Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd) 
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS 
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS 
  • Julie James AS 
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Mick Antoniw AS 
     
  • Hannah Blythyn AS 
  • Dawn Bowden AS 
  • Jane Bryant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol 
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog 
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet 
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol 
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet 
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig 
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig   
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig 
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion) 
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Diane Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol 
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol   
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad 
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol (eitem 4)
  • Clare Blake, Pennaeth yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol (eitem 4)
  • Dafydd Trystan, Cynghorydd Arbennig (eitem 4)
  • Rebecca Jones, Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 15 Ebrill. 

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymweliadau ac ymrwymiadau'r Prif Weinidog yr wythnos honno.

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n cynnal nifer o ymweliadau yn Sir Benfro yn nes ymlaen yr wythnos honno, a oedd yn cyd-fynd â'i bum blaenoriaeth. Roedd y rhaglen yn cynnwys ymweliad ag ysgol yn canolbwyntio ar brydau ysgol am ddim, a chyfarfod bord gron â chwmnïau ynni yng Ngholeg Sir Benfro, a chyfarfodydd gyda myfyrwyr. Hefyd byddai'r Prif Weinidog yn cwrdd ag arweinydd CLlLC, a ddydd Gwener byddai ef ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn cwrdd ag arweinwyr Awdurdodau Lleol o'r Gogledd a chynrychiolwyr eraill.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5:45pm ddydd Mawrth a thua 5:35pm ddydd Mercher. 

3.2 Cafodd Aelodau'r Cabinet eu hatgoffa gan y Trefnydd a'r Prif Chwip y byddai Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael ei gynnal ddydd Mercher 8 Mai.

Eitem 4: Diwygio'r Dreth Gyngor

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet y papur a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi canlyniadau'r ymgynghoriad ar Gam 2 diwygio'r Dreth Gyngor ac, o ran y camau nesaf, benderfynu pan amserlen y dylid ei defnyddio i weithredu newidiadau.

4.2 Roedd ymgynghoriad Cam 1 yn 2022 wedi gosod disgwyliadau ar gyfer diwygio'r Dreth Gyngor yng Nghymru, ac roedd cynnydd sylweddol wedi ei wneud ers hynny. Cynigiodd yr ymgynghoriad Cam 2 ym mis Tachwedd amrywiaeth o ddulliau gweithredu ynghyd â dewisiadau o ran gwahanol linellau amser. 

4.3 Roedd ystod o systemau wedi eu nodi yn y papur, yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS).

4.4 Felly, cytunodd y Cabinet i weithredu newidiadau ar 1 Ebrill 2028. Fodd bynnag, roedd yn bwysig diwygio'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) i adlewyrchu'r dyddiad gweithredu hwn. 

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ebrill 2024