Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Lesley Griffiths AS (2 Awst)
  • Dawn Bowden AS (2 Awst)
  • Hannah Blythyn AS (2 Awst)

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion 2 Awst)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion 29 Gorffennaf)
  • Helen Carey, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (2 Awst)
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd (29 Gorffennaf)
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol (2 Awst)
  • Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (29 Gorffennaf)
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gyflawni GIG (2 Awst)
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd (29 Gorffennaf)
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd  y Grŵp Cyngor Technegol
  • Liz Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Ailgychwyn wedi COVID-19 (2 Awst)
  • Chris Stevens, Ailgychwyn ac Adfer wedi COVID-19 (29 Gorffennaf)
  • Michelle Morgan, Ailgychwyn ac Adfer wedi COVID-19 (29 Gorffennaf)
  • Aimee North, y Gell Cyngor Technegol (29 Gorffennaf)
  • Laura Andrews, y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (29 Gorffennaf)
  • Chris Roberts, y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (29 Gorffennaf)
  • Brendan Collins, y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (29 Gorffennaf)
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol (29 Gorffennaf)
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethu'r GIG (29 Gorffennaf)
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth  
  • Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr
  • Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol (29 Gorffennaf)

29 Gorffennaf

Eitem 1: Adolygu Rheoliadau’r Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) - 5 Awst – trafodaeth gychwynnol

Adroddiad ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd

1.1 Gofynnodd y Prif Weinidog i swyddogion roi cyflwyniad byr ar y sefyllfa gyffredinol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ar ôl atgoffa’r Cabinet mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder a lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

1.2 Nodwyd bod lefelau trosglwyddo’r coronafeirws yn parhau i gynyddu mewn sawl ardal ledled Cymru, er eu bod bellach yn gostwng mewn rhai ardaloedd neu'n agos at sefydlog o ran y newid wythnosol.

1.3 Roedd yr achosion ledled Cymru wedi cynyddu'n gyflym ers dechrau mis Mehefin, yn dilyn gostyngiad parhaus o chwe mis, gyda chynnydd o 800% o sylfaen isel iawn. Roedd yn ymddangos bod yr achosion yn digwydd yn bennaf mewn pobl iau, yn enwedig y rhai 10-29 oed, a oedd yn awgrymu bod brechu'n darparu rhywfaint o amddiffyniad, ond roedd rhywfaint o dystiolaeth ei fod yn lledaenu i grwpiau hŷn.

1.4 Adroddwyd bod data yn ystod y dyddiau blaenorol yn awgrymu bod y cyfraddau ar lefel wastad, ac yn dechrau gostwng o bosibl. Fodd bynnag, roedd yn rhy gynnar i awgrymu bod y gostyngiad yn ymateb byrhoedlog i ddiwedd tymor yr ysgol, neu a oedd gwelliant mwy ystyrlon yn dod yn amlwg.

1.5 Nododd y Cabinet fod disgwyl o hyd am amcangyfrifon o haint o Arolwg Heintiadau Covid y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ynghyd â rhagor o wybodaeth ynghylch a oedd y gostyngiad yn adlewyrchu gostyngiad tebyg yn lefelau’r oedolion iau sy’n ceisio profion. Roedd llai o brofion wedi'u cynnal dros yr wythnos ddiwethaf ac roedd cyfraddau positifedd achosion yn uchel.

1.6 Roedd pwysau COVID-19 ar y GIG yn parhau'n llawer is na'r lefelau a welwyd mewn tonnau blaenorol, er pe bai’r achosion yn parhau i godi mewn grwpiau oedran hŷn, byddai derbyniadau i’r ysbyty yn debygol o ddilyn hynny. 

1.7 Roedd nifer y derbyniadau dyddiol i'r ysbyty gyda oherwydd bod COVID-19 yn cael ei amau neu ei fod wedi’i gadarnhau yn parhau'n agos i'r lefelau isaf a welwyd, ond bu cynnydd bach yn nifer y gwelyau a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion cysylltiedig â COVID-19 yn ystod yr wythnosau diwethaf, o 10 bob dydd i tua 20. Roedd hyn yn dal i fod ar ben isaf y niferoedd a welwyd yn ystod yr ymateb i’r pandemig, ac yn unol â’r senarios mwyaf gobeithiol. 

