Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AC
  • Vaughan Gething AC
  • Lesley Griffiths AC
  • Julie James AC (o eitem 3)
  • Ken Skates AC
  • Kirsty Williams AC
  • Jeremy Miles AC
  • Jane Hutt AC
  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Carys Evans, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Dan Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Paul Griffiths, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet

Ymddiheuriadau

  • Eluned Morgan AC

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

  1. Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 4 a 10 Chwefror.

Eitem 2: Busnes Cyfarfod Llawn y Llywodraeth

  1. Nododd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn.

Eitem 3: Diweddariad Bord Gron am Stormydd Ciara a Dennis

  1. Trafododd y Cabinet effaith Stormydd Ciara a Dennis. O ganlyniad i Storm Ciara, roedd nifer sylweddol o gartrefi a busnesau wedi’u heffeithio gan lifogydd yn Llanrwst, Llanfair Talhaearn, Trefriw, Dinbych, Bae Colwyn a Llanelwy a'u cyffiniau. Roedd digwyddiadau unigol mewn ardaloedd eraill hefyd, yn fewndirol ac ar hyd yr arfordir.
  2. Pan roedd Storm Dennis ar ei hanterth, roedd 61 o Hysbysiadau Llifogydd, 89 o Rybuddion Llifogydd a 2 Rybudd Llifogydd Difrifol mewn grym. Disgynnodd dros 160mm o law mewn rhai ardaloedd yn nalgylch afonydd Taf a Rhondda. Roedd hyn yn fwy na gwerth mis o lawiad mewn un diwrnod. Cyrhaeddodd Afon Taf ac Afon Wysg eu lefelau uchaf mewn 40 mlynedd. Adroddodd awdurdodau lleol fod dros 1000 o gartrefi wedi dioddef llifogydd mewnol, gyda dros 300 o fusnesau wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol.
  3. Roedd nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnynt a'r difrod a'r colledion a achoswyd yn dorcalonnus i’r unigolion perthnasol. Fodd bynnag, dangosodd data newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru fod dros 9000 o gartrefi ar Afon Taf wedi cael eu hamddiffyn rhag llifogydd. Ledled Cymru, roedd y ffigur hwnnw oddeutu 73,000, gyda llawer mwy yn elwa ar amddiffynfeydd llai a oedd yn cael eu rheoli gan yr Awdurdodau Lleol. Heb yr amddiffynfeydd hyn, gallai'r llifogydd fod wedi bod yn llawer gwaeth.
  4. Roedd y rhain yn stormydd sylweddol. Cydnabuwyd bod arbenigwyr ym maes newid hinsawdd wedi bod yn dweud y dylai Cymru ddisgwyl gweld digwyddiadau tywydd yn fwy aml, a mwy difrifol.
  5. Roedd y rhwydwaith trafnidiaeth hefyd wedi cael ei effeithio'n ddifrifol. Roedd staff ar draws y sector cyfan wedi gweithio'n galed i gefnogi'r cyhoedd a oedd yn dymuno teithio ac i ailagor y rhwydweithiau trafnidiaeth cyhoeddus a'r ffyrdd. Roedd rhai ffyrdd yn parhau i fod ar gau a byddai'n cymryd peth amser i rai rheilffyrdd ailagor. Fodd bynnag, roedd y rhwydwaith bysiau cyfan yn weithredol.
  6. Roedd swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Nhrefforest a Bedwas wedi cau oherwydd llifogydd. Roedd disgwyl i'r gwaith glanhau gymryd o leiaf chwe wythnos.
  7. Roedd Gweinidogion wedi ymweld â chymunedau ledled Cymru. Roeddynt wedi trafod materion gydag unigolion a oedd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol ac wedi gweld yr ymateb anhygoel gan gymunedau a gwirfoddolwyr.
  8. Cafodd y llifogydd effaith ariannol sylweddol. Roedd y Gweinidogion wedi cytuno, felly, y byddai pob cartref yng Nghymru a oedd wedi cael ei effeithio gan y llifogydd yn cael £500 gan Lywodraeth Cymru. Byddai £500 arall ar gael i'r rhai heb yswiriant cartref. Roedd pobl yn debygol o gael taliad cychwynnol o fewn 24 awr i brosesu'r cais, ar yr amod bod ganddynt gyfrif banc priodol. Roedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fyddai taliadau o'r fath yn effeithio o gwbl ar unigolion a oedd yn derbyn budd-daliadau.
  9. Roedd cyllid hefyd wedi cael ei ryddhau i wneud gwaith atgyweirio brys ar seilwaith llifogydd, gan gynnwys amddiffynfeydd a chwlfertau. Yn ogystal â hynny, roedd y Cynllun Cymorth Ariannol Brys ar gael i roi cymorth i awdurdodau lleol ysgwyddo costau refeniw yr ymateb i'r llifogydd.
  10. Roedd Busnes Cymru yn barod rhoi cymorth i fusnesau a oedd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd i gynnal gwaith adfer. Roedd opsiynau posibl ar gyfer dyrannu cyllid i helpu gyda chostau adfer ar ôl llifogydd yn cael eu hystyried ar y cyd â Banc Datblygu Cymru.
  11. Roedd y Prif Weinidog wedi bod yn trafod diogelwch tomenni glo y diwrnod cynt gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod glo a'r awdurdodau lleol perthnasol ddull cyffredin o reoli tomenni, sef nodi’r rhai a oedd yn peri'r pryder mwyaf ar raddfa. Rhoddwyd sicrwydd yn ystod y cyfarfod y byddai'r rhai ar frig y rhestr honno yn cael eu harchwilio erbyn diwedd yr wythnos honno. Roedd nifer ohonynt eisoes wedi cael eu harchwilio ac roedd y peirianwyr wedi nodi nad oeddent yn peri risg i fywyd nac eiddo. Fodd bynnag, roedd yr asesiadau hynny wedi cael eu cynnal yn erbyn safonau a ddefnyddiwyd dros y degawdau blaenorol ac efallai na fyddant yn dderbyniol yn y dyfodol.
  12. Diolchodd y Cabinet i bawb a oedd wedi helpu gyda’r ymateb brys a’r gwaith adfer a oedd yn parhau. Roedd hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, asiantaethau eraill a gwirfoddolwyr. Roedd pob un o’r rhain wedi gweithio'n ddiflino i helpu i ymateb i’r llifogydd ac i liniaru'r effeithiau. Diolchodd y Gweinidogion yn arbennig i arweinydd Rhondda Cynon Taf am ei arweiniad.
  13. Teimlai'r Gweinidogion fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym ac effeithiol a’i bod wedi cael cefnogaeth ragorol gan swyddogion ar draws y llywodraeth.
  14. Nododd y Gweinidogion fod y cyllid wedi bod ar gael oherwydd tanwariant adrannol.
  15. Gallai fod posibilrwydd o sicrhau bod swm cymharol fach o gyllid ychwanegol ar gael y flwyddyn nesaf i gefnogi'r ymateb i lifogydd, ond nodwyd hefyd fod y Gweinidog Cyllid wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddweud efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru gael arian o Gronfeydd Trysorlys y DU, y tu allan i'r trefniadau Barnett arferol, i dalu'r costau eithriadol. Gofynnwyd hefyd i Lywodraeth y DU ystyried gwneud cais i Gronfa Gydsefyll yr UE.
  16. Roedd yn bwysig sicrhau bod pob aelwyd yng Nghymru a oedd mewn perygl o lifogydd yn ymwybodol o'r cynllun 'Flood Re'. Roedd y cynllun hwn yn caniatáu i bawb gael yswiriant cartref fforddiadwy.
  17. Cytunodd y Cabinet fod angen rhoi trefn ar yr hyn yr oedd angen ei wneud ar unwaith mewn ymateb i'r stormydd er mwyn i bobl allu dychwelyd i fywyd normal mor gyflym â phosibl. Byddai angen ystyried wedyn beth fyddai angen ei adolygu dros y tymor hwy.
  18. Yn y tymor byr, efallai y bydd angen ailgyfeirio cyllidebau penodol i helpu i ddelio ag effeithiau'r stormydd. Serch hynny, roedd y Gweinidogion yn cytuno bod angen parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i geisio sicrhau rhagor o gyllid. Heb y cyllid hwn, byddai goblygiadau mawr ar gyfer cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn 2020-21.
  19. Cytunodd y Gweinidogion y dylent barhau i ymweld â chymunedau a oedd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod y storm.

