Cyfarfod y Cabinet: 28 Chwefror 2022
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 28 Chwefror 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Hannah Blythyn AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Ymddiheuriadau
- Vaughan Gething AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
- Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol - Iechyd
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
- Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ailgychwyn wedi COVID-19: Adolygiadau 21 Diwrnod
- Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
- Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
- Jonathan Oates, Pennaeth Twf Glân
- Megan Heap, Pennaeth y Cynllun Masnachu Allyriadau a’r Polisi Prisio Carbon
- Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
- Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Plant a Theuluoedd
- Nicola Edwards, yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 14 Chwefror.
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Nododd y Cabinet bod Grid y Cyfarfod Llawn wedi newid ers iddo gael ei gylchredeg gyda’r papurau. Roedd y Llywydd wedi derbyn Cwestiwn Brys ar effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru. Roedd y cwestiwn wedi’i drefnu ar gyfer dechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, cyn cwestiynau’r Prif Weinidog. Roedd yr amseroedd pleidleisio wedi’u hamserlennu ar gyfer 7.20pm ddydd Mawrth a thua 5.55pm ddydd Mercher.
2.2 Adroddwyd nad oedd unrhyw gyfyngiadau bellach ar nifer yr Aelodau a ganiateir yn y Siambr ar yr un pryd a bod y Llywydd wedi cyflwyno cynllun eistedd sefydlog, yn unol â’r trefniadau cyn y pandemig.
2.3 Gall pob grŵp weithredu ei bolisi ei hun ar fynychu’r Siambr.
Eitem 3: Adolygiad 21 Diwrnod o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (rhif 5) – 3 Mawrth
3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn crynhoi’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd, a oedd yn gwella, ac yn nodi’r ystyriaethau ar gyfer yr adolygiad tair wythnos o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (rhif 5), oedd i’w gynnal erbyn 3 Mawrth 2022.
3.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau’n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.
3.3 Roedd y papur yn amlinellu’r cyd-destun o ran iechyd y cyhoedd, a oedd yn cadarnhau bod y pwysau ar ysbytai ac unedau gofal dwys yn parhau’n is nag yn ystod tonnau blaenorol. Roedd y data diweddaraf yn dangos bod 880 o gleifion COVID-19 mewn gwelyau mewn ysbytai, gyda 434 ohonynt yn achosion a gadarnhawyd. Roedd y data gweithredol cyfredol yn dangos mai dim ond 24% o’r bobl hyn oedd angen triniaeth ar gyfer y feirws. Roedd 9 claf ag achos posibl, neu achos a gadarnhawyd o COVID-19 mewn gwelyau gofal critigol.
3.4 Roedd cyngor y Prif Swyddog Meddygol, wedi’i gynnwys yn y papur, yn amlinellu ei bod hi’n briodol parhau â’r dull gofalus o lacio’r amddiffyniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd angen bod yn ymwybodol o'r wybodaeth gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a NERVTAG, a oedd yn awgrymu bod amrywiolion yn y dyfodol yn debygol iawn ac y gallent arwain at lefelau mwy sylweddol o niwed uniongyrchol nag a welwyd gyda'r amrywiolyn Omicron.
3.5 O ystyried argymhellion y Prif Swyddog Meddygol, cadarnhaodd y Cabinet y bwriad i ddileu’r gofyniad ar gyfer gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do o 28 Mawrth, os yw’r amodau’n parhau’n ffafriol. Tan hynny, byddent yn ofynnol o hyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ym mhob safle manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
3.6 Nododd y Gweinidogion y sefyllfa bresennol o ran datblygu canllawiau iechyd cyhoeddus anstatudol cynghorol ar gyfer cyflogwyr, a fyddai’n cefnogi’r broses bontio o’r asesiadau risg coronafeirws statudol sydd â ffocws penodol a’r mesurau rhesymol. Cytunwyd, yn y cyfamser, fod y gofynion cyfreithiol cyfredol yn parhau i fod yn angenrheidiol ac yn gymesur.
3.7 Adroddwyd bod swyddogion yn ystyried y ddyletswydd gyfreithiol ar bobl sydd wedi profi’n bositif a chysylltiadau heb eu brechu yng Nghymru i hunanynysu, yn arbennig o ystyried cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ynghylch risgiau trosglwyddo o ganlyniad i ddiddymu cyfyngiadau. Cytunodd y Cabinet ei bod yn gymesur i’r anghenion cyfreithiol cyfredol i hunanynysu aros yn eu lle tra bod y gwaith yma yn mynd rhagddo.
3.8 Nododd y Cabinet bod gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r Cynllun Pontio, a fyddai’n cyfleu’r newid o’r cyfnod cychwynnol o argyfwng wrth ddelio â COVID-19 i ddyfodol o ymateb i’r coronafeirws ochr yn ochr â llawer o glefydau heintus eraill. Byddai fersiwn derfynol y cynllun yn cael ei chyflwyno i’r Gweinidogion yn yr alwad am 9am ddydd Iau.
3.9 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fynd ati yn unol â’r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion a chyfarwyddo cyfreithwyr yn unol â hynny.
Eitem 4: Ehangu cymorth gofal plant CAB(21-22)84
4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Gwsanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno mewn egwyddor ar y camau nesaf o ran cyflawni’r weledigaeth o ddarpariaeth addysg a gofal cynhwysol yn y blynyddoedd cynnar.
4.2 Roedd yn bwysig sicrhau, o ran datblygiad y plentyn unigol, ei fod yn dechrau'r ysgol mor barod â phosibl i ddysgu, datblygu a ffynnu, ac yn bwysig helpu rhieni i gael gwaith a hyfforddiant i leddfu rhai o'r pwysau ariannol yr oedd teuluoedd yn eu hwynebu ac a oedd wedi’u gwaethygu gan yr argyfwng costau byw.
4.3 Er mwyn cyflawni yn erbyn ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, byddai lefel y buddsoddiad yn Dechrau'n Deg yn cynyddu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol mewn cymunedau'n cael eu cynnal. Byddai'r Cynnig Gofal Plant i blant 3-4 oed yn cael ei ehangu i gynnwys rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant o fis Medi eleni.
4.4 At hynny, byddai camau'n cael eu cymryd i ehangu Dechrau'n Deg yn raddol er mwyn iddo fod ar gael i bawb, gan ddechrau drwy ehangu ychydig ar y rhaglen ac yna agor yr elfen gofal plant i fwy o blant 2-3 oed mewn ffordd raddol, a oedd yn unol â'r Cytundeb Cydweithio.
4.5 Roedd y datblygiadau hyn yn bosibl oherwydd y dyraniadau diweddar yn y gyllideb, fodd bynnag, ni fyddai hyn yn ddigon i ddarparu ar gyfer pob plentyn ar unwaith. Felly, byddai angen ehangu rhaglenni'n raddol dros gyfnod y Senedd bresennol, gan wneud hynny’n unol â chyllidebau ac yn unol â chapasiti’r sector gofal plant, y sector chwarae a'r sector blynyddoedd cynnar ehangach. Er mwyn cefnogi mwy o blant a theuluoedd, byddai angen mwy o leoliadau, mwy o leoedd mewn lleoliadau presennol a mwy o staff i'w rhedeg.
4.6 Croesawodd y Cabinet y papur gan gydnabod y byddai ehangu gofal plant a ariennir yn helpu i fynd i'r afael â thlodi.
4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.