Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Lesley Griffiths AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyflawni’r GIG
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Andrew Granville, Swyddfa’r Cabinet

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Tachwedd.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod y datganiad ar Cymru Iachach, a oedd wedi ei amserlennu ar gyfer dydd Mawrth, wedi cael ei ddisodli gan Ddatganiad ar COVID-19 er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch yr amrywiolyn newydd, Omicron. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7pm ddydd Mawrth a thua 6:35 ddydd Mercher.

Eitem 3: Llunio Dyfodol Cymru: Pennu Cerrig Milltir Cenedlaethol a Dangosyddion Cenedlaethol

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno y dylid gosod y gyfres gyntaf o gerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol diwygiedig yn y Senedd ar 14 Rhagfyr.

3.2 Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol i Gymru, er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Roedd y rhain yn dargedau tymor hir ar gyfer Cymru; a byddent â goblygiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

3.3 Roedd nifer o gerrig milltir y gyfres gyntaf yn adlewyrchu ymrwymiadau polisi cyhoeddus tymor hir neu dargedau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys miliwn o siaradwyr Cymraeg, Allyriadau Carbon Sero Net, defnyddio rhan deg o adnoddau’r byd, a chyflog cyfartal. Roedd eraill yn adeiladu ar gamau gweithredu a oedd wedi eu cynllunio eisoes megis gwella lefelau cyflogaeth a chymwysterau, a lleihau nifer y bobl nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

3.4 Roedd gwerthoedd y cerrig milltir drafft wedi cael eu datblygu ar ôl cynnal amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol, cyrff cyhoeddus a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio ym mis Medi, ac roedd yn ceisio sylwadau ar werthoedd cyfres gyntaf y cerrig milltir, a’r diwygiadau cyfyngedig i’r dangosyddion cenedlaethol, a oedd wedi cael eu cynnig. Caeodd yr ymgynghoriad ar 26 Hydref, a daeth 94 o ymatebion i law.

3.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur gan nodi y byddai Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol nesaf yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â gosod y cerrig milltir cenedlaethol a’r dangosyddion diwygiedig.

Eitem 4: Eitemau’r Prif Weinidog

Y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru

4.1 Nododd y Gweinidogion fod Plaid Cymru wedi cymeradwyo’r Cytundeb Cydweithio yn ei chynhadledd dros y penwythnos.

4.2 Roedd testun y cytundeb wedi cael ei ymgorffori yn y Rhaglen Lywodraethu Ddiwygiedig, a fyddai’n cael ei hanfon at aelodau’r Cabinet maes o law. Byddai’r Prif Weinidog yn gwneud datganiad i’r Siambr yr wythnos ganlynol ynghylch y newidiadau i’r Rhaglen Lywodraethu.

COVID-19: Amrywiolyn Omicron

4.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog swyddogion o’r Adran Iechyd i roi diweddariad i’r Cabinet ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf sy’n gysylltiedig â’r amrywiolyn newydd COVID-19, sef amrywiolyn Omicron.

4.4 Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol mai De Affrica oedd wedi adrodd gyntaf am achosion o Omicron i Sefydliad Iechyd y Byd yr wythnos flaenorol, a bellach roedd y sefyllfa’n datblygu'n gyflym ac mai hwn oedd yr amrywiolyn mwyaf cyffredin yn y wlad honno. Ers hynny, roedd yr amrywiolyn wedi cael ei ganfod ar gyfandir Ewrop, ac yn yr Alban a Lloegr, a byddai achosion yn siŵr o ymddangos yng Nghymru cyn bo hir.

4.5 Roedd y dystiolaeth o Dde Affrica yn awgrymu bod Omicron yn fwy trosglwyddadwy o’i gymharu â’r amrywiolyn Delta, a bod ganddo’r potensial i ail-heintio’r rheini a oedd wedi cael eu heintio o’r blaen. Nid oedd gwybodaeth ar hyn o bryd ynghylch a fyddai Omicron yn fwy niweidiol ai peidio.

4.6 Byddai’r ymateb iechyd cyhoeddus yn ceisio rheoli lledaeniad yr amrywiolyn newydd i mewn i’r wlad, ac wedyn arafu hynt ei ledaeniad yn y boblogaeth, drwy ddefnyddio’r system Profi Olrhain Diogelu, a gofyn i’r rheini sydd wedi cael eu heintio, a’u chysylltiadau agos, i hunanynysu. Yn gyffredinol, byddai’r boblogaeth yn cael ei hannog i barhau i gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb tra eu bod dan do. Roedd disgwyl y byddai’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell yn nes ymlaen y prynhawn hwnnw y dylid cyflymu’r rhaglen frechu ar draws y DU.

4.7 O ran amrywiolyn Delta, roedd y sefyllfa’n dal i wella, ac yn ôl yr adroddiadau, roedd gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau heintio ymysg pobl 60 oed ac yn hŷn.

