Cyfarfod y Cabinet: 30 Medi 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 30 Medi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Bekah Cioffi, Dirprwy Gyfarwyddwr Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni (eitem 4)
- Lindsey Bromwell, Pennaeth Datgarboneiddio'r Sector Cyhoeddus (eitem 4)
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio (eitem 5)
- Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai (eitem 5)
- Joanna Valentine, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoleiddio a Strategaeth (eitem 5)
Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 24 Medi.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Tata Steel
2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ddiwedd gwneud dur ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, wrth i Tata Steel symud i wneud dur ffwrnais arc drydan, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar y cymunedau a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Roedd angen parhau i gefnogi pawb yr oedd hyn yn effeithio arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn a helpu i ailadeiladu cymunedau. Roedd hefyd yn bwysig cyfeirio pobl at y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sydd ar gael.
Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai hi, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn mynychu agoriad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn nes ymlaen yr wythnos honno. Byddai'r Prif Weinidog hefyd yn cynnal cyfres o ymweliadau yn yr ardal.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi nad oedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth, ac y byddai amser pleidleisio'n digwydd tua 6.25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Strategaeth Addasu i'r Newid Hinsawdd
4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Strategaeth Addasu i Newid Hinsawdd a'r dull gweithredu ar gyfer datblygu fframwaith i olrhain effaith a chyflawniad.
4.2 Roedd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob maes polisi yn Llywodraeth Cymru, a dim ond ffenestr gul o gyfle oedd i baratoi ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, roedd bron i chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd neu erydu arfordirol. Roedd ffermwyr yn ceisio ymdopi â mwy o lifogydd, ac roedd pobl hŷn yn dioddef yn y tywydd poethach a natur yn parhau i ddioddef yn sgil y newid ym mhatrymau'r tywydd.
4.3 Ar ben hynny, mae’n debygol y byddai effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo fwyaf gan bobl ar incwm isel sydd, o bosibl, â llai o fodd i newid eu trefniadau byw a gweithio, ac addasu eu cartrefi, neu fod ag yswiriant cartref ar gyfer costau a allai godi o ddifrod stormydd a llifogydd.
4.4 Roedd y Strategaeth yn ganllaw hanfodol i'r Llywodraeth a sefydliadau partner ar gyfer sut i ymateb i heriau'r dyfodol.
4.5 Roedd cyfleoedd hefyd. Gallai hafau sychach fod yn dda i dwristiaeth, a gallai cynhyrchwyr bwyd dyfu mathau newydd o gnydau. Gallai addasu i'r newid yn yr hinsawdd hefyd helpu i greu swyddi gwyrdd yn y dyfodol.
4.6 Yn ystod yr Wythnos Hinsawdd ddiweddar yn Efrog Newydd, roedd Cymru wedi cael ei chydnabod fel arweinydd byd-eang ym maes addasu i'r newid yn yr hinsawdd, ac roedd hyn hefyd wedi dylanwadu ar Lywodraeth y DU wrth gytuno i ymuno â 70 o wledydd eraill i gymeradwyo'r Glymblaid dros Bartneriaethau Aml-lefel Uchelgeisiol ar gyfer Newid Hinsawdd (the Coalition for High Ambition Multilevel Partnerships for Climate Action - CHAMP).
4.7 Croesawodd y Cabinet y Strategaeth, yn enwedig y pwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol a'r cysylltiadau â'r gofynion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Papur gwyn ar dai digonol a rhenti teg
5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Papur Gwyn ar Dai Digonol a Rhenti Teg, gan nodi y dylid ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori yn ystod yr wythnos yn dechrau 21 Hydref.
5.2 Yn flaenorol, bu Galwad am Dystiolaeth Papur Gwyrdd, a oedd yn ceisio gwella dealltwriaeth o'r farchnad rentu yng Nghymru, a'r dulliau gweithredu y mae angen eu defnyddio i sicrhau tai digonol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ganol Medi gyda 371 o ymatebion wedi dod i law. Roedd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd hefyd wedi cynnal ei Ymchwiliad ei hun i'r Hawl i Dai Digonol, ac roedd y ddau ddarn o waith wedi helpu i lywio'r papur gwyn.
5.3 Roedd y papur gwyn felly wedi taro cydbwysedd gofalus rhwng gosod y cynigion polisi a deddfwriaethol posibl ar gyfer y dyfodol o ran sut i sicrhau tai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd.
5.4 Roedd y papur gwyn hefyd yn nodi'r ystod o fesurau deddfwriaethol, polisi ac ariannol yr oedd y Llywodraeth eisoes yn bwrw ymlaen â nhw er mwyn gwireddu'r gwahanol agweddau ar ddigonolrwydd tai. Yn y cyd-destun hwn, roedd yr ymdrechion i ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd a darparu 20,000 o gartrefi ychwanegol ar gyfer y sector cymdeithasol yn gamau hanfodol tuag at sicrhau tai digonol.
5.5 Roedd y papur gwyn wedi ei rannu'n ddwy adran allweddol, un yn canolbwyntio ar sicrhau tai digonol, a'r llall yn mynd i'r afael â rhenti teg a fforddiadwyedd yn y sector preifat.
5.6 Awgrymodd y papur gwyn y dylid defnyddio saith maen prawf Pwyllgor Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer sicrhau tai digonol, gan gymhwyso'r mesurau hyn i lywio'r gwaith o gynhyrchu Strategaeth Tai ar gyfer y dyfodol.
5.7 Er bod y papur yn amlinellu'r potensial i gyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol ar gyfer dyletswydd i lunio strategaeth ac ymestyn y ddyletswydd honno i bartneriaid, nid oedd yn cynnig ymgorffori hawl benodol i dai digonol yn y gyfraith ar hyn o bryd.
5.8 Roedd adran rhenti teg y Papur Gwyn yn canolbwyntio ar y Sector Rhentu Preifat, ac roedd yr ymyriadau arfaethedig yn ceisio gwella fforddiadwyedd, ffitrwydd i fod yn gartref, a hygyrchedd.
5.9 Fodd bynnag, roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion i wella mynediad i'r sector preifat, yn benodol mewn perthynas â datblygu cynigion mewn perthynas â Threth Trafodiadau Tir, gyda'r nod o gynyddu'r cyflenwad o dai addas drwy fwy o gymhelliant i landlordiaid ymuno â Chynllun Lesio Cymru.
5.10 Croesawodd y Cabinet y Papur Gwyn.
5.11 Cydnabuwyd y dylai cynnig cymhellion ychwanegol i landlordiaid sector preifat, sy'n ymuno â Chynllun Lesio Cymru, er mwyn gwella'r cyflenwad o eiddo rhent fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm isel a phobl sy'n byw mewn tlodi.
5.12 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2024