Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS (o eitem 5)
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr – Datblygu Twristiaeth a Chwaraeon (eitem 4)
  • Sarah Storey, Rheolwr y Bil (eitem 4)
  • Steffan Bryn, Cynghorydd Arbennig (eitem 4)
  • Ed Sherriff, Dirprwy Gyfarwyddwr – Ynni (eitem 5)
  • Rhiannon Phillips, Pennaeth Effeithlonrwydd Ynni Domestig a Thlodi Tanwydd (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 19 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Rhaglen Ddeddfwriaethol

2.1 Cafodd y Cabinet ei atgoffa gan y Prif Weinidog y byddai’n gwneud ei ddatganiad blynyddol ar Raglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth i’r Senedd y diwrnod canlynol. Yn ogystal â nodi’r Biliau a fyddai’n ymddangos ym mlwyddyn tri'r rhaglen, byddai’n nodi blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer y blynyddoedd dilynol.

Ymchwiliad i COVID-19

2.2 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at yr Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19, a oedd wedi dechrau clywed tystiolaeth lafar gan dystion mewn perthynas â Modiwl 1, paratoadau cyn y pandemig. Byddai ef ei hun yn rhoi tystiolaeth ddechrau mis Gorffennaf.

2.3 Felly, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd fyddai’n ymateb i’r cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 4 Gorffennaf.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai amser pleidleisio’n digwydd tua 6.35pm ddydd Mawrth a thua 6:55pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Cynllun Trwyddedu Statudol ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru

4.1 Cyflwynodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar y cyfeiriad polisi ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Statudol yng Nghymru. Roedd hyn yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio.

4.2 Hyd yma, roedd yr ymarfer ymgynghori, a oedd wedi canolbwyntio ar ddarparwyr llety, wedi dangos y byddai cynllun o unrhyw fath yn amhoblogaidd, gyda’r sector yn codi pryderon ynghylch y baich gweinyddol a’r costau ychwanegol i fusnesau. Mewn ymateb, roedd y Llywodraeth yn bwriadu gweithredu cynllun trwyddedu a fyddai’n gost-effeithiol ac yn hawdd ei weinyddu.

4.3 Gan fod diogelwch ymwelwyr yn flaenoriaeth, byddai’r cynllun yn gofyn i fusnesau gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio presennol, megis asesiadau risg tân a thystysgrifau diogelwch nwy.

4.4 Byddai angen casglu mwy o dystiolaeth oddi wrth ymwelwyr, preswylwyr, a chymunedau, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a sicrhau y byddai asesiad y Llywodraeth o effaith ddisgwyliedig y cynllun yn fwy cytbwys ac yn gydnaws ag amcanion ehangach ar gyfer twristiaeth gynaliadwy.

4.5 Byddai hyn yn rhoi’r hyder i ddarparwyr llety ac ymwelwyr fod pob safle yng Nghymru yn gweithredu o fewn yr un fframwaith safonau, gan greu cysondeb a rhoi sylw i bryder sydd wedi bodoli ers amser yn y sector.

4.6 Wrth ddatblygu’r cynllun, byddai angen cymorth a chyfathrebu clir, er mwyn sicrhau bod busnesau’n deall y gofynion newydd.

4.7 Roedd y Cabinet yn cydnabod y pryderon a godwyd gan y sector, ond roedd yn gytûn bod angen i’r sefyllfa fod yn deg i bawb sy’n darparu llety ymwelwyr yng Nghymru, gyda’r rheini sy’n cynnig llety mewn cartrefi preifat yn gorfod bodloni’r un fath o ofynion diogelwch â busnesau sydd wedi eu sefydlu.

4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, yn amodol ar y swyddogion, gan nodi y byddai casgliadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnos yn dechrau 3 Gorffennaf.

Eitem 5: Strategaeth gwres

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i ymgynghori ar Strategaeth Wres i Gymru.

5.2 Byddai’r strategaeth hirdymor yn cefnogi’r dyhead am weld sector cyhoeddus sero net erbyn 2030, a helpu i ddatgarboneiddio cartrefi, diwydiant, a busnesau erbyn 2050. Roedd cydnabyddiaeth nad oedd ffordd hawdd a chyflym o symud i ffwrdd oddi wrth wres tanwydd ffosil tuag at atebion ynni sy’n gydnaws â sero net.

5.3 Roedd y strategaeth yn rhoi sylw i’r angen i ddatgarboneiddio gwres, gan ymateb i alwadau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a’r Senedd ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei dull gweithredu ar gyfer y cyflenwad tai yng Nghymru.

5.4 Er mwyn cefnogi’r strategaeth, byddai angen datblygu cynlluniau gweithredu manwl tymor byr i nodi opsiynau ac atebion sy’n darparu gwerth am arian i gefnogi aelwydydd a busnesau sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r costau byw a phwysau cynnal busnesau. Roedd yn bwysig gwella ymwybyddiaeth o dechnolegau newydd a hyrwyddo hyder ynddynt, ac ar yr un pryd ehangu a gwella sgiliau’r gweithlu i sicrhau bod peirianwyr wedi eu hyfforddi’n briodol ar gyfer gosod yr atebion newydd. Yn ogystal â hyn, byddai angen datblygu’r gadwyn gyflenwi er mwyn gwneud yn siŵr bod unedau ar gael am bris fforddiadwy. 

5.5 Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gallu fforddio talu costau datgarboneiddio, ac roedd angen i Lywodraeth y DU weithredu ar frys. Ar ben hynny, byddai angen i’r farchnad ei hun yrru newidiadau.

5.6 Croesawodd y Cabinet y papur gan gydnabod y byddai camau gweithredu tymor byr yn caniatáu i’r Llywodraeth chwarae rôl fwy gweithgar o ran bwrw ymlaen â newidiadau, gyda chynlluniau i gael gwared ar ddulliau gwresogi sy’n defnyddio tanwydd ffosil yn raddol o gartrefi a busnesau ledled Cymru.

5.7 Yn ogystal â hynny, byddai datgarboneiddio cartrefi yn helpu’r rheini sy’n dioddef tlodi tanwydd.

5.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2023