Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol (27 Mai)
  • Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (3 Mehefin)
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
  • Fliss Bennee, Cydgadeirydd TAC
  • Dylan Hughes, Cwnsler Deddfwriaethol Cyntaf (27 Mai)
  • Phil Elkin, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ailgychwyn
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (27 Mai)
  • Rob Holt, Dirprwy Gyfarwyddwr Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr (3 Mehefin)
  • Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr
  • Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol

Eitem 1: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) - 3 Mehefin 2021

1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn am arweiniad gan y Cabinet ar y llacio arfaethedig ar gyfer y cylch adolygu presennol, a drefnwyd ar gyfer 3 Mehefin.

1.2 Diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder a lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Roedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos.

1.3 Estynnodd y Prif Weinidog wahoddiad i’r Prif Swyddog Meddygol i ddarparu'r cyngor diweddaraf mewn perthynas â throsglwyddiad y feirws. Yn gyffredinol, roedd y sefyllfa yn parhau'n ffafriol o ran parhau i lacio’r cyfyngiadau. Roedd y cyfartaledd saith diwrnod yn llai na deg o bob 100,000 o'r boblogaeth ac roedd y gyfradd bositifedd ychydig yn is nag un y cant.

1.4 Roedd rhywfaint o bryder yn parhau ynghylch yr amrywiolyn a nodwyd gyntaf yn India, a elwid bellach yn amrywiolyn Delta (B.1.617.2), gyda 59 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru. Roedd y rhan fwyaf o'r clystyrau yn Ne Cymru, ond roedd rhai achosion diweddar yng Nghonwy yn cael eu monitro. Roedd y sefyllfa yn Lloegr yn llai ffafriol, gyda thros 4,500 o achosion wedi’u hadrodd erbyn hyn, gyda rhai clystyrau mawr iawn. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa yn Bolton yn gwella ac roedd yn ymddangos bod llawer o'r achosion ymhlith pobl nad oeddent wedi cael eu brechu neu a oedd ond wedi cael eu brechu'n rhannol.

1.5 Cydnabuwyd mai'r ddwy risg bwysicaf oedd ailddechrau teithio rhyngwladol nad yw'n hanfodol a diddymu ymyriadau nad ydynt yn rhai fferyllol yn gynnar, fel cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb. O ran y rhaglen frechu, roedd disgwyl i boblogaeth oedolion Cymru fod wedi cael cynnig y ddau ddos erbyn canol mis Gorffennaf.

1.6 Dywedodd Prif Weithredwr y GIG fod 179 o bobl ar hyn o bryd mewn gwelyau ysbyty gyda symptomau COVID-19 tybiedig, a dim ond wyth achos wedi'u cadarnhau. Roedd tri o'r rhain mewn gwelyau gofal critigol. Roedd y defnydd cyffredinol o welyau ysbyty 95% yn is na'r brig, gyda gostyngiad o 99% yn y rhai mewn gwelyau gofal critigol. Roedd y GIG yn canolbwyntio ar adfer gwasanaethau rheolaidd ac ymdrin â'r pwysau arferol sy'n dod i'r amlwg yn hytrach na'r rhai sy'n gysylltiedig â COVID-19.

1.7 Roedd y Cabinet wedi nodi o'r blaen, pe bai gwelliannau iechyd y cyhoedd yn parhau, y byddai'n bosibl ystyried symud i Lefel Rhybudd 1 o 7 Mehefin, pe bai amodau'n parhau'n ffafriol bryd hynny. Byddai hyn yn golygu newid y rheolau ar gyfarfod dan do mewn anheddau preifat, a diwygio’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol mewn cartrefi preifat ac yn yr awyr agored gan ddefnyddio'r terfyn uchaf o 30 o bobl ar gyfer cwrdd ym mhob lleoliad awyr agored, gan gynnwys gerddi.  

1.8 O ystyried y cyfraddau isel a'r sefyllfa sefydlog yng Nghymru, gellid dadlau bod mwy o amser i ymateb, pe bai tystiolaeth yn dod i'r amlwg fod unrhyw lacio cyfyngiadau’n achosi effeithiau negyddol yng Nghymru neu yn rhywle arall yn y DU. Roedd hefyd angen ystyried costau economaidd a chymdeithasol cynyddol cynnal y cyfyngiadau, yn enwedig ar y rhai ar gyflogau is, pobl ifanc a'r rhai â sgiliau isel. Roedd effaith hefyd ar bobl anabl, y rhai ag iechyd gwael a chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

1.9 Hefyd, roedd posibilrwydd o golli digwyddiadau mawr yn barhaol i wledydd eraill. Argymhellwyd felly, cyn belled ag y bod amodau'n aros yn sefydlog dros yr wythnos nesaf ac nad oedd y dystiolaeth ychwanegol ar yr amrywiolyn Delta yn newid yr asesiad risg, y dylid symud i Lefel Rhybudd 1 ar 7 Mehefin.

