Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg  
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Amgylcheddol (eitem 4)
  • Martin McVay, Rheolwr Polisi Sŵn a Chemegion (eitem 4)
  • Matt Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol ac Integreiddio Gofal Cymdeithasol (eitem 5)
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio (eitem 6)
  • James Hooker, Pennaeth Polisi Tai y Sector Preifat (eitem 6)
  • Emily Edwards, Cynghorydd Arbennig (eitem 6)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 24 Ebrill.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y Coroni

2.1 Rhannodd y Prif Weinidog ei argraffiadau yn sgil mynychu digwyddiad Coroni'r Brenin Charles III. Roedd Cymru wedi cael ei chynrychioli'n dda yn ystod y gwasanaeth, drwy'r defnydd o'r Gymraeg ac yn y gerddoriaeth, ac ymhlith y gynulleidfa. 

Y Cytundeb cydweithio

2.2 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i'r Cabinet ei fod wedi siarad ag arweinydd dros dro Plaid Cymru ac wedi cadarnhau y dylai'r Cytundeb Cydweithio barhau ar waith, am ei fod yn drefniad rhwng y ddwy blaid wleidyddol.

2.3 Roedd yn bwysig cofnodi bod y Llywodraeth yn diolch i Adam Price AS am ei ddull cadarnhaol o ymdrin â'r Cytundeb Cydweithio.

Gweithredu diwydiannol gan Prospect

2.4 Atgoffodd y Prif Weinidog y Gweinidogion y byddai streic arall yn cael ei gynnal gan Undeb Llafur Prospect ar 7 Mehefin. Ni fyddai hyn yn effeithio ar fusnes y Senedd. Roedd y Cyfarfod Llawn wedi ei drefnu fel arfer, felly byddai disgwyl i Weinidogion ymateb i gwestiynau a chymryd rhan mewn dadleuon.

Gweithredu Diwydiannol gan Undebau'r GIG

2.5 Nododd y Cabinet y byddai canlyniad y pleidleisiau pellach ar ragor o weithredu diwydiannol yn y GIG yn cael ei gyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn a nododd y byddai'r amser pleidleisio yn digwydd tua 4:15pm ddydd Mawrth. Roedd seibiant byr yn debygol o ddilyn hwnnw, cyn cychwyn Cyfnod 3 o'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Roedd tair awr wedi cael ei neilltuo ar gyfer hyn. Trefnwyd cynnal y pleidlais am 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 - CAB(22-23)68

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar fersiwn ddrafft Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-28 ar gyfer ymgynghoriad i'w gynnal cyn toriad yr haf. Byddai'r cynllun terfynol yn cael ei fabwysiadu fel y strategaeth genedlaethol ar seinweddau, a fyddai'n ofynnol o dan Ran 2 o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).

4.2 Roedd cynlluniau gweithredu sŵn a seinwedd pum mlynedd wedi cael eu cyhoeddi yn 2013 a 2018, yn rhannol er mwyn cyflawni dyletswyddau o dan y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol. Byddai'r cynllun newydd bellach yn hollol statudol, yn unol â'r strategaeth genedlaethol ar seinweddau o dan Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) arfaethedig.

4.3 Cymru oedd y cyntaf ymhlith gwledydd y DU i gydnabod seinweddau mewn deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol. Nododd y Llywodraeth y niwed yr oedd gormod o sŵn yn ei achosi, yn ogystal â’r effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl o gael y seiniau iawn yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.

4.4 Roedd ymateb y rhanddeiliaid i'r syniad o gynnwys darpariaethau seinwedd yn y Bil wedi bod yn hynod gadarnhaol. Fodd bynnag, roedd hyn yn golygu newid y ffordd o weithio. Yn y Cynllun, gwnaed ymdrech i osgoi gosod unrhyw ymrwymiadau newydd ar gyrff cyhoeddus. Yn lle hynny, ceisiwyd llywio pontio llyfn i gymhwyso dulliau seinwedd yn ehangach, a hynny ar sail y ffyrdd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

4.5 Croesawyd y papur gan y Cabinet, a'r effaith gadarnhaol y byddai'r polisi yn ei chael ar lesiant ac iechyd meddwl pobl, yn arbennig pobl niwrowahanol.