Eitem 4: Unrhyw fater arall

  1. Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar y coronafeirws (COVID-19).
  2. Roedd y Gweinidog yn cyhoeddi Datganiadau Ysgrifenedig wythnosol i Aelodau'r Senedd. Roedd y Prif Swyddog Meddygol hefyd yn diweddaru'r cyhoedd yn rheolaidd. Roedd wedi cyhoeddi canllawiau i'r rhai a allai ddatblygu symptomau ar ôl dychwelyd o wledydd tramor. Roedd y cyngor teithio wedi cael ei ddiweddaru'n ddiweddar i adlewyrchu'r cynnydd yn nifer yr achosion mewn nifer o wledydd, gan gynnwys yr Eidal. At hynny, roedd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddiweddaru bob dydd.
  3. Roedd gwledydd ledled y byd yn parhau i fod yn y cyfnod cyfyngu ac roedd y perygl presennol i'r DU yn gymedrol. Byddai’r statws hwnnw’n newid petai'r feirws yn parhau i ledaenu yn Ewrop neu yn unrhyw wlad arall oedd â chysylltiadau agos â'r DU neu petai gwledydd penodol yn methu â lleihau lledaeniad y feirws.
  4. Roedd gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng pedair gwlad y DU.
  5. Nodwyd y byddai Gweinidogion perthnasol yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried goblygiadau lledaeniad y feirws.

Rhannu’r dudalen hon