1.10 Cydnabu'r Cabinet fod angen parhau â'r camau gofalus a graddol, gan ystyried effaith gronnol digwyddiadau yn y dyfodol, a chytunodd â'r argymhelliad. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai angen iddynt gyfarfod eto ar y dydd Iau canlynol i gadarnhau'r sefyllfa hon, pan oedd tystiolaeth bellach ar ledaeniad ac effaith yr amrywiolyn Delta yn hysbys.

1.11 Yn y cyfamser, byddai angen i swyddogion ailedrych ar y Lefelau Rhybudd yng Nghynllun Rheoli'r Coronafeirws er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben gan mai’r amrywiolyn Delta yw’r straen mwyaf blaenllaw erbyn hyn. Byddai angen i swyddogion hefyd roi cyngor am y risg iechyd cyhoeddus priodol sy'n gysylltiedig â llacio pob un o'r cyfyngiadau o dan Lefel Rhybudd 1 fel y gall Gweinidogion wneud penderfyniadau gwybodus ddydd Iau nesaf pe bai angen ystyried llacio cyfyngiadau'n rhannol.

1.12 Awgrymwyd y dylid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i frechu plant a phobl ifanc o ystyried nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta yn y grŵp oedran hwn yn Lloegr.
 
1.13 Trafododd y Cabinet y cynigion ar gyfer cyfyngu ar y nifer o bobl mewn digwyddiadau a daeth i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn yr un model ag yn Lloegr sef caniatáu hyd at 1,000 yn eistedd o dan do, hyd at 4,000 yn sefyll yn yr awyr agored a hyd at 10,000 yn eistedd yn yr awyr agored. Roedd y cynlluniau peilot wedi dangos yr hyn a oedd yn bosibl ei gyflawni'n ddiogel.

1.14 Roedd y model yn darparu uchafswm o ran terfynau capasiti, a byddai'n ofynnol i drefnwyr gadw at y rheolau eraill yn y rheoliadau fel cadw pellter cymdeithasol, asesiadau risg a'r cyfyngiadau ar letygarwch, a fyddai'n cael effaith gyffredinol ar union nifer y bobl a allai fynychu digwyddiad. Gallai Awdurdodau Lleol ganolbwyntio ar orfodi'r cyfyngiadau yn hytrach na chynllunio digwyddiadau, fel y gwnaethant yn ystod y cynlluniau peilot.

1.15 Cydnabuwyd y gallai fod angen i Weinidogion ailedrych ar y penderfyniad hwn, pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud unrhyw newidiadau i'r gofynion cadw pellter cymdeithasol.

1.16 O ran ymgynnull a chymysgu, roedd y rheolau'n anymarferol i'w gorfodi ar gyfer digwyddiadau sefyll, gan ystyried y byddai pobl yn symud o gwmpas, felly, ni fyddai digwyddiadau sefyll dan do yn cael eu caniatáu yn Lefel Rhybudd 1, o ystyried y risgiau uwch sy'n gysylltiedig â gweithgareddau dan do. Fodd bynnag, o ystyried materion gorfodi, ni fyddai unrhyw reolau ar gymysgu mewn digwyddiadau awyr agored na digwyddiadau crwydrol. Ond roedd angen eglurder yn y canllawiau i sicrhau bod y cyhoedd yn deall y risgiau. 

1.17 Byddai newidiadau posibl i’r rheolau ar gyfer derbyniadau priodas yn cael eu trafod ymhellach fel rhan o'r adolygiad nesaf, gan gynnwys y potensial ar gyfer dileu’r uchafswm niferoedd ac ystyried yr agwedd gyffredinol o ran cadw pellter cymdeithasol. Gofynnwyd i swyddogion roi cyngor pellach ar lacio cyfyngiadau ar dderbyniadau priodas yn y cyfarfod nesaf.