4.6 Nodwyd y byddai polisïau'r Llywodraeth, megis y cynlluniau ar gyfer terfyn cyflymder diofyn o 20myh ar ffyrdd a oedd yn cael eu defnyddio gan gerddwyr a beicwyr yn ogystal â cheir yn helpu i gyfrannu at y polisi.

4.7 Cytunwyd y byddai angen, fel rhan o'r broses ymgynghori, siarad ag amrywiaeth eang o grwpiau, gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig, er mwyn nodi a lliniaru unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Nodwyd y byddai'r cynllun terfynol yn cynnwys Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.

4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Meithrin gallu drwy ofal cymunedol – Ymhellach, Yn Gyflymachre – Further Faster

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno y dylid arfer dull integredig datblygedig o gefnogi pobl hŷn a phobl sy'n byw ag eiddilwch.

5.2 Roedd misoedd y gaeaf diwethaf wedi bod y cyfnod mwyaf heriol i'r GIG a gofal cymdeithasol ers i gofnodion ddechrau, gan roi pwysau sylweddol ar y system ysbytai.

5.3 Roedd hyn er gwaethaf ymdrechion enfawr y gweithlu a'r ffaith bod y GIG wedi cymryd blaenoriaeth yng nghyllideb y Llywodraeth dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, gyda chyfran gynyddol o'r boblogaeth yn byw ag eiddilwch, dyma fater y byddai bellach angen mynd i'r afael ag ef.

5.4 Roedd pwyslais y Llywodraeth ar welyau gofal llai dwys dros y gaeaf wedi cael effaith gadarnhaol, gan greu 678 o welyau a phecynnau cyfatebol o ofal yn y gymuned.

5.5 Roedd y weledigaeth a nodwyd yn ‘Cymru Iachach’ o system iechyd a gofal sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn gallu byw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau eu hunain yn parhau ar waith, ond roedd angen cyflymu'r gwaith o gyflawni mesurau i gryfhau gofal sy'n seiliedig ar leoedd. Roedd hefyd angen meddwl yn greadigol am ffyrdd newydd o gefnogi pobl sy'n byw â nifer o wahanol gyflyrau iechyd.

5.6 Yng nghyd-destun y pwysau ariannol, roedd adnoddau'n cael eu clustnodi a'u cyfeirio at y maes hwn er mwyn gwella cydnerthedd y system gyfan cyn y gaeaf. Byddai hyn hefyd yn cyfrannu at leihau rhestrau aros.

5.7 Tynnodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at y ffaith bod pob rhan o'r system iechyd a gofal wedi profi cyfnod heriol iawn. Er gwaethaf y pwysau mewn ysbytai, ar gyfer pob person yn yr ysbyty a oedd yn aros am becyn gofal er mwyn gallu mynd adref, roedd saith person yn y gymuned a oedd hefyd yn aros am becyn gofal. Pe na chymerid camau i fynd i'r afael â'r pecynnau hyn, gallai arwain at orfod derbyn mwy o gleifion i'r ysbyty.

5.8 Felly, roedd yn hanfodol bod y GIG a Llywodraeth Leol yn gweithio gyda'i gilydd i  nodi cyfleoedd i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithiol ym mhob rhan o'r system drwy arfer ffordd integredig o weithio.

