Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS (Cadeirydd 21 Rhagfyr - paragraffau 3:13 a 3:14)
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS (ymddiheuriadau 20 Rhagfyr)
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS (ymddiheuriadau 21 Rhagfyr)

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Dan Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Fliss Bennee, Cyd-Gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gyflawni'r GIG
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn wedi COVID-19
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr
  • Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Rob Holt, Dirprwy Gyfarwyddwr Digwyddiadau Cymru (20 Rhagfyr)
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau (21 Rhagfyr)
  • Duncan Hamer, Prif Swyddfa Weithredu Busnes a Rhanbarthau (21 Rhagfyr)
  • Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu Twristiaeth a Chwaraeon (21 Rhagfyr)

20 Rhagfyr

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 a 16 Rhagfyr.

Eitem 2: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau’r Coronafeirws (Rhif. 5) – 21 Rhagfyr 2021 CAB(20-21)63

2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur briffio, a oedd yn amlinellu'r opsiynau o ran y dull o ymdrin â digwyddiadau mawr gyda'r nod o fynd i'r afael â lledaeniad yr amrywiolyn newydd, Omicron.

2.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau’n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

2.3 Adroddodd y Prif Weinidog fod cyfarfod COBRA wedi’i gynnal y diwrnod cynt, ac mai amhendant oedd y canlyniad. Cafwyd cynnig o adnoddau pellach i’r Llywodraethau Datganoledig.

2.4 Nodwyd bod Cabinet y DU yn cyfarfod eto y prynhawn hwnnw i drafod ei ymateb i Omicron, gan fod yr achosion yn cynyddu’n gyflym mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn Llundain, Manceinion a Bryste, a hynny’n cael effaith ar nifer y bobl a oedd yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Mater o amser fyddai hi cyn bod cynnydd sylweddol mewn achosion yng Nghymru.

2.5 O ystyried natur drosglwyddadwy gynyddol Omicron a'r potensial y byddai’n dianc rhag effaith y brechlyn, gallai fod mwy o risg o ddigwyddiadau a fyddai’n heintio llawer o bobl. Nid y digwyddiadau eu hunain yn unig oedd yn peri’r risg fwyaf, ond y cymysgu rhwng pobl cyn, yn ystod ac wedi’r digwyddiadau.

2.6 Cafwyd trafodaeth eang. Daeth y Gweinidogion i'r casgliad, o ystyried y cynnydd disgwyliedig yn yr achosion Omicron a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar y GIG ac ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, drwy absenoldebau staff, fod angen cyflwyno mesurau a fyddai'n arafu’r cyfraddau trosglwyddo. Felly, cytunwyd y dylid cau pob digwyddiad o dan do ac yn yr awyr agored i wylwyr o ddydd San Steffan ymlaen. Byddai angen ystyried y goblygiadau i leoliadau o dan do eraill, megis sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

2.7 Cytunwyd y dylai swyddogion fwrw ymlaen â'r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion.

21 Rhagfyr

3.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y newid yn y cyd-destun ers i'r Cabinet gyfarfod ddiwethaf, gyda Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno mesurau tebyg i Gymru ar gyfer digwyddiadau awyr agored a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1bn ar gyfer busnesau yn Lloegr sy'n cael eu taro gan achosion COVID-19 newydd. Roedd Cymru eisoes wedi cael cynnig cymorth ychwanegol gan Drysorlys y DU ddydd Sul, a fyddai'n caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno pecyn cymorth mwy hael.

3.2 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn nodi nifer o faterion a restrir o dan Lefel Rhybudd 2 y byddai angen eu datrys.

3.3 O ran mesurau rhesymol, cytunodd y Cabinet i adfer y gofyniad i gadw pellter corfforol o 2m fel cam penodol yn y rheoliadau y mae'n rhaid ei gymryd cyn mesurau eraill. Fodd bynnag, byddai'n bwysig egluro bod mesurau lliniaru eraill yn bosibl pe na bai busnesau'n gallu cyflwyno pellter corfforol. O ystyried y goblygiadau penodol i drafnidiaeth gyhoeddus, cytunwyd y dylai’r rheoliadau eithrio’r safloedd hynny rhag y rhwymedigaethau a oedd yn gymwys i 'fangreoedd rheoleiddiedig’.

3.4 Cytunwyd hefyd y dylai mesurau penodol fod yn gymwys i safleoedd trwyddedig a mannau y mae pobl yn dod â'u halcohol eu hunain iddynt. Yn ogystal â rheoli mynediad, ailgyflwyno gwasanaeth bwrdd a chasglu manylion cyswllt, byddai’n rhaid i fusnesau ofyn i gwsmeriaid wisgo gorchuddion wyneb wrth symud o gwmpas.

