Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Dawn Bowden AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol (eitem 4)
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol (eitem 5)
  • Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Etifeddiaeth Lofaol a Diogelwch Cronfeydd Ddŵr (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 27 Ionawr 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Prifysgol Caerdydd

2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i roi diweddariad i'r Cabinet ar y cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd ynghylch ailstrwythuro.

2.2 Ar 29 Ionawr, dechreuodd ymgynghoriad statudol 90 diwrnod ar ddiswyddo hyd at 400 o staff, yn wirfoddol gyda gorfodol fel dewis olaf. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig cau cyrsiau mewn nyrsio, hanes hynafol, cerddoriaeth, crefydd a diwinyddiaeth, ac ieithoedd tramor modern. Fodd bynnag, roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi dweud ei fod yn hyderus y gall ailddyrannu lleoedd i sefydliadau eraill, gan ddal i gyrraedd targedau'r Llywodraeth ar gyfer hyfforddiant a recriwtio nyrsys.

2.3 Roedd y toriadau ym mhynciau'r celfyddydau a'r dyniaethau yn adlewyrchu dirywiad hirdymor yn y galw gan fyfyrwyr am y pynciau hyn ledled y DU, gyda'r ddarpariaeth yn y pynciau hyn yn cael eu canolbwyntio fwyfwy mewn nifer llai o brifysgolion.  Roedd Is-ganghellor Caerdydd wedi nodi bod y cynigion yn dal i fod mewn cyfnod ymgynghorol. Hefyd, roedd yn agored i farn y Llywodraeth ac aelodau'r Senedd.

2.4 Roedd y sector cyfan yng Nghymru ac ar draws y DU yn wynebu sefyllfa ariannol heriol oherwydd amrywiadau mewn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol rhwng 2021 a 2024, wrth i reoliadau fisa myfyrwyr gael eu rhyddfrydoli am y tro cyntaf ac yna eu cwtogi, ynghyd â chystadleuaeth gynyddol yn y farchnad ar gyfer myfyrwyr gartref, wrth i sefydliadau mwy o fri ehangu eu recriwtio, a cheisiadau myfyrwyr leihau ar gyfer rhai meysydd pwnc, yn enwedig y celfyddydau a'r dyniaethau.

2.5 Bu lleihad hefyd yng ngwerth gwirioneddol ffioedd dysgu ers ei uchafbwynt yn 2012, a chollwyd cyllid strwythurol yr UE yr oedd prifysgolion yng Nghymru yn arbennig o ddibynnol arno, ochr yn ochr â methiant Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhywbeth yn ei le. Cyplyswyd hyn â chostau cynyddol mewn perthynas ag ynni, pensiynau, a'r cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr.

2.6 Roedd yr heriau hyn wedi bod yn amlwg dros y 12 i 18 mis diwethaf, gyda llawer o brifysgolion yn adrodd y bydd diffygion, a nifer yn gweithredu cynlluniau ymadael gwirfoddol.

2.7 Serch hynny, roedd prifysgolion yng Nghymru yn parhau i gael eu hariannu'n gymharol dda fesul myfyriwr o'u cymharu â rhannau eraill o'r DU a hefyd yn rhyngwladol.

2.8 Nodwyd y byddai dadl yr wrthblaid ddydd Mercher yma, a phrotest Undeb Prifysgolion a Cholegau y tu allan i'r Senedd. Roedd negeseuon y Llywodraeth ar y mater wedi amlygu disgwyliad y byddai'r brifysgol yn darparu'r cymorth angenrheidiol i staff a myfyrwyr yr oedd hyn yn effeithio arnynt, ynghyd â disgwyliad i weithio yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, a bod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r prifysgolion yn ystod cyfnod heriol.

2.9 Fodd bynnag, roedd llawer o’r ffactorau sylfaenol sy’n achosi’r heriau ariannol sy'n wynebu prifysgolion y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, megis rheolau fisa, Brexit, a cholli cyllid strwythurol, gyda chymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn ddim ond 10% o drosiant y sector.  Roedd yn bwysig cofio bod prifysgolion yn sefydliadau ymreolaethol, ac na allai'r Llywodraeth, ac na ddylai, ddylanwadu ar eu penderfyniadau academaidd.

2.10 Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd rhai camau i gefnogi'r sector lle bo hynny'n bosibl, megis cynyddu ffioedd dysgu mewn blynyddoedd dilynol, o £9,000 hyd at £9,535 y flwyddyn academaidd nesaf, gan gynhyrchu amcangyfrifiad o £36m o incwm ychwanegol i'r sector.  Roedd £10m o incwm grant yn y flwyddyn ariannol bresennol wedi ei adfer, yn dilyn datganiad yr hydref, gan olygu bod cyllid Medr wedi cyrraedd £200m.

