Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 a 10 Chwefror 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

2.1 Diolchodd y Prif Weinidog i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a oedd wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddai'n rhoi'r gorau iddi yn etholiad nesaf y Senedd.

Cyfarfodydd a digwyddiadau yn Llundain

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi mynychu nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau yn Llundain yr wythnos flaenorol.

2.3 Roedd y Prif Weinidog wedi cyfarfod â holl Lysgenhadon yr UE ddydd Mercher cyn eu hymweliad â Chymru ddechrau mis Ebrill.

2.4 Tra oedd y Prif Weinidog yn Llundain cwrddodd hefyd â Changhellor y Trysorlys.  Cafwyd cyfarfod hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, gan drafod tanariannu hanesyddol y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Presenoldeb yn y Pwyllgor Materion Cymreig

2.5 Ddydd Mercher fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd fynychu'r Pwyllgor Materion Cymreig i ddarparu tystiolaeth am ei blaenoriaethau, gwaith Llywodraeth Cymru a chysylltiadau rhynglywodraethol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn a nododd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau ar ran y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni ddydd Mawrth, a oedd yn sâl. Cafwyd yr amser pleidleisio ei drefnu ar gyfer 6pm ddydd Mawrth a byddai'n digwydd tua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Pecyn Cyllideb Derfynol 2025-2026

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a ofynnodd i'r Cabinet gymeradwyo pecyn Cyllideb Derfynol 2025-26, gan gynnwys dyraniadau lefel MEG. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd gytuno ar y negeseuon allweddol i gefnogi'r Gyllideb a nodi'r camau nesaf wrth gwblhau'r dogfennau ategol.

4.2 Roedd newidiadau cyfyngedig o’r Gyllideb Ddrafft, yn rhannol gan nad oedd Trysorlys y DU eto wedi cadarnhau'r adnoddau ychwanegol y byddai'n eu darparu i ddiwallu effaith cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar y sector cyhoeddus.

4.3 Fodd bynnag, cynyddwyd rhai dyraniadau yn yr Ail Gyllideb Atodol i ymateb i danwariant yn ystod y flwyddyn sy'n dod i'r amlwg, gan sicrhau bod yr uchafswm yn cael ei gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf. O'r £50 miliwn sy'n cael ei ddyrannu, byddai £18 miliwn yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno gwariant cyfalaf mewn trafnidiaeth yn ogystal â sicrhau y gellid cynnal y llif o gynigion ar gyfer buddsoddi mewn teithio llesol yn y dyfodol. Yn ogystal, byddai £32 miliwn ar gyfer addysg, i gefnogi Safonau Ysgolion drwy Grant Addysg yr Awdurdod Lleol, ac yn benodol Prifysgolion.

4.4 Croesawodd y Cabinet yr adnoddau ychwanegol a amlinellir yn y papur, y rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â'r cytundeb gwleidyddol i alluogi'r basio'r Gyllideb.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai'r Gyllideb Derfynol yn cael ei chyhoeddi ddydd Iau yr wythnos honno ac y byddai dadl yn cael ei chynnal arni ar 4 Mawrth.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2025