Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Debra Carter – Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol
  • Clare Blake, Pennaeth Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol
  • Ben Rudge, Pennaeth Polisi Trethi Lleol
  • Ruth Meadows, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Cymunedau
  • Paul Webb, Yr Is-adran Cymunedau
  • Alison Plant, Pennaeth y Tîm VAWDASV

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd.

Eitem 2: Eitemau'r Prif Weinidog

2.1 Nododd y Cabinet fod Cytundeb Cydweithio wedi'i gytuno rhwng y Llywodraeth ac Aelodau Plaid Cymru yn y Senedd. Byddai'r Cytundeb yn cael ei ystyried gan gynhadledd plaid Plaid Cymru dros y Sul, ac os câi ei gymeradwyo, byddai'n dod yn weithredol o 1 Rhagfyr.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet flaenraglen y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 7.45pm ddydd Mawrth a 6pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Diwygio’r Dreth Gyngor

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet ystyried yr opsiynau ar gyfer sicrhau system dreth gyngor decach yng Nghymru a'r diwygiadau rhyng-gysylltiedig i ardrethi annomestig.

4.2 Yn unol ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i geisio diwygio'r dreth gyngor er mwyn sicrhau system decach i bawb ac i gyflwyno'r achos dros ddatganoli trethi mewn modd clir a sefydlog i Gymru, roedd y papur yn amlinellu cynigion i wneud y dreth gyngor yn fwy graddoledig.

4.3 Roedd nifer o awgrymiadau wedi'u hystyried ac roedd hyn wedi'i grynhoi i bedwar opsiwn penodol:

  1. diwygio'r cyfraddau treth ar gyfer y naw band, fel bod pobl sy'n byw mewn cartrefi â gwerth uwch yn talu mwy a bod y rhai mewn cartrefi â gwerth is yn talu llai
  2. ailbrisio pob annedd ddomestig yng Nghymru, gyda mwy o fandiau a chyfraddau treth wedi'u hailstrwythuro i sicrhau system raddoledig
  3. adolygu neu ehangu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a fyddai'n adlewyrchu'n benodol y broses o gyflwyno’r Credyd Cynhwysol
  4. newidiadau i ostyngiadau, diystyriadau, eithriadau a phremiymau, a fyddai'n cyd-fynd â blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth.

4.4 Croesawodd y Gweinidogion y papur a chytuno y byddai cyfundrefn fwy graddoledig yn helpu i gefnogi polisïau'r Llywodraeth a fyddai'n mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Yn ogystal, gyda dyfodiad y Cytundeb Cydweithio, gallai'r Llywodraeth fynd ymhellach na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, gan fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth angenrheidiol.

4.5 Cytunodd y Cabinet, felly, y dylid cynnal proses ailbrisio ar gyfer pob annedd ddomestig, gan ychwanegu bandiau treth ychwanegol. Law yn llaw â hyn, dylid cynnal adolygiad o Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a'r gostyngiadau amrywiol.

4.6 Cytunwyd y dylai swyddogion fwrw ymlaen yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet.

Eitem 5: Y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - CAB(21-22)45

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi'r modd yr aed ati i lunio’r Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ac i gytuno y dylid ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori.

5.2 Roedd yn ofynnol i'r Llywodraeth, o dan Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, lunio Strategaeth Genedlaethol i atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr ar ôl i etholiad i’r Senedd gael ei gynnal.

5.3 Roedd y strategaeth ddrafft yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â thrais gan ddynion a'r casineb at fenywod a’r anghydraddoldeb rhywiol sydd y tu ôl iddo, torri'r cylch a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol VAWDASV. Roedd angen herio agweddau a newid ymddygiad y rhai a oedd yn cam-drin. Ni ddylai menywod orfod newid eu hymddygiad; yn hytrach, dylai camdrinwyr newid eu hymddygiad.

5.4 Roedd VAWDASV yn cael ei gyflawni’n bennaf, ond nid yn unig, gan ddynion yn erbyn menywod. Roedd y strategaeth yn cydnabod nad menywod yw’r dioddefwyr bob amser a’i fod yn gallu effeithio ar ddynion a phobl â hunaniaeth anneuaidd hefyd. Byddai pob cyflawnwr, waeth beth fo'u rhyw, yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd, ond roedd y strategaeth yn cydnabod bod trais gan ddynion yn diffinio VAWDASV a’i bod yn allweddol mynd i'r afael yn briodol â'r dynamig pŵer a rheolaeth a grëir gan anghydraddoldeb rhywiol.

5.5 Roedd gan y Strategaeth ddrafft nifer o amcanion, sef herio agwedd y cyhoedd at VAWDASV drwy godi ymwybyddiaeth a chreu cyfle i drafod yn gyhoeddus gyda’r nod o leihau achosion ohono. Hefyd, gwella ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol. Dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a allai ymddwyn yn gamdriniol neu’n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi aildroseddu.

5.6 At hynny, roedd angen ymyrraeth gynnar, gydag atal yn flaenoriaeth. Dylid hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr, a rhaid oedd cael mynediad cyfartal at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

5.7 Roedd y strategaeth yn cynnig defnyddio dull glasbrint ar gyfer cyflawni, a fyddai'n darparu strwythur a chynllun gweithredu a oedd yn eiddo ar y cyd i sefydliadau datganoledig a rhai nad ydynt wedi'u datganoli ac a fyddai'n seiliedig ar y glasbrintiau llwyddiannus ar gyfer Menywod sy’n Troseddu a Chyfiawnder Ieuenctid. Byddai hyn yn creu ymdeimlad o gydberchnogaeth ar gyfer cyflawni'r strategaeth ac yn annog atebolrwydd yn ogystal â chefnogaeth a her gan gymheiriaid. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy'r strwythur llywodraethu a fyddai’n cael ei oruchwylio gan Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd o dan arweiniad y Gweinidog.

5.8 Croesawodd y Cabinet y papur ac, yn benodol, y gefnogaeth a roddwyd gan Gynghorwyr Cenedlaethol VAWDASV. Hefyd, nodwyd yn benodol y gefnogaeth a dargedwyd at y rhai sy'n cyflawni'r trais a'r camau gweithredu i sicrhau newid ymddygiad.

5.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.