Cyfarfod y Cabinet: 29 Ebrill 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 29 Ebrill 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Jane Bryant AS
Swyddogion
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Diane Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Ebrill.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Digwyddiad Ysgol Dyffryn Aman
2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman y dydd Mercher cynt, lle'r oedd person ifanc wedi defnyddio cyllell i ymosod ar gyd-ddisgybl a dwy athrawes. Roedd y Prif Weinidog wedi siarad â'r Heddlu a'r Awdurdod Lleol i ddiolch iddynt am ddelio â'r sefyllfa mewn modd mor gyflym ac effeithiol.
2.2 Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn cysylltiad rheolaidd â'r gwasanaethau brys a'r Awdurdod Addysg Lleol, ac roedd wedi cynnig cefnogaeth i'r ysgol. Cyhuddwyd y person ifanc a oedd wrth wraidd y digwyddiad o dri achos o geisio llofruddio. Roedd y tri a gafodd eu hanafu wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty y diwrnod canlynol. Roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn bwriadu ymweld â’r ysgol maes o law i ddiolch i staff ac eraill am y ffordd yr oeddent wedi delio â’r sefyllfa.
2.3 Ddydd Gwener yr wythnos honno, roedd cyfnod clo rhagofalus hefyd wedi digwydd ar y campws uwchradd yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr yng Nglyn Ebwy, a bygythiadau bom ffug ddydd Mercher mewn dwy ysgol yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili.
2.4 Nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod gan bob lleoliad addysg gynlluniau a gweithdrefnau argyfwng ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau prin, a bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod y cynlluniau argyfwng yn gyfredol. Byddai’n gweithio gydag Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, a phartneriaid eraill i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau diweddar.
Cyhoeddiad gan Tata Steel
2.5 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at gyhoeddiad siomedig Tata Steel ddydd Iau ei fod wedi gwrthod adroddiad nifer o Undebau Llafur, a gomisiynwyd gan Bwyllgor Dur y DU, a oedd yn awgrymu y dylid cadw un ffwrnais chwyth yn weithredol ym Mhort Talbot tra'r oedd y safle’n newid i ddull gwyrddach o gynhyrchu dur.
2.6 Roedd y Prif Weinidog wedi cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yr wythnos flaenorol, er mwyn trafod y sefyllfa yn Tata ym Mhort Talbot a materion cyfansoddiadol.
2.7 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg wrth y Cabinet fod y cyhoeddiad wedi digwydd tra'r oedd y Bwrdd Pontio yn cyfarfod. Byddai'r ffwrnais chwyth gyntaf yn cael ei chau a'i datgymalu ym mis Mehefin, ac roedd bwriad i gau'r ail un erbyn diwedd mis Medi. Roedd 2,800 o swyddi uniongyrchol mewn perygl ar draws pob safle. Nid yw graddfa lawn y colledion swyddi, gan gynnwys y rhai yn yr economi ehangach yn gwbl hysbys, ond gallai fod hyd at 9,500. Hefyd byddai colli swyddi yn gallu effeithio’n uniongyrchol ar y cymunedau perthnasol.
2.8 O ran y camau nesaf, byddai Tata nawr yn dechrau trafodaethau gyda'r nod o agor cynllun diswyddo gwirfoddol ar 15 Mai. O ran gweithredu diwydiannol, roedd Unite wedi pleidleisio i streicio ac roedd y pleidleisio gan aelodau Cymuned a GMB i fod i gau ar 9 Mai.
2.9 Byddai angen gofyn am eglurder o ran sut y byddai'r gronfa £100m yn cael ei defnyddio i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i'r bobl a'r busnesau yr oedd hyn yn effeithio arnynt. Serch hynny, roedd Llywodraeth Cymru yn rhoi trefniadau ar waith i ganiatáu i bobl gael mynediad at yr holl gymorth a oedd ar gael.
2.10 Nodwyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad i'r Siambr y diwrnod canlynol.
Ymgysylltiadau'r Prif Weinidog
2.11 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid o bob rhan o'r Gogledd yn Wrecsam ddydd Gwener. Roeddent yn cynnwys arweinwyr Awdurdodau Lleol, Prif Weithredwyr, cynrychiolwyr o faes Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a'r gwasanaethau brys. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol hefyd yn bresennol.
2.12 Ddydd Sadwrn, roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi mynychu brecwast busnes yn academi hyfforddi JCB, gyda chynrychiolwyr o Academi Arweinyddiaeth Wrecsam. Dilynwyd hyn gan ddigwyddiad Trafnidiaeth Cymru yng Ngorsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam i enwi dau drên ar ôl Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
2.13 Wedyn mynychodd seremoni gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025, ac yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw roedd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod â rhai o berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam.
2.14 Ddydd Sul, roedd y Prif Weinidog wedi mynychu Holi, Gŵyl Hindŵaidd cariad a hapusrwydd, a hefyd seithfed noson pryd y Pasg yn Synagog Unedig Caerdydd.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Nododd y Cabinet y byddai pleidleisio ddydd Mawrth yn digwydd drwy gydol y ddadl ar Gyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Byddai'r amser pleidleisio tua 6:25pm ddydd Mercher.
3.2 Nodwyd y byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar i nodi pen-blwydd y Senedd yn 25 oed yr wythnos ganlynol.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ebrill 2024