Cyfarfod y Cabinet: 30 Ionawr 2023
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 30 Ionawr 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Lynne Neagle AS
- Julie Morgan AS
- Lee Waters AS
Ymddiheuriadau
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- David Davies, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol (eitem 2)
- Sioned Rees, Cyfarwyddwr, Diogelu Iechyd y Cyhoedd (eitem 2)
- Stacey Jo Smith, Pennaeth Parodrwydd am Bandemig (eitem 2)
- Peter McDonald, Cyfarwyddwr, Seilwaith yr Economi, (eitem 3)
- Robert Kent-Smith, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth (eitem 3)
- Emma Williams, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio (eitem 4)
- Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd (eitem 4)
- Rhidian Jones, Pennaeth Strategaeth Adfywio (eitem 4)
Cynhaliodd y Cabinet funud o dawelwch i gofio’r diweddar Clare Drakeford, gwraig y Prif Weinidog.
Eitem 1: Busnes y Senedd
1.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ymateb i’r cwestiynau i’r Prif Weinidog y diwrnod canlynol. Byddai amser pleidleisio oddeutu 7:05pm ddydd Mawrth, ac na fyddai’r Senedd yn cyfarfod ddydd Mercher oherwydd y gweithredu diwydiannol gan staff y Comisiwn.
Eitem 2: Diweddariad ynglŷn â COVID-19 a feirysau anadlol eraill
2.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch COVID-19 a feirysau anadlol eraill. Hefyd roedd y papur yn amlinellu rhai o’r pwysau enfawr a oedd ar y GIG ar ddiwedd 2022.
2.2 Ym mis Rhagfyr, gwelwyd y lefelau galw uchaf erioed mewn llawer o rannau o’r system gofal brys a gofal mewn argyfwng. Roedd lefel cyffredinrwydd feirysau anadlol yn y gymuned yn uchel iawn, ac yn ystod trydedd wythnos y mis hwnnw gwelwyd brig a oedd yr ail uchaf o ran cyfraddau ymgynghori â meddygon teulu ynghylch salwch tebyg i’r ffliw, ers 2010/11. Hefyd cafwyd oddeutu 400,000 o gysylltiadau â gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn un wythnos.
2.3 Erbyn hynny roedd y sefyllfa’n gwella, ac roedd nifer yr achosion o COVID-19, ffliw, a feirws syncytiol anadlol yn gostwng. Roedd nifer y derbyniadau i’r ysbyty a galwadau cysylltiedig i Galw Iechyd Cymru hefyd wedi gostwng.
2.4 Hyd yn oed gyda sefyllfa sy’n gwella o ran achosion o feirysau anadlol, roedd y system iechyd a gofal yn dal i fod o dan lawer o bwysau, yn enwedig yn erbyn cefndir o weithredu diwydiannol parhaus.
2.5 Roedd nifer o fuddsoddiadau sylweddol mewn gofal brys a gofal mewn argyfwng wedi cael eu cychwyn, ac roedd hynny wedi gwella’r sefyllfa yn gyffredinol. Roedd hyn yn cynnwys rheoli cleifion 999 yn y gymuned, recriwtio clinigwyr ambiwlans, a chynlluniau ar gyfer gwella trosglwyddiadau cleifion, ac effeithlonrwydd y gweithlu. Yn ddiweddar, roedd Gweinidogion y DU wedi gwneud cyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r meysydd hyn, ond roedd ganddynt bellter hir i fynd cyn dal i fyny â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Er enghraifft, roedd gan Gymru 270 o welyau ysbyty ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth, ond yn Lloegr y ffigur oedd 170 ar gyfer pob 100,000.
2.6 Croesawodd y Gweinidogion y diweddariad.
Eitem 3: Yr Adolygiad o Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth
3.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar y Datganiad Polisi ar gyfer yr Adolygiad o Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Hefyd gofynnwyd i Weinidogion nodi Adroddiad Terfynol y Panel Adolygu Ffyrdd a oedd yn gosod argymhellion o ran yr angen i ofyn a oedd buddsoddi mewn ffordd yn briodol, gan roi argymhellion ynglŷn â chynlluniau unigol.
