Cyfarfod y Cabinet: 27 Tachwedd 2023
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 27 Tachwedd 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
Ymddiheuriadau
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Rachel Garside Jones, Cyfarwyddwr Uned y Cytundeb Cydweithio
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
- Chris Jones, Tîm Diogelwch Tomenni Glo (eitem 5)
- Laura Fox, Rheolwr y Bil Diogelwch Tomenni Glo (eitem 5)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 20 Tachwedd.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi mynychu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Nulyn yr wythnos flaenorol. Cafodd gyfarfodydd ar gyrion y Cyngor gyda'r Taoiseach a Tánaiste a Phrif Weinidog yr Alban. Roedd hefyd wedi cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Nododd y Cabinet y bu un newid i Grid y Cyfarfodydd Llawn, a bod hwnnw wedi'i ddosbarthu gyda phapurau'r Cabinet. Roedd Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 wedi'u tynnu'n ôl, a byddent yn cael eu hailosod. Roedd hyn mewn ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:15pm ddydd Mawrth a thua 7.10pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Diweddariad Llafar ar Ddatganiad yr Hydref, Llywodraeth y DU
4.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddiweddariad i'r Cabinet ar Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, yr oedd Canghellor y Trysorlys wedi'i gyflwyno i'r Senedd y dydd Mercher blaenorol.
4.2 Roedd adroddiad rhagolwg economaidd a chyllidol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Tachwedd yn dweud bod y rhagolygon economaidd i'r DU yn rhai gwael, a bod disgwyl diffyg twf arwyddocaol am bron i ddwy flynedd. Roedd disgwyl i chwyddiant ostwng yn arafach, ac y byddai cynnydd mewn diweithdra. Roedd y DU yn parhau ar y ffordd i fod yn un o'r economïau uwch sy'n perfformio waethaf ar gyfer y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf, ac er gwaethaf y mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor, byddai'r DU yn parhau i ddioddef y dirywiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau yng nghanol y 1950au.
4.3 Ar y cyfan, roedd y sefyllfa i Gymru yn waeth na'r disgwyl. Roedd y Datganiad yn cynnwys £305m ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-2024 a 2024-2025. Roedd hyn yn cynnwys £133m ychwanegol mewn cyllideb adnoddau yn 2023-2024, a £167m ychwanegol mewn adnoddau a £5.8m mewn cyfalaf yn 2024-2025.
4.4 Roedd y cyllid o £133m yn ystod y flwyddyn, o ganlyniad i gynnig cyflogau'r GIG yn Lloegr yn bennaf, eisoes wedi'i gynnwys mewn cynlluniau, ac nid oedd yn darparu unrhyw gymorth ychwanegol wrth ymateb i her y gyllideb. Roedd y cyllid o £167m y flwyddyn nesaf yn ymwneud yn bennaf â rhyddhad Ardrethi Annomestig.
4.5 Roedd setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025 bellach yn werth hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant 2021.
4.6 Ni wnaeth Datganiad y Canghellor unrhyw beth i ymateb i chwyddiant a phwysau eraill, heb unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys y GIG. Byddai'r posibilrwydd na fyddai chwyddiant yn lleihau mor gyflym â'r disgwyl y flwyddyn nesaf yn golygu y byddai cyllidebau'r sector cyhoeddus yn llai na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Ar ben hynny, ni ddarparwyd cyllid ychwanegol i gefnogi'r cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol.
4.7 O ran 2024-2025, ni wnaeth y Canghellor roi sylw i linell sylfaen ar gyfer swm canlyniadol cysylltiedig â chyflogau'r GIG, ac nid oedd y Gyllideb yn darparu unrhyw ysgogiad cyfalaf fel yr oedd ei angen i gefnogi twf economaidd. Roedd y gyllideb gyfalaf yn parhau i leihau'n ddifrifol yn 2024-2025.
4.8 O ran y rhagolygon ar gyfer cymorth pellach, roedd disgwyl i'r Canghellor ddarparu ei Gyllideb y Gwanwyn ym mis Mawrth, ac roedd yn aneglur i ba raddau y byddai'n cael ei symud i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cyhoeddus.
