Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Llywodraeth Leol (eitem 4)
  • Clare Blake, Pennaeth yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol (eitem 4)
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 4)
  • Emily Edwards, Cynghorydd Arbennig (eitem 4)
  • Ed Sherriff, Dirprwy Gyfarwyddwr Ynni (eitem 5)
  • Jennifer Pride, Pennaeth Cyflenwi Ynni (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Datganiad ynghylch y sefyllfa ariannol ar gyfer 2023-24

2.1 Atgoffodd y Prif Weinidog y Cabinet y byddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar i’r Senedd y diwrnod canlynol ynghylch y sefyllfa ariannol ar gyfer 2023-24.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi fod amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 6:30pm ddydd Mawrth a thua 5:55pm ddydd Mercher

Eitem 4: Diwygio’r Dreth Gyngor: ymgynghoriad cam 2

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai’n dechrau ar 14 Tachwedd. Byddai’r ymgynghoriad hwnnw yn ceisio barn ar dri dull posibl ar gyfer system Dreth Gyngor yn y dyfodol.

4.2 Roedd yr ymgynghoriad bellach yn cyflwyno tri dewis eang ynghylch graddfa a chyflymder y diwygio. Fodd bynnag, roedd opsiynau di-rif ynghylch y dull o ailbrisio ac roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gwahodd ymatebwyr i awgrymu opsiynau eraill.

4.3 Roedd y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio yn ymrwymo i ddarparu system Dreth Gyngor decach a mwy graddoledig. Roedd y dystiolaeth yn glir mai hwn oedd un o’r camau mwyaf arwyddocaol y gallai’r Llywodraeth eu cymryd i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cyfoeth yng Nghymru, gydag arbenigwyr yn cytuno y byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar aelwydydd a chymunedau.

4.4 Roedd rhai opsiynau’n awgrymu y gallai pobl sy’n byw yn yr eiddo gwerth isaf weld eu biliau’n gostwng mwy na £500 y flwyddyn. Mae llawer o’r bobl hynny yn colli allan ar hyn o bryd ar ystod o gynlluniau cymorth sy’n dibynnu ar brawf modd.

4.5 Croesawodd y Cabinet y papur a diolchodd i bawb a ddatblygodd y cynigion ymgynghori.

4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Anghenion Cymru o ran seilwaith y grid trydan er mwyn cyrraedd sero net

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno y byddai angen rhagor o seilwaith ar gyfer y grid er mwyn galluogi Cymru i gyrraedd sero net. Gofynnwyd hefyd i’r Gweinidogion ystyried y dull o ddatblygu egwyddorion ar gyfer pennu pa mor dderbyniol yw cynigion ar gyfer grid newydd. Byddai angen dull gweithredu trawslywodraethol o nodi rhanddeiliaid perthnasol a’u cynnwys wrth ddatblygu’r broses.

5.2 Roedd angen brys am seilwaith trydan newydd yng Nghymru ac roedd yn bwysig sicrhau a chynnal cefnogaeth pobl a chymunedau ar gyfer buddsoddiad yn y grid sy’n gymesur ac wedi’i gynllunio’n dda.

5.3 Roedd llawer o bobl ar draws amrywiaeth o sectorau yng Nghymru wedi nodi eu bod wedi wynebu heriau wrth gysylltu â gridiau ynni dros y degawd diwethaf, gyda llawer o gartrefi heb gysylltiad â’r grid nwy ac yn dibynnu ar olew ac LPG drud, ac eraill â chyflenwad trydan annibynadwy.

5.4 Roedd prinder buddsoddiad gan y DU mewn llinellau trawsyrru newydd yn golygu bod llawer o ddefnyddwyr, fel datblygiadau tai newydd a safleoedd diwydiannol, a oedd yn ceisio newid o danwyddau ffosil i drydan, yn canfod na fyddai’n bosibl iddynt gysylltu â’r grid tan y 2030au. Roedd hyn yn peri risg sylweddol i’r gallu i gyflawni targedau sero net.

5.5 Roedd symud i system ynni carbon isel yn golygu ail-wifro’r rhwydweithiau trydan yn llwyr, o gysylltiadau â chartrefi i linellau trawsyrru mawr. Byddai hefyd angen newid rhwydweithiau nwy, gan gynnwys seilwaith newydd posibl ar gyfer hydrogen.

5.6 Roedd cydnabyddiaeth gynyddol bellach o’r angen brys i fuddsoddi mewn rhwydweithiau ar draws y sector ynni ac os oedd disgwyl i benderfyniadau’r DU ynghylch rhwydweithiau ystyried anghenion Cymru, byddai’n rhaid i ofynion clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth fod ar gael yn gyhoeddus.

5.7 Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gynllunio ar gyfer system ynni carbon isel yng Nghymru. Byddai hyn yn helpu i fanteisio ar y cyfleoedd i ddarparu trydan a oedd yn cefnogi trefniadau cyflenwi lleol. Ar ben hynny, roedd Awdurdodau Lleol yn datblygu cynlluniau ynni lleol, tra bod gweithredwyr rhwydwaith lleol yn chwarae rhan fawr yn y broses ac wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cynlluniau hyn i lywio eu darpariaeth eu hunain.

5.8 Fodd bynnag, y grid trawsyrru ar raddfa fawr oedd yn cyflwyno’r her go iawn. Mae’r Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu wedi gwneud popeth o fewn eu gallu a bellach roedd angen capasiti ychwanegol arnynt ar y lefel uwch. Roedd cynllun yn cael ei ddatblygu ar gyfer y DU gyfan a byddai data’n cael eu rhannu gyda’r Grid Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn ystyried blaenoriaethau Gweinidogion Cymru.

5.9 Croesawodd y Cabinet y papur a chytunodd fod angen gwella ac uwchraddio’r seilwaith yng Nghymru er mwyn sicrhau dyfodol carbon isel, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle’r oedd problemau cyflenwi cyfredol yn golygu na allai busnesau ehangu ac na ellid gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

5.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet

Hydref 2023