3.2 Fe wnaeth y Panel Adolygu Ffyrdd argymhellion ar gyfer polisi trafnidiaeth yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi barn ar y 55 o gynlluniau ffordd a oedd yn rhan o fwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, yn seiliedig ar y polisïau presennol.
3.3 Croesawodd y Cabinet y cynigion diwygiedig yn y papur, a oedd yn cynnwys cynlluniau i weithredu system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy, ac effeithlon a fyddai’n deg i bawb, gan roi sylw i dlodi trafnidiaeth ar yr un pryd.
3.4 Cydnabuwyd y byddai angen i bob ffordd newydd gyfrannu tuag at newid dulliau teithio, er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd ar gyfer cludo llwythi. Roedd hefyd yn bwysig ystyried beth a fyddai’n fforddiadwy o ystyried y lleihad sylweddol mewn grym gwario, a oedd yn cael ei achosi gan chwyddiant a phenderfyniad y DU i dorri cyllidebau cyfalaf.
3.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 4: Datganiad sefyllfa ar gyfer canol trefi
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i gyhoeddi’r datganiad Sefyllfa ar gyfer Canol Trefi, cyflawni camau gweithredu cysylltiedig, a darparu trefniadau llywodraethu arfaethedig.
4.2 Roedd y Datganiad Sefyllfa yn gynnyrch llawer iawn o waith a gyflawnwyd ar draws y Llywodraeth, a hefyd ar y cyd â’r prif randdeiliaid allanol, dros nifer o fisoedd. Ei nod oedd nodi’r prif heriau a oedd yn wynebu canol trefi, gan helpu i sicrhau bod pawb yn eu deall. Byddai’r ddealltwriaeth eang ei chwmpas hon yn sail ar gyfer dull gweithredu y gellid ei fabwysiadu ledled y sector ac ar draws y Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â’r problemau.
4.3 Gan gydnabod bod Llywodraeth Cymry yn alluogydd allweddol, roedd set o gamau gweithredu cenedlaethol wedi cael eu cynnig ar draws amrywiaeth o feysydd polisi, er mwyn galluogi Awdurdodau Lleol ac eraill i helpu i ymateb i’r heriau dan sylw.
4.4 Nid oedd pob canol tref yr un fath ar draws Cymru, ac ni fyddai un cam gweithredu sengl yn gallu datrys y problemau yr oeddent yn eu hwynebu. Serch hynny, byddai’r camau gweithredu ar y cyd, a oedd gan mwyaf yn canolbwyntio ar bolisïau, strategaethau, ac ymrwymiadau presennol y Rhaglen Lywodraethu ar draws y Llywodraeth, yn cael effaith.
4.5 Croesawodd y Cabinet y papur.
4.6 Cydnabuwyd pwysigrwydd y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector o fewn cymunedau, gan fod llawer o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â mentrau cymdeithasol a gwasanaethau cyngor a chymorth, wedi eu lleoli yng nghanol trefi. Roedd angen sicrhau bod eiddo gwag uwch ben siopau ar y stryd fawr yn cael eu defnyddio ar gyfer tai cymdeithasol, gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn cael eu cefnogi gan system drafnidiaeth integredig. Ar ben hynny, roedd angen sicrhau bod cymysgedd o grwpiau economaidd-gymdeithasol, ac o ystyried y trefniadau ar gyfer gweithio hyblyg sydd ar waith erbyn hyn, sefydlu lleoliadau swyddfa a fyddai’n cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’r stryd fawr.
4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Unrhyw fater arall
Diweddariad ar Ganolfannau Fy Nghoeden, Ein Coedwig
5.1 Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Cabinet y byddai pawb yng Nghymru yn gallu mynd i nôl coeden am ddim drwy’r fenter Fy Nghoeden, Ein Coedwig o 20 Chwefror ymlaen, pan fyddai 50 o ganolfannau dosbarthu yn ailagor. Byddai pecynnau o hadau blodau gwyllt hefyd ar gael am ddim o’r canolfannau hyn.
5.2 Byddai’r rheini nad oedd ganddynt le i blannu coeden yn gallu defnyddio’r opsiwn ‘plannu coeden i mi’ sydd ar dudalen we’r ymgyrch er mwyn trefnu i goeden gael ei phlannu ar eu rhan. Byddai honno wedyn yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol sy’n tyfu’n gyflym.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2023