4.8 Dywedodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd ar gyfer Iechyd wrth y Cabinet fod y gyfradd heintio yn Ne Affrica wedi cynyddu oddeutu deg gwaith, o 200-300 i oddeutu 2,000-3,000 o achosion y dydd, ac roedd canran yr achosion yn y boblogaeth wedi cynyddu o 1% i 30%. Roedd yr amcangyfrifon cychwynnol ynglŷn â lledaeniad yr amrywiolyn eisoes i’w gweld yn rhy isel, gan awgrymu bod Omicon â’r potensial i osgoi effeithiau llawn y brechlynnau. O ystyried lefel uchel yr imiwnedd naturiol sy’n bodoli yn Ne Affrica o ganlyniad i heintiadau blaenorol, dylai’r gallu i wrthsefyll y straen hwn fod yn well nag y mae wedi bod.

4.9 Roedd Cyfarwyddwr y Rhaglen Cyflawni ar gyfer y GIG wedi dweud bod nifer y rheini a oedd â COVID-19 yn yr ysbyty yn parhau i ostwng. Roedd nifer y derbyniadau dyddiol wedi gostwng o 45 i 30, ac ar hyn o bryd roedd 634 o bobl mewn gwelyau. Roedd y sefyllfa hefyd yn gwella o ran y rheini a oedd mewn gofal critigol, a bellach dim ond 47 o welyau oedd â chleifion â coronafeirws ynddynt. Fodd bynnag, roedd y cyfraddau ar gyfer gwelyau a oedd â chleifion ynddynt yn dal i fod yn uwch na’r uchafswm nifer yn y gorffennol.

4.10 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod cyfres o gyfarfodydd wedi cael ei chynnal dros y penwythnos i ystyried effaith yr amrywiolyn newydd. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth y DU  wedi parhau i wneud penderfyniadau heb ymgynghori â’r gwledydd datganoledig. Roedd y Prif Weinidog a Phrif Weinidog yr Alban wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn San Steffan i ofyn am gynnal cyfarfod brys o COBRA i drafod dull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer ymateb i Omicron. Roeddent hefyd wedi galw am gyfyngiadau teithio mwy llym, a chymorth gan y Trysorlys pe bai angen gweithredu mesurau cyfyngiadau llym yng Nghymru a’r Alban.

4.11 Adroddwyd bod cynlluniau wedi cael eu paratoi dros y penwythnos i gyflymu’r broses frechu gyda’r nod o gynyddu nifer y bobl sy’n cael dos atgyfnerthu o 128,000 i 300,000 yr wythnos. Byddai’n cynnwys pob oedolyn, a byddai’r bwlch rhwng yr ail ddos a’r dos atgyfnerthu yn cael ei leihau o chwe mis i dri mis. Hefyd, byddai dos atgyfnerthu’n cael ei gynnig dri mis ar ôl eu trydydd dos sylfaenol i’r rheini sydd â system imiwnedd gwan, ac roedd pob person ifanc yn y grŵp 12-15 oed yn gymwys i gael ail ddos.

4.12 Cytunodd y Gweinidogion y byddai’n bwysig parhau i annog pawb nad oeddent wedi cael eu brechu i fanteisio ar y cyfle, yn enwedig pobl mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

4.13 Nodwyd bod y DU wedi gweithredu’n gyflym dros y penwythnos i ychwanegu gwledydd yn neheudir Affrica y mae Omicron yn gysylltiedig â nhw at y rhestr goch ar gyfer teithio rhyngwladol, gan ofyn i bawb sy’n dychwelyd i’r DU o’r gwledydd hyn i aros mewn cwarantin mewn gwesty a reolir am gyfnod o ddeg diwrnod. 

4.14 Ystyriodd y Cabinet yr effaith ar y sector addysg, gan gytuno y dylid cryfhau’r gofyniad i ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd, colegau, a phrifysgolion am weddill tymor y gaeaf. Byddai’n ofynnol i’r holl staff a dysgwyr wisgo gorchuddion wyneb tra eu bod o dan do pan nad oedd yn bosib parhau i gadw pellter cymdeithasol.

4.15 Cytunodd y Gweinidogion y dylid gwneud mwy i orfodi’r rheoliadau, gan nodi’r achos a oedd wedi ei ddwyn yn erbyn Cinema and Co Ltd, a oedd wedi gwrthod cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru), sef achos a fyddai’n cael ei ystyried yn Llys Ynadon Abertawe y diwrnod canlynol.

4.16 Cytunwyd y byddai angen i’r Cabinet gyfarfod eto ddydd Iau i ystyried datblygiadau o ran yr amrywiolyn Omicron cyn yr adolygiad ffurfiol nesaf, a oedd wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos ganlynol.