Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS (28 Hydref)
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Lesley Griffiths AS
  • Dawn Bowden AS (25 Hydref)
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet (25 Hydref)
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Frank Atherton, Y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, Y Prif Swyddog Gwyddonol – Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd y Gell Cynghori Technegol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, COVID-19 - Ailddechrau
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol  (25 Hydref)
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol (25 Hydref)
  • Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr
  • Terry Kowall, Uwch-gwnsler Deddfwriaethol (28 Hydref)

Eitem 1: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 28 Hydref 2021

1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn am farn ynglŷn â chyfnod adolygu presennol y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5).

1.2 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben unrhyw gyfyngiadau oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd cyhoeddus i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

1.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i roi trosolwg o’r sefyllfa iechyd cyhoeddus presennol.

1.4 Roedd Cymru yn dal i weld y cyfraddau heintio uchaf yn y DU. Bellach roedd y gyfradd heintio gyfartalog, ar gyfer cyfnod o saith diwrnod, oddeutu 650 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, gyda chyfradd o 20% ar gyfer cael canlyniad positif i brawf. Roedd y cyfraddau heintio ymysg pobl dros 60 oed hefyd ar gynnydd.

1.5 Roedd Prif Weithredwr y GIG wedi dweud wrth Weinidogion fod y Byrddau Iechyd yn parhau i fod o dan bwysau mawr iawn, a bod yr angen i ymateb i’r pandemig yn un ffactor sy’n cyfrannu at y pwysau hynny.

1.6 Ar hyn o bryd, roedd 726 o gleifion COVID-19 mewn gwelyau ysbytai. Roedd 520 ohonynt yn achosion a oedd wedi eu cadarnhau, ac roedd 53 o bobl mewn unedau gofal critigol. Roedd y feirws yn parhau i effeithio ar sut yr oedd gwasanaethau’r GIG yn cael eu darparu, gan fod angen rheoli cleifion wrth iddynt symud drwy’r system, ac ar yr un pryd roedd yr ysbytai yn gorfod ymateb i brinder staff oherwydd salwch a gofynion hunanynysu.

1.7 Oherwydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus barhaus, cytunodd y Cabinet y dylid parhau â’r cyfyngiadau ar gyfer y cyfnod adolygu presennol. Fodd bynnag, dylid ystyried sut y gellid cryfhau’r mesurau lliniaru hyn er mwyn osgoi’r angen i symud i lefel COVID Brys.

1.8 Byddai’n rhaid i’r negeseuon a fyddai’n ategu’r cyhoeddiad ddydd Gwener bwysleisio’r angen i bobl barhau i ddilyn mesurau diogelu, gan egluro y byddai angen ailgyflwyno cyfyngiadau mwy llym, pe bai effeithiau niweidiol COVID yn cynyddu 

1.9 O ran y rhaglenni brechu, nodwyd bod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried a fyddai’n bosibl lleihau’r cyfnodau amser rhwng rhoi’r ail ddos a’r dos atgyfnerthu. Roedd nifer y bobl ifanc, a oedd wedi cael eu heintio gan y feirws, wedi achosi oedi o ran gweithredu’r rhaglen i bobl ifanc 12-15 oed. Y gobaith oedd y byddai cynnydd yn y niferoedd yn ystod y gwyliau hanner tymor, a dylid canolbwyntio ar imiwneiddio myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn arholiadau.

1.10 Cytunodd y Cabinet y dylid gwneud mwy i annog pobl i ddychwelyd i’r arfer o weithio o gartref yn ystod misoedd y gaeaf.

1.11 Dylai’r Llywodraeth arwain drwy esiampl, gan annog y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector i wneud yr un peth.

1.12 Roedd pryderon parhaus ynglŷn â’r defnydd o orchuddion wyneb mewn mannau manwerthu, yn enwedig uwchfarchnadoedd, a chytunwyd y byddai’r Prif Weinidog, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a Gweinidog yr Economi yn cyfarfod â’r sector i’w atgoffa am ei rwymedigaethau i’w staff a’i gwsmeriaid.

