chyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf a phlismona a datganoli gwasanaethau a seilwaith rheilffyrdd yn llawn, gyda chyllid teg. Yn ogystal, dylid sefydlu panel arbenigol i gynghori ar ddatganoli ynni, gan gynnwys Ystâd y Goron a llais cryfach i Gymru ar ddarlledu, tra'n archwilio llwybrau at ddatganoli.
1.14 Yn ogystal â'r argymhellion, roedd y Comisiwn wedi nodi tri opsiwn ar gyfer diwygio cyfansoddiadol pellach: Atgyfnerthu Datganoli, Cymru mewn Teyrnas Unedig Ffederal, ac Annibyniaeth. Fodd bynnag, ni ddaeth y Comisiwn i farn ar opsiwn a ffefrir ond daeth i'r casgliad bod pob un yn opsiwn hyfyw a rhoddodd ddadansoddiad o gryfderau a gwendidau pob un, wedi’i farnu yn erbyn eu fframwaith.
1.15 Croesawodd y Cabinet yr Adroddiad, gan ddiolch i'r Cyd-gadeiryddion, aelodau, y panel arbenigol a phawb a gefnogodd ac a gyfrannodd at waith y Comisiwn.
1.16 Cytunodd y gweinidogion ei fod yn Adroddiad awdurdodol, cryno, craff a hygyrch, a oedd yn nodi'r sylfeini ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Roedd gallu datblygu casgliadau unfrydol ar sail drawsbleidiol wedi bod yn gyflawniad sylweddol.
1.17 Gallai'r Llywodraeth ddysgu gwersi o'r dull cyd-gadeirio, y dull pwyllog a phragmatig o ymgysylltu cymunedol a democrataidd, a'r dull ymchwil ansoddol a meintiol. Gallai hyn, ochr yn ochr â phrosesau a ddefnyddir gan yr adran iechyd, helpu i wella cyswllt â dinasyddion yng Nghymru.
1.18 Nododd y gweinidogion ganfyddiadau'r Comisiwn, a ddaeth i'r casgliad nad oedd y status quo yn opsiwn. Roedd yn bwysig datblygu datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethu ar gyfer Cymru.
1.19 Diolchodd y Cabinet unwaith eto i'r cyd-gadeiryddion ac am waith y Comisiwn.
Eitem 2: Adroddiad Terfynol y Comisiwn Cyfansoddiadol
2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gytuno ar ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i adroddiad terfynol y Comisiwn Cyfansoddiadol fel y nodir yn atodiad B.
2.2 Roedd yr ymgysylltiad blaenorol gyda'r Cyd-gadeiryddion yn gefndir i'r argymhellion. Roedd yn bwysig manteisio ar waith y Comisiwn, o ystyried y gorgyffwrdd â safbwyntiau polisi presennol y Llywodraeth ac felly, cynigiwyd y dylai'r Cabinet dderbyn yr holl argymhellion. Fodd bynnag, roedd angen ystyried yr heriau a'r risgiau sylweddol o ran cyllid a galluogrwydd.
2.3 Cytunodd y Cabinet y dylid derbyn yr holl argymhellion.
2.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 3: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod ar 26 Chwefror yn amodol ar welliant i baragraff 2.5.
Eitem 4: Eitemau’r Prif Weinidog
Ymweliadau Dydd Gŵyl Dewi
4.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y bu nifer o ymweliadau gan y Gweinidogion yn ystod yr wythnos flaenorol i hyrwyddo Cymru fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Roedd wedi ymweld â Brwsel i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ac wedi mynychu digwyddiad yn Uchel Gomisiwn India yn Llundain i lansio ymgyrch Cymru yn India. Roedd hwn yn ddigwyddiad ar y cyd a fynychwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn India.
4.2 Yn ogystal, roedd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi mynychu derbyniad yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain, roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi mynychu cyfres o ymrwymiadau yn Nulyn ac roedd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad wedi bod yn westai yn nerbyniad Noswyl Dewi Sant Cymdeithas y Gyfraith yn Chancery Lane yn Llundain.
4.3 Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Cabinet, yn ogystal â mynychu lansiad Ymgyrch Cymru yn India ym Mumbai, ei bod wedi trafod gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gyda Chynulliad Deddfwriaethol Maharashtra a wedi mynychu digwyddiad LHDTC+. Yn ogystal, roedd y Gweinidog wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Tata Steel ac wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth Kerala ar leoli gweithwyr iechyd proffesiynol o India yng Nghymru.
Cyfleuster Saernïo Haenellau Casnewydd
4.4 Dywedodd Gweinidog yr Economi wrth y Cabinet fod Swyddfa Cabinet y DU wedi cyhoeddi Gorchymyn Cydsyniad ddydd Gwener yr wythnos flaenorol i ganiatáu i Vishay Intertechnology o'r UDA brynu Cyfleuster Saernïo Haenellau Casnewydd gan Nexperia, oherwydd pryderon diogelwch cenedlaethol.
Uwchgynhadledd Profiad o fod mewn Gofal
4.5 Myfyriodd y Prif Weinidog ar yr Uwchgynhadledd Profiad o fod mewn Gofal a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn. Roedd pump o’r Gweinidogion yn bresennol.
Eitem 5: Busnes y Senedd
5.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys y Grid Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 5pm ddydd Mawrth. Byddai Pwyllgor o'r Senedd Gyfan yn dilyn hyn i ystyried cam 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). O ystyried nifer y gwelliannau, byddai Cam 2 hefyd yn cael ei gynnal ddydd Mercher.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2024