Cyfarfod y Cabinet: 24 Mehefin 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 24 Mehefin 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Jayne Bryant AS
- Sarah Murphy AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Paul Griffiths, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Peter McDonald, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd (eitem 4)
- Alison Thomas, Pennaeth Newid Moddol a Newid Ymddygiad (eitem 4)
Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Tata Steel
2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Tata Steel, a'i bresenoldeb yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos flaenorol.
2.2 Roedd Unite wedi cyhoeddi'r wythnos flaenorol y byddai ei aelodau ym Mhort Talbot a Llanwern yn dechrau streic am gyfnod amhenodol o 8 Gorffennaf. Mewn ymateb, roedd Tata Steel yn ystyried cau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn gynnar.
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
2.3 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg wrth y Cabinet ei fod wedi cynrychioli'r Prif Weinidog yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a oedd wedi cyfarfod ar Ynys Manaw yr wythnos flaenorol. Roedd y trafodaethau wedi canolbwyntio ar ddatgloi'r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol ym maes ynni adnewyddadwy ar draws yr ynysoedd. Byddai Datganiad Ysgrifenedig ar ganlyniadau'r drafodaeth yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos honno.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:05pm ddydd Mawrth a thua 5:40pm ddydd Mercher.
Eitem 4: 20mya
4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â'r polisi 20mya.
4.2 Prif amcan y polisi 20mya yw arbed bywydau a lleihau'r nifer sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd yng Nghymru. Roedd yr arwyddion cynnar yn awgrymu bod y polisi hwn yn gweithio, gyda thystiolaeth bod y terfyn cyflymder is yn arwain at lai o wrthdrawiadau a llai o hawliadau yswiriant.
4.3 Fodd bynnag, roedd y polisi wedi polareiddio rhai pobl a chymunedau. Felly, cynigiwyd y dylid ailosod y polisi yn seiliedig ar dair blaenoriaeth: gwrando; gweithio mewn partneriaeth; a gwneud newidiadau lle bo angen.
4.4 Yn ogystal, byddai fframwaith newydd ar gyfer gosod terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn cael ei gyhoeddi cyn y toriad. O fis Medi ymlaen, byddai awdurdodau priffyrdd yn dechrau asesu ffyrdd lle y gallai fod angen newid y terfyn cyflymder, a byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu'n raddol, lle bo angen.
4.5 Croesawodd y Cabinet y papur.
4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar hynt y gwaith hwn i'r Senedd ar 16 Gorffennaf.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2024