Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu yn Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio
  • Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Claire Fife, Cynghorydd Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 21 Mehefin.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wrth y Cabinet y byddai'r Cyfarfod Llawn yn dechrau ddydd Mawrth gydag enwebiad Cadeiryddion Pwyllgorau. Byddai hyn yn caniatáu cynnal pleidleisiau cyfrinachol yn ystod trafodion y dydd, os bydd angen. Cafodd canllawiau ar y broses bleidleisio eu dosbarthu i holl Aelodau'r Senedd a byddai’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod pleidleisio. Y gobaith oedd y gallai aelodaeth rhai o'r Pwyllgorau gael ei chadarnhau ddydd Mercher.

2.2 Roedd disgwyl i'r cyfnod pleidleisio fod tua 6:50pm ddydd Mawrth a thua 5:45pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Fforddiadwyedd, ail gartrefi a'r Gymraeg: dulliau gweithredu yn ein cadarnleoedd gwledig ac arfordirol - CAB(21-22)13

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar ddull gweithredu eang a gweithgarwch traws-Lywodraethol fel rhan o’r gwaith o fynd i'r afael â fforddiadwyedd cartrefi i bobl leol mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol a chefnogi’r Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg sy'n esblygu.

3.2 Roedd gan bobl o fewn cymunedau arfordirol a gwledig a'r cadarnleoedd Cymraeg eu hiaith bryder sylweddol am effaith y niferoedd cynyddol o ail gartrefi. Roedd hyn yn gyrru pobl leol allan o'r farchnad dai, yn enwedig pobl ifanc nad oeddent yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau cartref, ac yn cael effaith sylweddol ar gynaliadwyedd trefi a phentrefi o'r fath. Roedd cartrefi gwag hefyd yn broblem, a oedd yn uwch o ran nifer ond â dosbarthiad daearyddol mwy cyson o gymharu ag ail gartrefi.

3.3 Cymhlethwyd hyn ymhellach gan y twf ym mhrisiau eiddo ers y pandemig, wedi'i ysgogi gan bobl yn chwilio am fwy o le byw ac sy'n dymuno symud i ardaloedd llai poblog. Yn ogystal â hynny, roedd cwmnïau buddsoddi yn manteisio ar y ffyniant ym mhrisiau eiddo. Roedd argaeledd tai fforddiadwy hefyd yn cael ei gymhlethu gan yr angen i gartrefu pawb a oedd wedi cael cynnig llety dros dro yn ystod y pandemig. Cydnabuwyd bod y cynllun ar gyfer 20,000 o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol yn amcan polisi tymor hir.

3.4 Roedd hyn yn dangos pam roedd angen gweithredu ar frys. Roedd y papur yn nodi rhai o'r heriau a'r cymhlethdodau allweddol yn ymwneud â thai fforddiadwy ac yn archwilio gallu’r Llywodraeth gyfan i wrthsefyll yr heriau hyn, gan fod yn ymwybodol o’r angen i osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Yn y lle cyntaf, dylid llunio camau gweithredu yng nghyd-destun Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg.

3.5 Nododd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fod y papur wedi nodi maint yr her ynghyd ag atebion posibl, y byddai'n bwysig ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid Llywodraeth Leol yn eu cylch i’w profi'n effeithiol.

3.6 Cynigiwyd pecyn o fesurau, a fyddai'n ceisio mynd i'r afael â mater creiddiol fforddiadwyedd drwy ymyriadau a dylanwad ar draws y Llywodraeth ac o fewn Awdurdodau Lleol. Byddai rhaglenni tai presennol yn cael eu targedu a'u teilwra ar draws deiliadaethau, tra'n datblygu ac yn treialu dulliau gweithredu newydd. Byddai hefyd angen newid fframweithiau rheoleiddio i wella'r ffordd y rheolir ail gartrefi ychwanegol ac eiddo gwyliau a osodir dros dro, tra'n newid systemau trethu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau hynny.

3.7 Byddai'n bwysig treialu'r ymyriadau hynny.

3.8 Croesawodd y Cabinet y papur a chytunwyd bod angen i’r Llywodraeth weithredu’n gyflym, o ystyried graddfa’r her.

3.9 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.

Item 4: Codes of Welsh laEitem 4: Codau cyfraith Cymru: rhaglen ar gyfer sicrhau bod dogfennau cyfreithiol Cymru ar gael yn fwy hwylus a’u bod yn gliriachw: programme for improving the accessibility of Welsh law

4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r rhaglen ddrafft i sicrhau bod dogfennau cyfreithiol Cymru ar gael yn fwy hwylus a’u bod yn gliriach, a oedd yn ofynnol o dan Ran 1 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

4.2 Roedd maint y gwaith yn sylweddol ac roedd amcangyfrifon cynnar yn dynodi y byddai angen o leiaf 50 o Filiau cydgrynhoi i gyflawni hyn mewn perthynas â’r cyfreithiau perthnasol yng Nghymru ar hyn o bryd. O ystyried hyn, roedd y Llywodraeth flaenorol wedi ymrwymo, wrth i’r ddeddfwriaeth fynd drwodd, i’r angen am rhwng pedwar a phum Bil cydgrynhoi yn ystod y Senedd bresennol.

4.3 Roedd y rhaglen a amlinellir yn y papur yn cynnig, i ddechrau, ddau Fil o'r fath: cydgrynhoi deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol; a symleiddio a moderneiddio cyfraith cynllunio. Yn ogystal, cynigiwyd Bil bach i ddileu darpariaethau darfodedig ac sydd wedi’u disbyddu o'r llyfr statud.

4.4 Yn ogystal, byddai gwaith yn parhau gyda Chomisiwn y Gyfraith i nodi un neu fwy o brosiectau sy'n ymwneud â chyfraith Cymru i'w gynnwys yn ei 14eg Rhaglen i Ddiwygio'r Gyfraith, a oedd i fod i ddechrau yn 2022.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Unrhyw fater arall

Cymorth Brys i Fusnesau

5.1 Nododd y Cabinet y byddai Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos honno fod y cymorth brys yn parhau i fusnesau a oedd yn dal i fod ar gau neu a oedd yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan gyfyngiadau COVID-19, ac y byddai'r cymorth yn rhedeg tan ddiwedd mis Awst.