Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS (rhan o'r cyfarfod)
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Dawn Bowden AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog a Brexit
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd TAC
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Phil Elkin, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ailgychwyn
  • Ifan Evans, Cyfarwyddwr, Technoleg ac Arloesedd Iechyd
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Gemma Nye, swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol

Eitem 1: Adolygiad Interim o Reoliadau’r Cyfyngiadau Coronafeirws – 16 Mehefin 2021 CAB(21-22)10

1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet ystyried a ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau i reoliadau cyfyngiadau’r coronafeirws yng ngoleuni'r dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf ar amrywiolyn Delta a'r sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n datblygu.

1.2 Atgoffwyd Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder a lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Roedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos.

1.3 Roedd y Cabinet wedi cytuno'n flaenorol i symud i Lefel Rhybudd 1 mewn dau gam, o ystyried lefel yr ansicrwydd o ran amrywiolyn Delta. Roedd cam cyntaf codi’r cyfyngiadau wedi digwydd ar 7 Mehefin, a disgwylid i'r ail gam ddechrau o 21 Mehefin. Fodd bynnag, cytunwyd y dylid cynnal adolygiad interim yr wythnos hon.

1.4    Roedd achosion o COVID-19 wedi bod yn cynyddu’n gynt yng Nghymru yn ystod y pythefnos diwethaf a'r disgwyl oedd y byddai hyn yn parhau. Roedd yr ymchwydd mewn achosion yn fwyaf amlwg mewn grwpiau iau, gan adlewyrchu’r ffaith bod trosglwyddo’n digwydd ymhlith y rhai a oedd leiaf tebygol o fod wedi cael eu brechu ac a oedd yn cymysgu mwy yn gymdeithasol. Roedd modd i grwpiau oedran hŷn gael eu heintio hefyd, ond roedd y cyfraddau'n is ac roedd yn debygol y byddai’r rhaglen frechu yn darparu rhywfaint o amddiffyniad.

1.5 Roedd nifer y cleifion yn yr ysbyty â COVID -19 yn isel ar hyn o bryd ond nid oedd yn glir eto i ba raddau yr oedd brechu wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng trosglwyddo yn y gymuned a salwch difrifol.

1.6 O ystyried yr ansicrwydd parhaus hwn, roedd y Prif Swyddog Meddygol wedi nodi y byddai gohirio codi'r cyfyngiadau ymhellach am gyfnod byr yn galluogi i gyfran fwy o oedolion fanteisio ar y cynnig o ail ddos o'r brechlyn, a fyddai'n rhoi llawer mwy o amddiffyniad i'r boblogaeth. Byddai'n caniatáu gwell dealltwriaeth o ddeinameg trosglwyddo a niwed yn Lloegr a'r Alban, a oedd rhwng wythnos a phythefnos ar y blaen i Gymru o ran y don bresennol o ymchwydd yn y feirws.

1.7 Roedd angen cyfleu’r neges i’r cyhoedd y dylent barhau â’r ymddygiadau amddiffynnol personol yn ystod yr haf ac i mewn i'r hydref. Yn ogystal, roedd rôl bwysig o hyd i hunanynysu a phrofi i unrhyw un a oedd yn datblygu symptomau, golchi dwylo’n rheolaidd, defnyddio gorchuddion wyneb mewn lleoliadau gorlawn dan do, a chadw pellter cymdeithasol, er mwy lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws. Yn ogystal, byddai pwysigrwydd mesurau lliniaru amgylcheddol, megis awyru, yn cyfrannu at wneud lleoliadau gwaith a chymdeithasol yn ddiogel o ran COVID-19.

1.8 Y consensws gan TAG oedd argymell oedi tebyg o un cylch adolygu cyn llacio rhagor.

1.9 Felly, cytunodd y Cabinet i oedi'r symudiad llawn i Lefel Rhybudd 1 tan o leiaf yr adolygiad nesaf, a oedd i fod i gael ei gynnal erbyn 15 Gorffennaf.

1.10 Roedd nifer o faterion eraill y byddai angen i Weinidogion eu hystyried. Yn gyntaf, a ddylid caniatáu ailagor yr unig ganolfan sglefrio iâ fasnachol gweithredol yng Nghymru. Daeth y Cabinet i'r casgliad y byddai'n anfon y neges anghywir pe caniateid i'r ganolfan ailagor i'r cyhoedd ar adeg pan oedd y cyfyngiadau ar ymgynnull dan do yn parhau.

1.11 O ran priodasau, derbyniadau cysylltiedig a derbyniadau angladdau, cytunwyd y dylai nifer y gwesteion gael eu pennu yn ôl maint y lleoliad a'r gallu i ddilyn camau cadw pellter cymdeithasol a rheolau eraill.

1.12 Roedd y papur yn amlinellu cyfres o opsiynau mewn perthynas ag ailagor canolfannau addysg awyr agored preswyl. Roedd Gweinidogion o blaid yr opsiwn o archwilio’r posibilrwydd o ddiwygio'r rheoliadau i ganiatáu swigod ystafell ddosbarth, ond dim grwpiau eraill, gydag awgrym y dylid cyfyngu hyn i blant ysgol gynradd. Cytunwyd bod angen trafod â'r sector i ganfod beth oedd yn hyfyw yn ariannol.

1.13 Cytunodd y Gweinidogion i ddiwygio'r rheoliadau i ddarparu eithriad i ganiatáu i ddigwyddiadau adloniant bach 'ar lawr gwlad', megis lleoliadau comedi a cherddoriaeth weithredu o fewn Lefel Rhybudd 2 ac yn is o 21 Mehefin.

1.14 Nododd y Gweinidogion y canllawiau diwygiedig ar gyfer ymweld ag ysbytai.

1.15 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen yn unol â pharagraff 4.10.