2.11 Fodd bynnag, roedd cyfanswm graddfa'r heriau ariannol yn uwch na chapasiti ariannol y Llywodraeth, oni bai bod symiau sylweddol yn cael eu dargyfeirio oddi wrth wasanaethau hanfodol eraill, ac nid oedd yn bosibl darparu cyllid grant ychwanegol i'r sector ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Cau Amgueddfa Cymru

2.12 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cau Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

2.13 Ddydd Sul penderfynodd yr Amgueddfa gau ei hadeilad dros dro yng Nghaerdydd am gyfnod byr oherwydd problem fecanyddol a achoswyd gan fethiant cydrannau mewn man penodol o'r adeilad. Roedd y nam wedi ei nodi, ac roedd yn y broses o gael ei ddatrys. Roedd disgwyl y byddai'r Amgueddfa yn parhau ar gau ddydd Mawrth i gynnal profion. Byddai'r Gweinidog yn cyfarfod â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Amgueddfa Cymru yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, a byddai Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi unwaith y byddai materion wedi cael eu hunioni.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet fod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7pm ddydd Mawrth a thua 6:20pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Ail Gyllideb Atodol 2024-2025

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r cynnwys arfaethedig a chadarnhau'r trefniadau ar gyfer Ail Gyllideb Atodol 2024-2025.

4.2 Roedd y Llywodraeth yn parhau â'r arfer safonol o gyhoeddi dwy gyllideb atodol, gyda'r Senedd yn cytuno ar y gyntaf yn y mis Hydref blaenorol. Roedd y gyllideb honno’n cynnig newidiadau i unioni'r addasiadau terfynol i ddyraniadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain eisoes wedi eu cyhoeddi, megis y rhai sy'n ymwneud â chyflogau'r sector cyhoeddus a chyllid SCAPE, er mwyn cefnogi blaenoriaethau'r Prif Weinidog.

4.3 Rhagwelwyd y byddai cronfeydd refeniw yn £260m gyda diffyg yn y gyllideb gyfalaf o £140m. Y bwriad oedd trosi refeniw yn gyfalaf i wrthbwyso'r gor-raglennu hwn.

4.4 Yn sgil adolygiad o sefyllfa cyfnod 9 yn ystod y flwyddyn, byddai nifer bach o ddyraniadau pellach. Byddai £35m yn cael ei ddyrannu i'r MEG Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gydnabod y sefyllfa refeniw ac i adlewyrchu nifer o bwysau, megis diffyg o £15m mewn cyllid o'r gordal Iechyd Mewnfudo. Byddai £25m o refeniw ar gyfer MEG yr Economi, Ynni a Chynllunio fel cronfa wrth gefn i ymdrin â her gyfreithiol bosibl, ynghyd â bron i £1m yn cael ei ddyrannu i'r MEG Cyfiawnder Cymdeithasol i gefnogi'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

4.5 Nodwyd y byddai'r Ail Gyllideb Atodol yn cael ei gosod ar 18 Chwefror, a'i chynnig yn y Senedd ar 18 Mawrth.

4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

5.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r derbyniad cychwynnol yn dilyn cyflwyno'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yn y Senedd fis Rhagfyr. Roedd y papur hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau gweithredol, gan gynnwys y camau nesaf yn dilyn y tirlithriad yng Nghwmtyleri ym mis Tachwedd.

5.2 Gosodwyd y Bil yn y Senedd ar 9 Rhagfyr a chafodd dderbyniad da gydag adroddiadau cadarnhaol yn y cyfryngau.

5.3 Roedd yr wythnosau cyn cyflwyno'r Bil yn heriol oherwydd stormydd Bert a Darragh, gyda'r cyntaf yn arwain at dirlithriad mewn tomen lo segur Categori D sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol yng Nghwmtyleri. Dangosodd hyn yr angen am y Bil, gan ein hatgoffa o'r perygl posibl y mae'r tomenni hyn yn ei achosi i gymunedau.

5.4 Roedd £154,000 wedi ei ymrwymo i gefnogi cymunedau yng Nghwmtyleri, a byddai'r cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo yn parhau i fod ar gael i sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y domen honno a'r holl domenni glo nas defnyddir yng Nghymru. Roedd archwiliadau o domenni Categori D wedi dechrau, heb fod unrhyw broblemau mawr wedi eu nodi hyd yn hyn. Byddai archwiliadau ychwanegol yn cael eu cynnal yn dilyn stormydd neu dywydd garw lleol.

5.5 Roedd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn cysylltu'r Bil â pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer glo, pwerau ychwanegol ar fwyngloddio brig, ac echdynnu a gwerthu glo o domenni glo nas defnyddir, o ran nodau hinsawdd cyffredinol.

5.6 Croesawyd y £25m oddi wrth Lywodraeth y DU yn 2025-26 sydd eisoes wedi ei sicrhau ar gyfer tomenni glo.

5.7 Roedd y pecyn cyllido cyffredinol sydd ar gael bellach yn £102m, a oedd yn cynnwys £65m yn cael ei ddyrannu ers 2020, ynghyd â £37m arall o fewn Cyllideb Ddrafft 2025-2026.

5.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2025