1.8 Gwelwyd cynnydd bach hefyd yn nifer y cleifion mewn gwelyau gofal critigol, gyda 19 o gleifion mewn gofal critigol ar 18:00 ar 28 Gorffennaf. Roedd hyn saith yn is nag ar ddydd Mawrth 27 Gorffennaf a saith yn llai nag ar y dydd Mercher blaenorol. Roedd hyn yn cyfateb i ffigur a oedd 88% yn is na'r uchafbwynt a brofwyd yn y gaeaf.

1.9 Roedd y niferoedd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaeth sy’n ceisio prosesu cleifion y mae eu triniaeth wedi’i oedi gan y pandemig. Yn gyffredinol, fodd bynnag, roedd y cleifion a oedd yn cael eu gweld oherwydd COVID-19 yn llai sâl nag yn ystod y tonnau blaenorol. Yn anecdotaidd, nid oedd y rhan fwyaf o gleifion newydd wedi'u brechu'n llawn.

1.10 Ar hyn o bryd, roedd yr achosion yn unol â’r senario mwyaf tebygol – ac felly hefyd y derbyniadau i'r ysbyty - ond roedd derbyniadau a defnydd gwelyau gofal critigol a yn nes at y sefyllfa waethaf y gellid yn rhesymol ei thybio, er bod y rhain yn dal yn llawer is na thonnau blaenorol mewn termau absoliwt. Gallai'r anghysondeb hwn adlewyrchu trothwyon wedi'u haddasu ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol am angen gofal critigol.

1.11 Roedd y data ar farwolaethau yn parhau i fod yn isel iawn ac roedd nifer y marwolaethau ychydig yn is na'r senario mwyaf tebygol. Fodd bynnag, roedd y senario mwyaf tebygol yn rhagweld lefel barhaus o achosion rhwng yr haf a diwedd yr hydref, ond fel gyda phob gwaith modelu ar gyfer y feirws, roedd ansicrwydd ynghylch hyn a byddai'r Llywodraeth yn ystyried y data diweddaraf wrth wneud penderfyniadau ar gymesuredd unrhyw gyfyngiadau.

1.12 O ran y rhaglen frechu, ar 22 Gorffennaf, roedd 90.1% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf, ac roedd 78.8% wedi cael eu hail ddos. Roedd hyn yn cyfateb i fwy na 2 filiwn o bobl.

1.13 Rhagwelid y byddai 80% o oedolion wedi cael eu hail ddos erbyn 29 Gorffennaf. Roedd y rhaglen frechu yn gweithio gyda'r bwriad o gynnig ail ddos i bob oedolyn erbyn diwedd mis Medi. Roedd ymdrechion sylweddol ar y gweill i sicrhau nad oedd neb yn cael ei anghofio, a gofynnodd y Cabinet am nodyn ar raglen atgyfnerthu'r hydref, yr oedd gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar ei chyfer.

1.14 Amcangyfrifid y gallai 85% o oedolion gael eu brechu'n llawn erbyn yr wythnos yn dechrau ar 9 Awst, cyhyd ag y bo pobl yn dod i gael eu brechu.

Hunanynysu

1.15 Cyflwynodd y Prif Weinidog yr eitem nesaf i'w thrafod, sef ystyried a ddylid dileu'r gofyniad i hunanynysu ar gyfer pobl a oedd wedi cael eu brechu'n llawn ers mwy na 14 diwrnod.

1.16 Roedd y Cabinet wedi trafod y mater hwn o’r blaen ac wedi rhoi arwydd y byddai’n cael ei roi ar waith ar 7 Awst.

1.17 Ystyriodd y Cabinet a oedd rhinwedd mewn cyflwyno'r newidiadau arfaethedig yng Nghymru yn gynt, yn seiliedig ar wybodaeth gan wahanol sectorau am eu lefelau staffio presennol a’r materion ymarferol o ran gweithredu hyn.

