Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Vaughan Gething AS
  • Mick Antoniw AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, Prif Swyddog Gwyddonol – Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Eitem 1: Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – ymestyn y Pàs COVID

1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn amlinellu cynigion ac argymhellion ar gyfer y posibilrwydd o ymestyn y Pàs COVID i gynnwys lleoliadau lletygarwch. Roedd y Cabinet wedi cytuno i ddychwelyd at hyn wedi’r adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) ar 15 Tachwedd.

1.2 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau a oedd yn ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd cyhoeddus i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

1.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i roi trosolwg o’r sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol.

1.4 Adroddwyd bod lefel uchel o drosglwyddiad yn y gymuned yng Nghymru. Roedd cyfraddau heintio ar drywydd a oedd wedi cyrraedd gwastad tonnog, a oedd yn gwella’n raddol. Roedd y gyfradd heintio gyfartalog, ar gyfer saith diwrnod, newydd ddisgyn o dan 500 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth. Roedd nifer yr achosion ar gynnydd yn yr ystod oedran 0-16, ond yn gostwng ymysg y rheini dros 60 oed, ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyfraddau derbyn i’r ysbyty.

1.5 Ar hyn o bryd, roedd 641 o gleifion COVID-19 mewn gwelyau ysbyty, sef 14% yn llai na’r wythnos flaenorol. Roedd 394 o achosion, a oedd wedi cael eu cadarnhau, sef gostyngiad o 16% yn ystod yr wythnos flaenorol.

1.6 Gyda nifer uchel o bobl yn manteisio ar y cyfle i gael eu brechu; y rhaglen sy’n darparu’r dos atgyfnerthu’n mynd o nerth i nerth; cyfraddau heintio’n gostwng ym mysg pobl hŷn; a sefydlogrwydd mewn cartrefi gofal, roedd y Prif Swyddog Meddygol yn ofalus optimistaidd na fyddai’r cynnydd cyflym mewn achosion a oedd yn digwydd ar draws cyfandir Ewrop yn lledaenu i’r DU.

1.7 Roedd aelodau’r Gell Cynghori Technegol o’r un farn, er eu bod yn pwysleisio’r angen i barhau’n wyliadwrus a monitro senarios heintio ymhellach i ffwrdd, megis yn Ne Affrica.

1.8 O ran datblygiadau eraill, er gwaethaf arwyddion cynharach i’r gwrthwyneb, nodwyd bod Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu peidio ag ymestyn y defnydd o’i phasbort brechu.

1.9 Cytunodd y Gweinidogion, o dan y senarios a ystyriwyd yn flaenorol gan y Cabinet, ei bod yn ymddangos bod y cyd-destun iechyd yn cefnogi senario COVID sefydlog, gan ddod i’r casgliad na ddylid ymestyn y defnydd o’r Pàs COVID ar hyn o bryd.

1.10 Dylai’r naratif yn y cyhoeddiad ei gwneud yn glir nad oedd hyn yn golygu llacio’r rheolau, a bod COVID-19 yn parhau’n fygythiad real iawn, ac y dylai pobl fod yn hynod wyliadwrus a pharhau i ddilyn mesurau er mwyn osgoi’r angen i symud at lefel COVID Brys.

1.11 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion gweithredu’n unol â’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion, gan roi’r cyfarwyddiadau priodol i gyfreithwyr.