1.18 Cytunodd y Cabinet na ddylid eithrio neuaddau bingo o'r gofyniad gwasanaeth bwrdd a nodwyd yn Lefel Rhybudd 1.

1.19 Adroddwyd y byddai angen ailystyried y canllawiau sydd mewn grym yn Lefelau Rhybudd 3 a 4 ar gyfer Lefelau Rhybudd 1 a 2, gan efallai na fyddai rhai cyfyngiadau'n gymesur ar y lefelau is. Cytunwyd, oni bai bod newidiadau'n arbennig o ddadleuol neu fod angen diwygio’r rheoliadau, y dylai'r canllawiau gael eu hadolygu gan adrannau polisi, swyddogion cyfreithiol a swyddogion iechyd y cyhoedd i sicrhau cymesuredd a dylai'r newidiadau hynny gael eu cadarnhau gan Weinidogion portffolio perthnasol.

1.20 Adroddwyd bod risg uchel bellach o her i'r Rheoliadau sy’n atal troi allan oddi wrth y landlordiaid hynny a oedd â thenantiaethau ag ôl-ddyledion. Oherwydd bod cyfyngiadau coronafeirws ehangach yn cael eu llacio a bod angen sicrhau cymesuredd, ystyriwyd hyn bellach yn risg sylweddol, yn enwedig gan mai Cymru oedd y wlad olaf yn y DU i ddileu cyfyngiadau o'r fath.

1.21 Awgrymwyd y dylai dileu'r cyfyngiadau gyd-fynd â negeseuon priodol am sut y parhaodd Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i'r rhai a allai fod mewn ôl-ddyledion rhent oherwydd y pandemig.

1.22 Nodwyd bod y rheoliadau i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mehefin a gellid gohirio penderfyniad i roi terfyn ar y cyfyngiadau dros dro ychydig y tu hwnt i gyfnod yr adolygiad nesaf, i gyd-fynd ag argaeledd pecyn grant addas a allai helpu i liniaru’r nifer a gaiff eu troi allan o ganlyniad. Dylai swyddogion ystyried hyn ymhellach a bydd y Cabinet yn dychwelyd at y mater hwn yn y cyfarfod nesaf.

Eitem 2: Opsiynau ar gyfer symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1

2.1 Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol mai nifer isel o achosion sydd yng Nghymru o hyd, gyda chyfraddau heintio yn sefydlog ar oddeutu 7.4 am bob 100k. Roedd pwysau COVID-19 ar y GIG yn isel, ond roedd ôl-groniad sylweddol nad yw’n ymwneud â COVID a gallai unrhyw gynnydd mewn cleifion COVID effeithio ar sut y bydd yr ôl-groniad yn cael ei reoli.

2.2 Roedd cyfraddau achosion wedi bod yn tyfu'n gynt yn yr Alban ers tua 3 wythnos ac yn Lloegr ers mwy nag wythnos. Roedd Gogledd Iwerddon a Chymru wedi gweld cyfraddau achosion sefydlog yn yr un cyfnod, ond gallai hyn newid wrth i fwy o drosglwyddiad cymunedol ddigwydd drwy lacio’r cyfyngiadau. Roedd yr amrywiolyn Delta yn peri pryder penodol, yn enwedig yng Nghonwy, ond roedd yn ymddangos bod y gwasanaeth profi, olrhain, diogelu yn rheoli’r achosion yng Nghymru hyd yma.

2.3 Gellid disgwyl cynnydd pellach mewn achosion ar draws Cymru wrth i’r amrywiolyn Delta ymledu ar draws y DU ac roedd arwyddion cynnar yn dangos efallai na fydd y cyfuniad presennol o frechiadau a chyfyngiadau yn ddigon i gadw'r Rt islaw 1 yn Lloegr na'r Alban. Byddai cyfarfod o SAGE yn dilyn yn syth ar ôl y Cabinet ac yna byddai rhagor o dystiolaeth ar gael ar effaith debygol yr amrywiolyn Delta yng Nghymru.

2.4 Gan ystyried yr uchod, cyngor iechyd y cyhoedd oedd symud i Lefel Rhybudd 1 fesul cam i ohirio llacio’r cyfyngiadau lle mae’r mwyaf o risg, gan gynnwys y cyfyngiadau sy'n ymwneud â chymysgu dan do a digwyddiadau. Dylai oedi llacio rhai cyfyngiadau fel hyn ddarparu digon o ddata i ddangos a yw’r DU ar ddechrau trydedd ton ac i ba raddau yr oedd mwy o achosion yn trosi yn achosion ysbyty a marwolaethau.

2.5 Y cynnig oedd symud dau gam i Lefel Rhybudd 1 yn dechrau ar 7 Mehefin, gyda newidiadau awyr agored yn bennaf. Byddai'r ail gam yn cynnwys elfennau dan do Lefel Rhybudd 1 bythefnos yn ddiweddarach ar 21 Mehefin.

