Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Pier Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio, Cyfansoddiad a Chyfiawnder Ewropeaidd
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Georgina Mawdsley, Swyddfa’r Cabinet

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 24 Ionawr.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)

2.1 Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Gweinidogion am hynt y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) drwy Senedd y DU. Bwriad y Bil Aelod Preifat hwn yw estyn yr amddiffyniad presennol sy’n cael ei roi i wrthrychau diwylliannol ar fenthyg o dramor i orielau ac amgueddfeydd yn y DU.

2.2 Ni fu’r Llywodraeth yn llwyddiannus wrth sicrhau cytundeb yr Aelod, sy’n noddi’r Bil, i gefnogi gwelliant sy’n amddiffyn pwerau o ran Cymru. O ganlyniad, roedd Gweinidogion y DU wedi tynnu Cymru o’r Bil.

Ymadael â’r UE – Cyhoeddiad ynghylch Diwygio Rheoleiddiol

2.3 Hysbyswyd y Cabinet bod y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ynghyd â chynrychiolwyr o’r Llywodraethau Datganoledig eraill, wedi mynychu cyfarfod ddydd Sadwrn gyda’r Twrnai Cyffredinol, lle rhoddwyd gwybod iddynt am fwriad Llywodraeth y DU i gyhoeddi dogfen bolisi ar sut oedd y DU yn manteisio ar ei hymadawiad â’r UE. Wedi hynny, cyhoeddwyd y ddogfen ddydd Llun.

2.4 Roedd y ddogfen yn amlinellu cynigion ar gyfer newidiadau rheoleiddiol penodol a chynlluniau i ddeddfu i newid statws cyfraith yr UE a ddargedwir. Roedd yn ymddangos y byddai deddfwriaeth benodol a allai dresmasu ymhellach ar bwerau Gweinidogion Cymru a chael effaith negyddol, unwaith eto, ar y setliad datganoli. Roedd hyn yn groes i egwyddorion y cytunwyd arnynt yn ddiweddar fel rhan o’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

2.5 Roedd y Prif Weinidog yn bwriadu codi’r ddogfen bolisi yn y cyfarfod rheolaidd rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Llywodraethau Datganoledig ddydd Mercher a byddai ar agenda cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Faterion Gwledig.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn gan nodi y byddai sesiynau yn y Siambr yn dychwelyd i fformat hybrid yr wythnos honno. Roedd amser pleidleisio wedi’i amserlennu am 6:20pm ddydd Mawrth a thua 6:35pm ddydd Mercher.