1.13 Nododd Gweinidogion yr adborth a gafwyd yn sgil gwneud pasys COVID yn orfodol ar gyfer cael mynediad i leoliadau chwaraeon, clybiau nos, a lleoliadau risg uchel eraill penodol, gan ystyried a ddylid ymestyn hyn i gynnwys lleoliadau eraill. 

1.14 Byddai’r Cabinet yn dychwelyd at y mater hwn yn nes ymlaen yn yr wythnos.

1.15 Cydnabu’r Cabinet ei bod yn bosibl y byddai angen ailystyried y polisi ar gyfer hunanynysu a phrofi, yn sgil cael tystiolaeth bellach gan astudiaeth glinigol ddiweddar.

1.16 Cytunwyd y byddai’r Cabinet yn dychwelyd at y materion hyn yn nes ymlaen yn yr wythnos.

1.17 Nododd y Cabinet y papur gan gytuno y dylai swyddogion barhau i weithredu yn unol â’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion.

Eitem 2

2.1 Dychwelodd y Cabinet at faterion o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach yn yr wythnos, gan fod angen parhau i’w trafod. Roedd swyddogion wedi darparu nodiadau briffio ar y posibilrwydd o ymestyn y defnydd gorfodol o basys COVID, a chynigion i newid gofynion ynglŷn â’r angen i gysylltiadau aelwyd hunanynysu.

2.2 Derbyniwyd bod gan y defnydd o basys COVID rôl werthfawr o ran gwneud bygythiad cynyddol y feirws yn amlwg yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion.

2.3 Ystyriodd y Gweinidogion y cynigion yn y nodyn briffio, gan gytuno na ddylid gwneud y defnydd o basys yn orfodol yn y diwydiant lletygarwch ehangach fel rhan o’r adolygiad presennol o’r Rheoliadau. Fodd bynnag, yn ei gynhadledd i’r wasg y diwrnod canlynol, dylai’r Prif Weinidog gyfeirio at y bwriad i weithredu’r gofyniad hwnnw mewn lleoliadau mwy o faint yn y cyfnod adolygu nesaf, pe bai’r cyfraddau heintio’n parhau i godi.

2.4 Fodd bynnag, gallai lleoliadau barhau i ofyn i gwsmeriaid ddefnyddio’r pàs fel rhan o’u mesurau rheoli rhesymol, a hefyd annog pobl i ddefnyddio profion llif unffordd.

2.5 O ran lleoliadau hamdden ac adloniant, roedd sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd eisoes yn gweithredu mesurau rheoli mynediad, a gallent weithredu gwiriadau ychwanegol ar gyfer pasys COVID. Cytunwyd y byddai’r defnydd o basys yn cael ei wneud yn orfodol yn y lleoliadau hyn. Byddai’r gofyniad hwn yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’r gynhadledd i’r wasg, a’i weithredu ymhen ddwy wythnos. Byddai’r dull gweithredu gofalus hwn yn caniatáu i leoliadau adloniant o’r fath barhau ar agor yn ystod misoedd y gaeaf.

2.6 Nodwyd bod cartrefi gofal ac ysbytai eisoes yn gweithredu mesurau rheoli mynediad cadarn i ymwelwyr.

2.7 Cytunodd y Cabinet y byddai’r cap ar faint digwyddiadau lle’r oedd pàs COVID yn ofynnol yn parhau ar waith, ac roedd hynny’n cyd-fynd â gweddill y DU.

2.8 Trafododd y Gweinidogion y cynigion ar gyfer ailgyflwyno’r gofynion hunanynysu, gan gytuno y dylai pawb ar aelwyd hunanynysu nes iddynt gael prawf PCR negyddol pe bai un aelod o’r aelwyd hwnnw’n profi’n bositif. Fodd bynnag dylai pobl ifanc 17 a 17 oed barhau i gael eu heithrio am y tro, gan eu bod yn gorfod astudio ar gyfer arholiadau. Byddai Gweinidogion yn parhau i adolygu hyn gan ei ystyried eto pe na bai’r cyfraddau trosglwyddo’n gwella.