Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad
  • Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
  • Rhiannon Ivens, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Mai / Cabinet approved the minutes of 9 May.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i amserlennu ar gyfer 5:30pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu 2022-2026 CAB(21-22)118

3.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gytuno i gyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu.

3.2 Roedd y penderfyniad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu wedi'i wneud ym mis Awst 2021. Ymatebodd y cynllun yn rhannol i argymhellion adroddiad Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu a gwerthusiad o'r rhaglen Gwella Bywydau.

3.3 Ym mis Mehefin 2021, ar ôl derbyn yr adroddiad a'r gwerthusiad, roedd y Dirprwy Weinidog wedi trafod ei 43 o argymhellion gyda'r Grŵp ac wedi cael dealltwriaeth o'r heriau a'r trafferthion a wynebir gan bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn ystod y pandemig.

3.4 Roedd COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar bobl ag anableddau dysgu ac roeddent wedi wynebu mwy o risgiau ac anawsterau iechyd wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.  Collwyd strwythurau cymorth, megis gwasanaethau dydd Awdurdodau Lleol, ac roedd pobl wedi dod yn fwyfwy agored i unigrwydd ac ynysigrwydd, tra'n wynebu anawsterau o ran cael mynediad at gyngor ac arweiniad priodol a hygyrch a'u derbyn.

3.5 Felly, roedd llawer o'r blaenoriaethau yn y cynllun yn adlewyrchu'r camau a nodwyd i leihau effaith barhaus y pandemig.

3.6 Ar ben hynny, nododd y Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu flaenoriaethau polisi strategol y Llywodraeth ar gyfer gweddill y Senedd.  Datblygwyd y cynllun a'r blaenoriaethau polisi yn dilyn cydweithio a chydgynhyrchu sylweddol â phartneriaid cyflawni, gan gynnwys ymarfer ymgysylltu chwe wythnos wedi'i dargedu gyda darparwyr gwasanaethau'r sector cyhoeddus, partneriaid y trydydd sector a rhanddeiliaid.  Yn ogystal â'r ymgysylltu â Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu, ymgynghorwyd ag unigolion ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

3.7 Roedd y blaenoriaethau polisi yn adlewyrchu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i leihau anghydraddoldebau a gwella gwasanaethau i bobl ag anableddau, gan greu cymdeithas fwy cyfartal a theg. Roedd llawer o'r camau gweithredu hefyd yn adeiladu ar flaenoriaethau a nodwyd sef arloesi digidol, atal, ymyrraeth gynnar a gwella gwasanaethau.

3.8 Roedd nifer o'r blaenoriaethau yn y cynllun yn adlewyrchu camau gweithredu etifeddol o'r rhaglen tair blynedd flaenorol Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau, a ddaeth i ben yn ffurfiol ym mis Mawrth 2021, ac effeithiodd y pandemig arnynt yn sylweddol yn ystod y flwyddyn olaf.

3.9 Croesawodd y Cabinet y papur ac yn benodol y dull cydweithredol o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu, ynghyd â'r ymrwymiad i sicrhau bod anghenion unigolion ag anawsterau dysgu o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn cael eu diwallu.

3.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai Datganiad Llafar yn cyhoeddi'r cynllun ar 24 Mai.