2.6 Cytunodd y Cabinet y gellid ymestyn aelwydydd o 7 Mehefin, gyda hyd at dair aelwyd a swigod cefnogaeth, sef yr unig lacio o dan do o'r dyddiad hwn.

2.7 Yna canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr opsiynau a amlinellwyd mewn perthynas â chynulliadau awyr agored heb eu rheoleiddio ac wedi’u rheoleiddio. Y dewis cyntaf oedd cyd-fynd â’r rheolau yn Lloegr, yr ail oedd mabwysiadu dull lluosydd yn ôl y cyfrifiad bras o'r risg gymharol.

2.8 O ran cynulliadau awyr agored heb eu rheoleiddio, codwyd pryderon ynglŷn â'r posibilrwydd o ddryswch pe bai Cymru'n symud oddi wrth y niferoedd a oedd ar waith yr haf blaenorol yng Nghymru, a’r niferoedd ar waith yn Lloegr, sef caniatáu i 30 o bobl gwrdd mewn gerddi preifat, yn yr awyr agored mewn lleoliadau a reoleiddir, ac mewn mannau cyhoeddus.

2.9 Ar gyfer cynulliadau a reoleiddir yn yr awyr agored, megis digwyddiadau chwaraeon, derbyniadau priodas a digwyddiadau â gwylwyr, cytunodd y Cabinet y byddai cyfiawnhau symud i ffwrdd o'r lefelau a osodwyd yn Lloegr yn broblem ac na fyddai o reidrwydd yn cymell yr ymddygiad cydymffurfio cywir, gan y gallai pobl deimlo bod y gwahaniaeth niferoedd yn ddiangen. Cefnogwyd y farn honno gan ddata'r grwpiau ffocws yn y gwaith monitro wythnosol.

2.10 Adroddwyd bod yr Heddlu'n gyfforddus gyda'r nifer awgrymedig o 30 mewn digwyddiadau awyr agored ac y byddai Awdurdodau Lleol hefyd yn eu cefnogi.

2.11 Gan nodi'r ansicrwydd parhaus ynghylch effaith yr amrywiolyn Delta, cytunodd y Gweinidogion i rannu’r pontio i Lefel Rhybudd 1 yn ddau gam a chytunwyd y dylid gosod uchafswm capasiti o 30 o bobl ar gyfer cynulliadau awyr agored, 4,000 ar gyfer digwyddiadau sefyll a 10,000 ar gyfer digwyddiadau eistedd.

2.12 Nododd y Cabinet y byddai'r newidiadau arfaethedig ar gyfer 21 Mehefin yn cael eu hamlinellu yn y gynhadledd i'r wasg y diwrnod canlynol, ond cafwyd cyfle pellach i'w hystyried yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ystod wythnos 14 Mehefin, cyn gwneud penderfyniad terfynol ar lacio’r cyfyngiadau.

2.13 Y penderfyniad terfynol i'w wneud y diwrnod hwnnw oedd ynghylch dileu'r cyfyngiad presennol ar droi allan.

2.14 Adroddwyd bod y Rheoliadau sy'n atal troi allan ar hyn o bryd i fod i ddod i ben ar 30 Mehefin ac roedd pecyn o fesurau yn cael ei lunio i gefnogi tenantiaid sydd mewn perygl o fod yn destun achosion o'r fath.

2.15 Nododd y Cabinet fod gwasanaethau cynghori ar draws Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i lunio'r pecyn ac y byddent yn helpu i roi gwybod i'r rhai mewn angen amdano.

2.16 O ystyried nad oedd y pecyn yn debygol o fod yn barod i'w weithredu cyn diwedd mis Mehefin, cytunodd y Cabinet y dylid caniatáu i'r Rheoliadau ddod i ben ar ddiwedd y mis.

2.17 Wrth ddod i'r casgliad hwnnw, nododd y Cabinet yr aseswyd bod y risg o adolygiad barnwrol gan Landlordiaid yn isel i ganolig, gan fod y sector a thenantiaid eisoes wedi cael gwybod bod y Rheoliadau i fod i ddod i ben ar 30 Mehefin. Yn ogystal, dylai unrhyw gynllun i gynorthwyo'r rhai sydd ag ôl-ddyledion rhent fod o fudd i Landlordiaid yn y pen draw.

2.18 Roedd y gost ychwanegol sylweddol sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â digartrefedd hefyd yn ffactor wrth geisio cadw tenantiaid yn eu heiddo lle bynnag y bo modd, ac awgrymwyd y gellid pwysleisio gwaith llwyddiannus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd drwy gydol y pandemig yn y gynhadledd i'r wasg y diwrnod canlynol.