5.9 Roedd gwelliannau o ran ymyriadau ac o ran ehangu syniadau da o'r lefel leol i'r lefel ranbarthol a'r lefel genedlaethol. Er enghraifft, roedd y model Asesydd Dibynadwy yn rhoi cyfle, o fewn fframwaith, i amrywiaeth ehangach o staff gwblhau asesiadau gofal cymdeithasol yn yr ysbyty, ac felly'n cyflymu llif y cleifion drwy'r ysbyty. Byddai ‘Ymhellach, Yn Gyflymach’ yn darparu ffocws clir ar beth yn fwy y gellid ei wneud ar gyfer pobl sy'n byw ag eiddilwch, gan gynnwys rôl â rhagor o drefn iddi i'r trydydd sector o ran helpu pobl i gyfrannu yn eu cymunedau eu hunain.

5.10 Croesawodd y Cabinet y cynigion a nodwyd yn y papur, yn arbennig rôl y trydydd sector o ran cefnogi uchelgeisiau.

5.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 6: Papur gwyrdd ar dai digonol a rhenti teg

6.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Papur Gwyrdd ar greu llwybr tuag at dai digonol a oedd yn cynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd.

6.2 Roedd y Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi papur gwyn a fyddai'n cynnwys cynigion ar gyfer hawl i gartrefi digonol gan gynnwys rhenti teg a ffyrdd newydd o sicrhau bod cartrefi'n fforddiadwy i bobl ar incymau lleol. Roedd hyn yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

6.3 Er mwyn dod i ddeall y bylchau posibl mewn tystiolaeth yng nghyd-destun Cymru, roedd ymchwil wedi cael ei chomisiynu gan Ganolfan Gydweithredol ar gyfer Tystiolaeth Tai y DU ac Alma Economics. Casgliad yr ymchwil oedd bod diffyg amlwg mewn tystiolaeth y gellid ei defnyddio er mwyn deall ymddygiad tenantiaid a landlordiaid, data am rentu, incymau lleol a fforddiadwyedd yng Nghymru.

6.4 Er mwyn ychwanegu at yr Asesiadau Effaith Integredig a Rheoleiddiol sy'n ofynnol ac i sicrhau bod y polisïau sy'n cael eu datblygu ar gyfer y papur gwyn yn seiliedig ar dystiolaeth, byddai'r Llywodraeth yn cyhoeddi galwad am dystiolaeth drwy ymgynghoriad Papur Gwyrdd. Byddai'r ymgynghoriad yn ceisio barn pobl a thystiolaeth ar gyfer gwahanol ffyrdd y gellid mynd ati i sicrhau digonolrwydd tai ac yn gofyn am nifer o wahanol faterion cysylltiedig megis fforddiadwyedd rhenti ac ymddygiad tenantiaid a landlordiaid. Byddai hefyd yn gofyn am dystiolaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ffordd o ddiffinio ‘incwm lleol’ a ‘rhent teg’. Roedd grŵp cynghori rhanddeiliaid wedi cael ei sefydlu er mwyn helpu i lunio'r papur gwyrdd.

6.5 I ategu'r broses ymgynghori, byddai cyfres o weithdai gyda thenantiaid a landlordiaid yn cael eu cynnal dros yr haf i gael tystiolaeth ansoddol drwy brofiad bywyd.

6.6 Byddai canlyniad yr ymgynghoriad cael ei ddefnyddio i lunio'r papur gwyn, y bwriedir ei gyhoeddi yn haf 2024.

6.7 Croesawodd y Cabinet y papur.

6.8 Nodwyd bod y sector rhentu preifat yn cyfrif am tua un rhan o bump o'r stoc dai yng Nghymru ar hyn o bryd, a'i bod yn bwysig sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar dai fforddiadwy a digonol, yn arbennig o ystyried yr effaith ar iechyd meddwl.

6.9 Roedd angen sicrhau bod landlordiaid a thenantiaid, yn arbennig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, yn cael eu gwahodd i'r gweithdai arfaethedig.

6.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, a nododd y byddai'r papur gwyrdd yn cael ei gyhoeddi ar 6 Mehefin.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2023