1.18 Byddai angen cymryd nifer o gamau o safbwynt gweithredol a chyfreithiol i sicrhau bod y newid hwn yn barod ar gyfer 7 Awst neu'n gynt.

1.19 Roedd yn bosibl y gellid integreiddio 500 o staff Profi Olrhain Diogelu yn llawn â'r system gwirio brechlynnau erbyn yr wythnos nesaf, gyda gweddill y tua 1,200 o staff yn dilyn wedyn i sicrhau bod y system yn parhau’n sefydlog.

1.20 Gofynnodd y Cabinet am ragor o wybodaeth ar gyfer y cyfarfod nesaf am sut y byddai'r cynnig Diogelu mwy hael yn gweithio i'r grwpiau anos eu cyrraedd hynny a oedd yn aml yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan unrhyw ofyniad i ynysu, a nododd y gallai fod angen ôl-dyddio'r cynnig, a oedd yn ddull a ddefnyddiwyd o’r blaen.

1.21 Trafododd y Cabinet fater amseru a nodwyd y pwysau sylweddol yr oedd gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, gan gynnwys heddluoedd, awdurdodau lleol, iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch, gweithgynhyrchu a manwerthu, ynghyd â phrinder gyrwyr HGV.

1.22 Nodwyd bod absenoldebau staff yn y sectorau hyn am nifer o resymau, gan gynnwys hunanynysu, absenoldeb salwch arall, gwyliau haf, materion recriwtio, Brexit a ffyrlo, ond y byddai cael gwared ar hunanynysu fel un o'r elfennau yn lleddfu'r baich ar y sectorau hyn.

1.23 Ar ôl ystyried cydbwysedd y niwed yn llawn, cytunodd y Cabinet i ddileu'r gofyniad i hunanynysu ar gyfer pobl y nodwyd eu bod yn gysylltiadau agos, os oeddent wedi’u brechu’n llawn am o leiaf 14 diwrnod. Cytunodd y Cabinet y byddai'r newid yn cael ei gyhoeddi cyn y penwythnos.

1.24 Byddai'r Cabinet yn dychwelyd at Gynllun Rheoli'r Coronafeirws ac yn ystyried a ddylid symud i Lefel Rhybudd 0 yn y cyfarfod nesaf.

Fe wnaeth y Cabinet ailymgynnull ar 2 Awst i ystyried y symud i Lefel Rhybudd 0 a materion eraill

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12, 14 a 15 Gorffennaf

Eitem 2: Adolygiad tair wythnos o Reoliadau COVID-19

2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn am arweiniad ar y cylch adolygu presennol gan gynnwys cynigion i symud i Lefel Rhybudd 0.

2.2 Atgoffwyd y Gweinidogion unwaith eto mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder a lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

2.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i roi’r cyngor diweddaraf mewn perthynas â throsglwyddo'r feirws a'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd.

2.4 Yn gyffredinol, roedd y gyfradd hentio yn sefydlog, a’r cyfartaledd saith diwrnod tua 144 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth, ac roedd yr awdurdodau lleol yn dweud bod y sefyllfa'n gwella. Roedd yn debygol bod gwyliau'r ysgol wedi golygu cyfnod o atal naturiol, a byddai data arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a oedd i fod i gael ei gyhoeddi yr wythnos ganlynol, yn rhoi mwy o wybodaeth. Roedd yr adroddiadau yn Lloegr a’r Alban hefyd yn dangos bod y sefyllfa’n gwella.

2.5 Fodd bynnag, roedd peth pryder oherwydd y gostyngiad o 25% yn nifer y bobl sy'n cael eu profi am y feirws, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

2.6 O ran y rhaglen frechu, roedd dros 90% o oedolion wedi cael eu dos cyntaf, ac 80% bellach wedi'u brechu'n llawn. Roedd tystiolaeth bod hyn yn cael effaith ar gyfraddau trosglwyddo gan fod y gyfradd heintio gyfartalog saith diwrnod mewn pobl dros 60 oed tua 50 ym mhob 100,000.