3.5 At hynny, dylid cadw'r ystod bresennol o fesurau rhesymol enghreifftiol mewn rheoliadau, gan bwysleisio mewn canllawiau ac wrth gyfathrebu â rhanddeiliaid fod angen rhoi mesurau diogelu ychwanegol ar waith erbyn 27 Rhagfyr. Byddai gofynion penodol i sectorau hefyd.

3.6 O ran ymgynnull mewn anheddau preifat, cytunodd y Gweinidogion y dylid mabwysiadu dull mwy hyblyg, gan ganolbwyntio ar leihau cysylltiadau a chymryd prawf llif unffordd cyn ymweld â phobl. Fodd bynnag, dylid cael canllawiau eglurhaol penodol i helpu pobl i aros yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

3.7 Ystyriodd y Cabinet y gofynion ar gyfer ymgynnull mewn mannau cyhoeddus o dan do a chytunwyd y dylai’r rheol chwech o bobl o dan y Lefel Rhybudd 2 wreiddiol gael ei hadfer yn y rheoliadau. 

3.8 Cadarnhawyd y dylai'r rheolau ar gyfer ymgynnull yn yr awyr agored adlewyrchu'r gofynion ar gyfer anheddau preifat ac y dylai’r cyfyngiadau ar lety gwyliau ddilyn y rheoliadau blaenorol.

3.9 Cytunodd y Cabinet hefyd y dylid adfer darpariaethau Lefel Rhybudd 2 ar gyfer digwyddiadau mewn mannau cyhoeddus, sef hyd at 50 o fynychwyr yn yr awyr agored a 30 o dan do. Byddai'r eithriadau blaenorol yn dal i fod yn gymwys; felly hefyd y darpariaethau na ddylid yfed na gwerthu alcohol mewn digwyddiadau rheoleiddiedig o’r fath. Dylai’r un terfynau gael eu cynnwys fel trosedd mewn anheddau preifat, a fyddai'n caniatáu i'r Awdurdodau perthnasol atal partïon tŷ pe bai nifer y mynychwyr yn uwch na’r terfynau y cytunwyd arnynt.

3.10 Byddai’r terfynau'n cael eu dileu ar gyfer pobl sy'n mynychu priodasau a digwyddiadau wedi angladd, ond byddai'r niferoedd yn cael eu pennu gan allu'r lleoliad i gydymffurfio â phellter cymdeithasol a mesurau rhesymol eraill gan gynnwys gofyniad i’r holl westeion wneud prawf llif unffordd cyn mynychu’r digwyddiad. Dylai lleoliadau adloniant i oedolion a chanolfannau sglefrio iâ aros ar agor i'r cyhoedd, gyda mesurau lliniaru ychwanegol ar waith.

3.11 Cytunodd y Gweinidogion y dylid cymhwyso’r rheol chwech o bobl i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd er mwyn caniatáu i grwpiau o bobl eistedd gyda'i gilydd, ac y dylid cynnal asesiadau risg penodol ar gyfer perfformiadau mewn sesiynau lletygarwch.

3.12 O ran cymorth ariannol, byddai £120m ar gael bellach ar gyfer clybiau nos, digwyddiadau, busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y symudiad i Lefel Rhybudd 2 a byddai arian ychwanegol i gefnogi lleoliadau chwaraeon, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol y mae'r pandemig yn effeithio arnynt.

3.13 Gadawodd y Prif Weinidog y cyfarfod i friffio arweinydd Plaid Cymru ar y penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet. Yn ei absenoldeb, cytunodd y Gweinidogion na ddylid ymestyn y defnydd o bàs Covid ar hyn o bryd ac y dylid meddwl ymhellach am ei ehangu pan gâi’r cyfyngiadau eu codi.

3.14 Nododd y Gweinidogion fod gweithgareddau awyr agored tymhorol, megis ‘Gŵyl y Gaeaf/Winter Wonderland', yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau o dan y gyfraith. Byddai'n rhaid i drefnwyr ddilyn y rheolau penodol perthnasol pe baent yn ceisio newid eu defnydd i fod yn lleoliadau lletygarwch.

3.15 Dychwelodd y Prif Weinidog i'r cyfarfod.

3.16 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n gwneud penderfyniad ynghylch pryd y byddai'r rheoliadau diwygiedig yn dod i rym cyn y Cyfarfod Llawn, a oedd wedi'i drefnu ar gyfer 1:30pm drannoeth.

3.17 Cytunwyd y dylai swyddogion fwrw ymlaen â'r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion.