Cyfarfod y Cabinet: 24 Medi 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 24 Medi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 3)
- Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol (eitem 3)
Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 16 Medi.
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi y byddai amser pleidleisio yn cael ei gynnal tua 6:15pm y diwrnod hwnnw a'i fod wedi ei drefnu ar gyfer 5:40pm ddydd Mercher.
Eitem 3: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-2025
3.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2024-25.
3.2 Er ei bod yn arfer arferol i'r Gyllideb Atodol Gyntaf gael ei chyhoeddi cyn toriad yr haf, eleni roedd wedi cael ei gohirio oherwydd Etholiad Cyffredinol y DU a'r angen i gael ffigurau gan Drysorlys y DU.
3.3 Fodd bynnag, roedd yn weithdrefnol yn bennaf gan ei bod yn nodi'r newidiadau a fu ers cytuno ar Gyllideb Derfynol 2024-25. Unionwyd y gyllideb i adlewyrchu newidiadau sy'n deillio o Ddatganiad Canghellor y DU ym mis Mawrth ac ailddosbarthu lesoedd yn dechnegol. Fe wnaeth y Gyllideb Atodol hefyd ailstrwythuro'r Prif Grwpiau Gwariant i adlewyrchu'r Cabinet newydd.
3.4 Byddai'r Gyllideb Atodol Gyntaf yn cael ei chyhoeddi ar 1 Hydref, gyda'r ddadl wedi'i threfnu ar gyfer 22 Hydref.
3.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, yn amodol ar swyddogion yn ystyried sylwadau a wnaed gan Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2024