2.7 Nododd Cyfarwyddwr Rhaglen Gyflawni'r GIG mai’r sefyllfa ar 30 Gorffennaf oedd bod 171 o bobl â symptomau cysylltiedig â COVID-19 mewn gwelyau ysbyty ar hyn o bryd. Achosion lle’r oedd amheuaeth o COVD-19 oedd 14 o'r rhain ac roedd 138 ohonynt yn achosion wedi’u cadarnhau. Yn gyffredinol, roedd cyfradd y cynnydd mewn derbyniadau wedi arafu ac roedd yr amser yr oedd cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty oherwydd y feirws wedi lleihau'n sylweddol, a hynny oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu.

2.8 Nododd y Cabinet bod croeso da wedi bod i’r penderfyniad y byddai’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer pobl a oedd wedi’u brechu’n llawn yn dod i ben yn gynt, sef ar 7 Awst.

2.9 O ran yr argymhellion yn y papur, cytunodd y Cabinet y dylid dileu'r terfyn cyfreithiol ar nifer y bobl a gâi gyfarfod mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus neu ddigwyddiadau. At hynny, dylid diwygio'r gofyniad am fesurau rhesymol, felly gallai pob sefydliad benderfynu ar sail canlyniad eu hasesiad risg penodol. Cytunodd y Gweinidogion hefyd y gallai lleoliadau adloniant i oedolion ailagor o 7 Awst.

2.10 Cadarnhaodd y Cabinet y dylid diwygio'r rheoliadau hefyd i ddileu'r gofynion penodol i gasglu gwybodaeth am gysylltiadau, ac y dylai ddod yn un o’r nifer o fesurau rhesymol y dylai busnesau eu hystyried wrth baratoi asesiadau risg.

2.11 Cytunodd y Gweinidogion y dylid dileu'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau lletygarwch o 7 Awst.

2.12 Nodwyd y dull o ddatblygu canllawiau ar gyfer Lefel Rhybudd 0.

2.13 Adroddwyd bod y (prif) Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 i fod i ddod i ben ar 27 Awst a chytunodd y Cabinet y dylid eu hestyn am bedwar mis, gan ddod i ben ar ddyddiad newydd sef 31 Rhagfyr 2021.

2.14 Ar bwynt cyffredinol, roedd y Cabinet yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i roi cymelliannau wrth gyflwyno’r rhaglen frechu i bobl ifanc yn Lloegr, gan fod pryder y gallai hyn arwain at bobl yn gohirio eu brechiad nes bod gwobrau o'r fath ar gael. Dylai'r rhaglen frechu yng Nghymru ganolbwyntio bob amser ar gyfrifoldeb cymdeithasol a chymryd rhagofalon i ddiogelu'r gymdeithas ehangach.

2.15 Cafodd y Cabinet drafodaeth eang ynghylch ailagor clybiau nos, gan fod pryder bod posibilrwydd y byddai lleoliadau o’r fath yn dod yn ‘archledaenwyr’ ar gyfer y feirws, o ystyried nodweddion clybiau nos – er enghraifft nifer y bobl mewn man cyfyngedig a swnllyd.

2.16 Fodd bynnag, o gydbwyso hynny â’r ffaith fod clybiau nos eisoes ar agor yn Lloegr, y risg bosibl y byddai pobl yn hytrach yn cynnal partïon tŷ heb eu rheoleiddio, a'r angen i fod yn gyson â llacio'r rheolau ar gyfer safleoedd eraill, daeth y Cabinet i'r casgliad y byddai lleoliadau o'r fath yn cael ailagor o 7 Awst, yn unol â'r hyn a nodwyd eisoes. Er hynny, byddai angen ei gwneud yn glir - pe bai ailagor clybiau nos yn arwain at dwf esbonyddol yn y feirws - gall Gweinidogion yn gwrthdroi'r penderfyniad hwn.

2.17 Cadarnhaodd y Cabinet y symudiad i Lefel Rhybudd 0 ar 7 Awst.