Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad
  • Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adfer ac Ailgychwyn
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ailgychwyn wedi COVID-19 a’r Adolygiad 21 Diwrnod
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ailgychwyn wedi COVID-19
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Polisi'r Gyllideb

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i amserlennu ar gyfer 5:30pm ddydd Mawrth a thua 6:00pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Cyfyngiadau Coronafeirws: Adolygiad 21 diwrnod i'w gynnal erbyn 26 Mai 2022

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet adolygu'n ffurfiol Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5).

3.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd y cyhoedd i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

3.3 Roedd y papur yn amlinellu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd. Roedd canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod canran y boblogaeth gymunedol a oedd â COVID-19 wedi parhau i ostwng rhwng 7 a 13 Mai, i 2.66%. Roedd hyn yn cyfateb i un o bob 40 o bobl.

3.4 Ar 19 Mai, roedd 699 o gleifion yn yr ysbyty yng Nghymru am resymau’n gysylltiedig â COVID-19, gyda 247 o achosion wedi'u cadarnhau, sef gostyngiad o 35% ers yr wythnos flaenorol. Roedd 12 o welyau mewn unedau gofal dwys yn cael eu defnyddio gan gleifion y cadarnhawyd bod ganddynt y feirws.

3.5 Roedd y cymarebau data ar gyfer heintiadau a derbyniadau i'r ysbyty yn awgrymu bod y niferoedd wedi dechrau sefydlogi a’u bod ar eu lefel isaf ers dechrau’r pandemig. Yn ogystal, roedd y marwolaethau’n gysylltiedig â COVID-19 ar y lefel isaf i’w cofnodi hefyd.

3.6 Roedd cyngor y Prif Swyddog Meddygol, a amlinellwyd yn y papur, yn dangos bod y cyfraddau heintio yn sgil yr amrywiolyn Omicron yn parhau i fod ar drai a bod y lefel uchel o frechu yng Nghymru yn cyfyngu ar nifer y bobl a oedd yn profi niwed uniongyrchol difrifol o'r feirws. Credai ei bod yn amserol dileu gweddill y gofyniad cyfreithiol mewn perthynas â defnyddio gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal; fodd bynnag, argymhellodd y dylid parhau i ddefnyddio gorchuddion o'r fath a chyfyngu ar nifer yr ymwelwyr â lleoliadau gofal iechyd.

3.7 Gan ystyried y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd, gyda chyfraddau achosion a derbyniadau i'r ysbyty yn parhau i ostwng, daeth y Cabinet i'r casgliad nad oedd bellach yn gymesur i gadw'r Rheoliadau. Felly, cytunwyd y dylid caniatáu i'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal ddod i ben ar 30 Mai, i'w ddisodli gan ganllawiau, yn debyg i'r dull a fabwysiadwyd gan weddill y DU.

3.8 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen â'r penderfyniadau a wneir gan Weinidogion a chyfarwyddo cyfreithwyr yn unol â hynny.

Eitem 4: Adroddiad y Prif Economegydd

4.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Brif Economegydd y Llywodraeth, Jonathan Price, i roi trosolwg o'r sefyllfa economaidd.

4.2 Roedd y farchnad lafur yn parhau i berfformio'n dda, gyda diweithdra isel a swyddi gwag ar eu huchaf erioed. Yn ystod y pandemig roedd y farchnad lafur yng Nghymru wedi perfformio'n well nag yn y DU, ond roedd nifer uchel o swyddi gwag mewn meysydd â chyflogau is ac nid oedd cyflogau'n cyd-fynd â chwyddiant. Roedd gwahaniaethau rhanbarthol hefyd, gyda rhai sectorau, yn enwedig ym maes twristiaeth, yn methu â recriwtio. Fodd bynnag, roedd rhagolygon Banc Lloegr yn dangos bod disgwyl i lefelau diweithdra gynyddu dros y tymor canolig wrth i'r economi arafu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

4.3 Pryder arbennig oedd y cynnydd mewn anweithgarwch a ysgogwyd yn bennaf gan y rhai rhwng 50 a 64 oed.

4.4 Roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr wedi bod yn cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn prisiau ynni a bwyd oherwydd cyfyngiadau cyflenwi byd-eang sy'n gysylltiedig â'r rhyfel yn Wcráin ac effaith barhaus y pandemig, gan effeithio ar werth gwirioneddol nid yn unig cyflogau ond hefyd fudd-daliadau.

4.5 Roedd disgwyl i chwyddiant gynyddu ymhellach y flwyddyn honno, gyda'r potensial i ddisgyn yn ôl dros y ddwy flynedd ganlynol, ond roedd lefel uchel o ansicrwydd yn gysylltiedig â’r rhagolygon hyn.

4.6 Disgwylid arafu sydyn mewn twf GDP ar gyfer gweddill 2022 a byddai’r twf yn parhau'n araf dros y ddwy flynedd nesaf wrth i safonau byw defnyddwyr gael eu herydu gan brisiau uwch.

4.7 Roedd y Resolution Foundation yn rhagweld y byddai twf incwm yn negyddol rhwng 2019 a 2024, gyda disgwyl i incwm gwario fod 2% yn is ar ddiwedd y Senedd bresennol. Y disgwyliadau o ran y farchnad oedd y byddai prisiau nwy a bwyd uwch yn parhau dros y tymor hwy ac y byddai hynny’n cael effaith anghymesur ar yr aelwydydd tlotaf, sy'n gwario cyfran uwch o'u hincwm ar fwydydd a thanwydd. Yn ôl yr Institute of Fiscal Studies, roedd aelwydydd incwm is yn byw gyda chyfradd chwyddiant bersonol uwch o tua 10.7%.

4.8 Byddai chwyddiant uwch a thwf isel yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

4.9 Roedd nifer o heriau economaidd hirdymor hefyd, megis sgil-effeithiau Brexit, yr angen i ddatgarboneiddio, gostyngiad yn y gyfradd enedigaethau gyda dibyniaeth gysylltiedig ar fewnfudo, ac effaith pobl yn gweithio gartref.

4.10 Diolchodd y Cabinet i'r Prif Economegydd am ei gyflwyniad.