Cyfarfod y Cabinet: 15 Hydref 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 15 Hydref 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS (o eitem 4 ymlaen)
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 7 Hydref.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Uwchgynhadledd Buddsoddi Byd-eang y DU
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi mynychu Uwchgynhadledd Buddsoddi Byd-eang y DU yn Llundain y diwrnod cynt, a gynhaliwyd gan Brif Weinidog y DU. Cafwyd trafodaeth bord gron hefyd gyda Changhellor y Trysorlys ynghylch cyfleoedd buddsoddi o fewn y DU, a oedd yn ymdrin â chyfleoedd a rhesymau dros fuddsoddi yng ngwledydd y DU. Hefyd, roedd y Prif Weinidog wedi cynnal sawl cyfarfod gyda buddsoddwyr posib.
Uwchgynhadledd Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau
2.2 Ddydd Gwener yr wythnos flaenorol, roedd y Prif Weinidog wedi mynychu Uwchgynhadledd gyntaf Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yng Nghaeredin.
Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru
2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n mynychu Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru yng Nghorc ddydd Iau.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer tua 6.45pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2024