4.9 Fel yr amlygwyd, roedd y Canghellor wedi cyhoeddi dau fesur yn ymwneud ag ardrethi annomestig ar gyfer 2024-2025, sef swm o £155.9m o'r £167m o gyllid canlyniadol.
4.10 Y cyntaf oedd rhewi'r lluosydd busnesau bach ar gyfer Lloegr, rhywbeth a oedd yn berthnasol i eiddo sydd â gwerth ardrethol sy'n llai na £51,000, a chynnydd i'r lluosydd safonol yn Lloegr yn unol â chyfradd Mynegai Prisiau Defnyddwyr mis Medi, sef 6.7%. Byddai'r penderfyniad hwn yn cynhyrchu swm canlyniadol cylchol o £18.8m. Yr ail fesur oedd ymestyn y rhyddhad dros dro o 75% ar gyfer trethdalwyr yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Byddai'r penderfyniad hwn yn cynhyrchu cyllid canlyniadol o £137.1m ar gyfer 2024-2025 yn unig.
4.11 Nid oedd y Llywodraeth yn gallu cyfateb yn union i'r mesur yn Lloegr, gan mai dim ond un lluosydd sydd yma yng Nghymru.
4.12 Roedd ystod o opsiynau wedi'u hystyried wrth geisio cydbwyso'r achos dros ryddhad parhaus, gyda'r angen i liniaru'r gostyngiadau sylweddol iawn sy'n wynebu'r rhan fwyaf o'r Prif Grwpiau Gwariant ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2024-2025.
4.13 Felly, cynigiwyd y dylid darparu rhyddhad ar gyfer y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn unol â'r cwmpas presennol o 40% trwy ddefnyddio £60m o'r swm canlyniadol, gan gynyddu'r lluosydd 5% gyda £18m o'r swm canlyniadol, ac y byddai cronfa grant cyfalaf gwerth £20m yn cael ei sefydlu i helpu busnesau i fuddsoddi mewn lleihau costau.
4.14 Byddai hyn yn gadael tua £89m o Ddatganiad yr Hydref, a fyddai ar gael i liniaru'r gostyngiadau yn y gyllideb ar gyfer y Prif Grwpiau Gwariant eraill.
4.15 Nododd y Gweinidogion y diweddariad am ganlyniadau Datganiad yr Hydref, a chytunwyd bod y cynigion i ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig yn 2024-25 a sefydlu Cronfa Grant Cyfalaf yn gydbwysedd teg.
4.16 Cytunodd y Cabinet â'r cynigion ar gyfer darparu rhyddhad ardrethi annomestig yn 2024-2025.
Eitem 5: Y diweddaraf am ddiogelwch tomenni glo
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn rhoi diweddariad ar hynt y rhaglen Diogelwch Tomenni Glo.
5.2 Ers y diweddariad blaenorol a roddwyd i'r Cabinet ym mis Mehefin, roedd amcan allweddol y rhaglen diogelwch tomenni glo wedi'i chyflawni, gyda chyhoeddi lleoliad 350 o domenni glo segur, a oedd wedi eu graddio fel risg uwch, ar 14 Tachwedd. Roedd hwn wedi bod yn waith sylweddol, a gefnogwyd gan becyn cyfathrebu helaeth ar gyfer tirfeddianwyr, meddianwyr a chymunedau sy'n byw’n agos i’r tomenni.
5.3 Fodd bynnag, roedd rhai tirfeddianwyr yn gwrthod mynediad i'r Awdurdod Glo ac Awdurdodau Lleol ar gyfer cynnal arolygiadau, ond byddai'r mater hwn yn cael sylw yn y Bil diogelwch tomenni a fyddai'n cael ei gyflwyno yn 2024.
5.4 Croesawodd y Cabinet y diweddariad, gan fynegi pryder bod Llywodraeth y DU wedi methu â darparu cyllid ar gyfer adfer tomenni segur yn y tymor hir yn Natganiad yr Hydref y Canghellor.
5.5 Nododd y Cabinet y diweddariad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2023