Cyfarfod y Cabinet: 3 Hydref 2022
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 3 Hydref 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
- Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol
- Gwilym Hughes, Dirprwy Gyfarwyddwr Cadw
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Medi.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod yn ymddangos yn gynyddol bosibl bod Gweinidogion y DU yn symud i ffwrdd oddi wrth y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth flaenorol i uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant, a fyddai’n achosi rhagor o broblemau i deuluoedd sy’n agored i niwed. Roedd yn ymddangos yn gynyddol bosibl y byddai toriadau’n digwydd i wariant cyhoeddus, a fyddai’n creu mwy o bwysau ar Gyllideb Llywodraeth Cymru.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi nad oedd unrhyw bleidlais wedi ei threfnu ar gyfer dydd Mawrth, a bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer tua 6:35pm ddydd Mercher.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2022